Back
Murluniau newydd wedi'u hysbrydoli gan hanes a threftadaeth gerddorol Caerdydd

06 Hydref 2023

Mae murlun newydd a ysbrydolwyd gan dreftadaeth gerddorol Caerdydd ac a gynlluniwyd gan Unify Creative, yr artistiaid y tu ôl i 'Mona Lisa Butetown', wedi ymddangos mewn tanffordd yng nghanol dinas Caerdydd o dan Boulevard de Nantes sy'n cysylltu Ffordd y Brenin â'r Ganolfan Ddinesig.

A mural of a person holding a microphoneDescription automatically generated
Unify Creative

Mae ail furlun gan Wall-Op Murals, a ysbrydolwyd gan hanes y ddinas a gwaith William Burges yng Nghastell Caerdydd, wedi'i osod yn hen Dwnnel Camlas Morgannwg sy'n rhedeg o dan Ffordd y Brenin.

Mae'r murluniau wedi cael eu comisiynu gan Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Caerdydd, sy'n cynnwys Cyngor Caerdydd, Heddlu De Cymru, Comisiynydd Heddlu a Throseddu a phartneriaid statudol a thrydydd sector allweddol eraill.

A tunnel with graffiti on the wallsDescription automatically generated
Wall-Op Murals

Mae gwell goleuadau hefyd wedi'u gosod a chyflwynwyd camerâu teledu cylch cyfyng ychwanegol i'r ardal fel rhan o'r fenter, sy'n cael ei hariannu gan grant 'Strydoedd Saffach' Swyddfa Gartref y DU ac sydd wedi'i hanelu'n bennaf at gadw menywod yn ddiogel yng nghanol y ddinas.

Dwedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau:  "Gall celf gyhoeddus fod yn hynod bwerus ac mae'r murluniau hyn sy'n dathlu hanes cyfoethog Caerdydd a'i threftadaeth gerddorol amrywiol yn trawsnewid y tanffyrdd yn llwybrau cerdded lliwgar. Mae'r rhain yn llwybrau allweddol adref o ganol y ddinas, ac ynghyd â'r goleuadau newydd a'r teledu cylch cyfyng, mae'r murluniau beiddgar hyn yn helpu i greu amgylchedd sy'n teimlo'n fwy diogel ac yn fwy croesawgar."

Dywedodd y Cynghorydd Lynda Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau:  "Mae angen i bobl, ac yn enwedig menywod, allu cymdeithasu, gweithio a theithio o amgylch ein dinas heb deimlo dan fygythiad neu wedi'u haflonyddu, ac mae'r gwelliannau sy'n cael eu gwneud i'r tanffyrdd hyn yn gam tuag at ein nod o wneud Caerdydd yn un o'r dinasoedd mwyaf diogel yn y DU."

A mural of a person with headphones on a wallDescription automatically generated
Unify Creative

Yn ôl Yusuf Ismail o Unify Creative, dechreuodd y gwaith celf a ysbrydolwyd gan dreftadaeth gerddorol y ddinas a pha mor "annatod yw hi i hunaniaeth y ddinas," newid y naws yn y danffordd hyd yn oed cyn iddo gael ei orffen. Meddai: "Ers i'r celf ddechrau mynd i fyny, mae aelodau'r cyhoedd sy'n cerdded heibio wedi bod yn ymgysylltu'n gadarnhaol â'r murlun ac mae wedi trawsnewid y danffordd yn lle mwy diogel yn syth."

Dywedodd Robin Bonar-Law o Wall-Op Murals: "Mae'r murlun yn croesawu gorffennol enwog Caerdydd a'r dyfodol addawol. Y syniad yw ei fod yn adleisio treftadaeth bensaernïol y ddinas, gan gymryd ei ysbrydoliaeth o'r tu mewn i'r Castell a ysbrydolwyd gan Burges, ond gan ddod â chyffyrddiad ffres a chyfoes i'r twnnel.

"Nod y trawsnewidiad yw atal ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan greu ymdeimlad o gymuned a phositifrwydd yn lle, a gobeithio y bydd y murlun yn deyrnged i ysbryd parhaus Caerdydd, gan anrhydeddu ei hanes tra'n ychwanegu egni a bywyd cyfoes."