·
Ymweliad tywysog a thywysoges Cymru â Chaerdydd
heddiw
·
Cau Neuadd Dewi Sant am gyfnod hirach
·
Tîm Wardeiniaid newydd Canol y Ddinas
· Gardd
‘Annwyl Mam’ ym Mynwent y Gorllewin yn ennill aur mewn gwobrau cenedlaethol.
Tywysog a thywysoges Cymru yn ymweld â Chaerdydd
heddiw i ddathlu Mis Hanes Pobl Ddu
Mae tywysog a thywysoges
Cymru yn ymweld â Phafiliwn y Grange ac Ysgol Uwchradd newydd Fitzalan heddiw i
nodi dechrau Mis Hanes Pobl Ddu ac i ddathlu 75 mlynedd ers i’r HMT Empire
Windrush gyrraedd y DU.
Yn y cyntaf o ddau
ymrwymiad yn y ddinas, ymwelodd eu huchelderau brenhinol â Phafiliwn y Grange
yn Grangetown lle daeth disgyblion o Ysgolion Cynradd Howardian, Grangetown a
Sant Paul at ei gilydd i'w cyfarch.
Gwnaeth eu huchelderau
brenhinol gwrdd ag aelodau o Hynafiaid Windrush Cymru, Hanes Pobl Ddu Cymru 365
a Fforwm Ieuenctid Lleiafrifoedd Ethnig Cymru i glywed am y cyfraniad anhygoel
mae cenhedlaeth Windrush wedi'i wneud at gymunedau Cymru a dysgu am sut mae
unigolion ifanc o leiafrifoedd ethnig yn creu newid cadarnhaol yng Nghymru.
Cyfarfu'r ddau hefyd â
phobl ifanc sy'n gysylltiedig â'r Fforwm Ieuenctid Lleiafrifoedd Ethnig, panel
cynghori ieuenctid ar gyfer Race Council Cymru, pobl ifanc leol o’r gymuned
Somalïaidd ac aelodau o Cysylltiadau Ieuenctid Somaliland Cymru a Chlwb
Pêl-droed Cardiff Bay Warriors.
Yna aeth y pâr brenhinol i
Ysgol Uwchradd newydd Fitzalan lle clywsant gan ddisgyblion am y gwaith maen
nhw wedi bod yn ei wneud ar hanes pobl ddu a dysgu am y cyrsiau galwedigaethol
a'r cyfleoedd sydd ar gael yn yr ysgol.
Ym mis Medi 2023 agorodd yr
adeilad ysgol newydd, sydd werth £64m, ei ddrysau i ddisgyblion am y tro
cyntaf. Wedi'i ariannu ar y cyd gan Gyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru, dyma
gynllun diweddaraf Caerdydd o dan y Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, sy’n
darparu ystod o gyfleusterau o'r radd flaenaf i helpu disgyblion i gyflawni eu
potensial.
Mae nifer o ddisgyblion yn
yr ysgol yn berthnasau uniongyrchol i Hynafiaid Windrush Cymru ac yn dod o
amrywiaeth o gefndiroedd diwylliannol gyda 70% o ddisgyblion yn siarad Saesneg
fel ail iaith.
Yn ystod eu hymweliad,
clywodd eu huchelderau brenhinol gan ddisgyblion chweched dosbarth sy’n gweithio
ar wahanol feysydd pwnc Safon Uwch ac astudiaethau galwedigaethol, cyn ymweld
ag ystafell drochi newydd sbon yr ysgol lle gwnaethant wrando ar wers hanes yn
edrych ar fywyd yn Tiger Bay, ardal allweddol a oedd yn gartref i Genhedlaeth
Windrush, a phwysigrwydd dysgu am eu treftadaeth ddiwylliannol.
Gwnaeth y tywysog a'r
dywysoges gwrdd ag athrawon a disgyblion sy'n gweithio ar draws nifer o
brosiectau yn yr ysgol, gan gynnwys y prosiect garddio sy'n ceisio annog
disgyblion ifanc i ddysgu sut i dyfu planhigion a bwyd.
Yn olaf, cafodd eu
huchelderau brenhinol weld y gât fynediad newydd a ddyluniwyd mewn partneriaeth
â'r dylunydd o Lundain, Lara Sparey a disgyblion o'r ysgol i ymgorffori 'Beth
mae Fitzalan yn ei olygu i ni?' gydag amrywiaeth o symbolau a gwaith celf i
gynrychioli'r ysgol a Chymru.
Roedd Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y
Cynghorydd Bablin Molik, yn bresennol ar gyfer yr ymweliad brenhinol ag Ysgol
Uwchradd Fitzalan. Wrth edrych yn ôl ar y diwrnod dywedodd: "Mae wedi bod
yn anrhydedd croesawu tywysog a thywysoges Cymru i Gaerdydd heddiw, gan
arddangos rhai o'r prosiectau cymunedol gwych sy'n helpu i lunio dyfodol
Caerdydd.
“Roedd eu hymweliad â chartref newydd sbon Ysgol
Uwchradd Fitzalan yn gyfle
i daflu goleuni ar yr ystod eang o gyfleoedd sydd ar gael i ddisgyblion yn yr
ysgol a'r gwaith gwych sy'n cael ei gyflawni drwy gwricwlwm yr ysgol ar Fis
Hanes Pobl Ddu a chenhedlaeth Windrush."
Ychwanegodd y Cynghorydd Julie Sangani, yr Aelod
Cabinet dros Drechu Tlodi, Cydraddoldeb ac Iechyd y Cyhoedd: "Fel Aelod Cabinet sydd â chyfrifoldeb dros
Gydraddoldeb, rydw i wrth fy modd bod tywysog a thywysoges Cymru wedi nodi
dechrau Mis Hanes Pobl Ddu yma yng Nghaerdydd a dathlu’n gyhoeddus gysylltiad y
ddinas â chymuned Windrush a’i gwerthfawrogiad iddi.
"Mae gan Gaerdydd
gyfoeth o gymunedau amlddiwylliannol ac mae'n ddinas sy'n ymfalchïo mewn
cynhwysiant ac amrywiaeth. Heddiw mae nifer o grwpiau cymunedol a phobl leol
wedi rhannu eu profiadau a'r gwaith sy'n cael ei wneud i sicrhau bod gan
bobl o wahanol gefndiroedd berthnasoedd cadarnhaol, sy'n mynd tuag at helpu ein
dinas i ffynnu.
"Bydd Mis Hanes Pobl Ddu yn cael ei ddathlu
ledled y ddinas drwy gydol mis Hydref wrth i ni ddathlu a myfyrio ar hanes pobl
ddu, gan ddysgu o'r gorffennol i wella'r dyfodol."
Mae Pafiliwn y Grange yn
brosiect partneriaeth rhwng Prosiect Pafiliwn y Grange, Grangetown Community
Action, Prifysgol Caerdydd a Chyngor Caerdydd a arweiniodd at ailddatblygu hen
bafiliwn bowls yn gyfleuster cymunedol. Mae'r gofod yn cynnig caffi cymunedol, cyfleoedd
cyflogaeth a hyfforddiant ac mae wedi dod yn fan cyfarfod allweddol ar gyfer
Fforwm Ieuenctid Lleiafrifoedd Ethnig Cymru, Hynafiaid Windrush Cymru a Hanes
Pobl Ddu Cymru 365.
Sefydlwyd Hynafiaid
Windrush Cymru yn 2017 fel rhan o Race Council Cymru sy'n anelu at hyrwyddo
dealltwriaeth o bryderon ac anghenion hynafiaid lleiafrifoedd ethnig tra hefyd
yn dathlu cyfraniadau Cenhedlaeth Windrush a phobl o dras Affricanaidd yng
Nghymru.
Mae
strategaeth rheoli adeiladau ac iechyd a diogelwch wedi bod ar waith yn y
lleoliad am y deunaw mis diwethaf. Roedd
hyn yn cynnwys archwiliadau rheolaidd gan beirianwyr strwythurol annibynnol
gydag arbenigedd CAAD penodol.
Trwy gydol
y cyfnod hwn ni chodwyd unrhyw faterion am gyflwr CAAD yn yr adeilad ac nid
oedd tystiolaeth o ddirywiad - ac mae hyn yn wir o hyd.
Fodd
bynnag, mae'r Cyngor wedi parhau i ymgysylltu â'i yswirwyr a'i beirianwyr
strwythurol arbenigol ac, yn seiliedig ar gyngor a dderbyniwyd gan yr
arbenigwyr hynny, credwn ei bod yn ddoeth ac yn gyfrifol i gynnal arolygon
manwl i roi sicrwydd pellach i'n hunain a'r cyhoedd ar ddiogelwch y Neuadd.
Bydd hyn yn gofyn am ddrilio i baneli i gadarnhau eu gwneuthuriad mewnol ac i
benderfynu a oes angen unrhyw waith pellach i sicrhau diogelwch parhaus.
Tîm Wardeniaid Newydd Canol y
Ddinas
Gyda phum swyddog yn gweithio ar bob shifft bob
dydd, mae'r tîm yn gweithio'n agos gydag awdurdodau eraill i fynd i'r afael ag
unrhyw faterion sy'n codi a'u riportio, gan gynnwys gweithio gyda'r Tîm
Allgymorth i helpu pobl sy'n cysgu allan; atal pobl rhag beicio mewn ardaloedd
lle na chaniateir hynny, a rhoi gwybod i'r heddlu am unrhyw weithgarwch
troseddol.
Er mwyn sicrhau y gall staff y cyngor gyflawni eu dyletswyddau o ddydd i
ddydd yn ddiogel, bydd pob swyddog yn gwisgo camera corff, a fydd ond yn cael
ei actifadu os bydd digwyddiad yn codi.
Dylai staff, lle bo hynny'n bosibl, gyhoeddi ar lafar eu bod wedi dechrau'r
recordiad er mwyn sicrhau bod y rhai sy'n cael eu recordio gan lens y camera
a'r meicroffon yn ymwybodol eu bod nawr yn cael eu recordio.
Gardd 'Annwyl Mam' ym Mynwent y Gorllewin yn ennill
aur mewn gwobrau cenedlaethol
Mae gardd fynwent yng
Nghaerdydd, sy'n adrodd hanes llygoden ifanc o'r enw Dorasy'n
dymuno y gallai ddweud wrth ei mam faint mae hi'n ei cholli hi, wedi ennillGwobr Cymuned Brofedigaethus aur yng ngwobrau
blynyddol Mynwent y Flwyddyn.
Cafodd Mynwent Draenen
Pen-y-graig wobr arian yn y categori 'Tir Claddu Mawr' yn y seremoni wobrwyo
fawreddog hefyd.
Wedi'i dylunio ihelpu plant ifanc i ymdopi â cholli anwylyd a rhoi lle i rieni sydd wedi
colli babi ei gofio, yr ardd unigryw hon ym Mynwent y Gorllewin yn ardal Trelái
y ddinas yw'r cyntaf o'i bath yn y DU.