Mae'r datblygwr J G Hale Construction wedi adeiladu'r 13 tŷ cyngor
newydd, cymysgedd o gartrefi dwy, tair a phedair ystafell wely i’r teulu, ar
safle'r hen ganolfan fenter ar Wakehurst Place yn Llaneirwg.
Bydd y tai newydd, sy'n cael eu hadnabod bellach fel Ffos y Faendre, yn
cael eu dyrannu i deuluoedd ar restr aros tai'r ddinas. Ond cyn iddynt dderbyn
yr allweddi, ymwelodd Arweinydd y Cyngor, Huw Thomas a Chynghorydd Lynda
Thorne, yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, â'r datblygiad a gwblhawyd yn
ddiweddar i weld y cartrefi newydd sy'n hynod effeithlon o ran ynni.
Dywedodd y Cynghorydd Thorne:
"Mae'r cartrefi newydd hyn yn edrych yn wych ac rwy'n siŵr bod y
teuluoedd fydd yn symud i mewn yn fuan yn awyddus iawn i ymgartrefu yn eu
cartrefi newydd.
"Maent mewn lleoliad gwych, o fewn pellter cerdded i'r siopau lleol
a'n hyb cymunedol rhagorol sy'n darparu cymaint o wasanaethau a gweithgareddau.
"Mae'r galw presennol am dai fforddiadwy o ansawdd da yn y ddinas yn ddigynsail, ond rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddarparu cartrefi newydd, fel Ffos Y Faendre, cyn gynted ag y gallwn."
Dywedodd Andrew Collins, Rheolwr Contractau JG Hale
Construction: "Roedd JG Hale Construction yn falch iawn o gael ei ddewis
gan Gyngor Caerdydd i ddarparu cynllun mor arloesol i bobl leol.
"Bydd yr eiddo arloesol hyn yn ychwanegiad
ardderchog at stoc dai'r awdurdod, gan ddarparu cartrefi ynni-effeithlon iawn i
denantiaid sy'n cynnwys y technolegau diweddaraf i helpu i fynd i'r afael â
thlodi tanwydd.
"Rydym yn edrych ymlaen at greu
datblygiadau newydd pellach o gartrefi o ansawdd uchel i'r awdurdod yn y
dyfodol agos."
Mae pob eiddo wedi cael ei ddylunio gyda dull ffabrig yn gyntaf i
sicrhau bod ei berfformiad ynni yn rhagori ar y Rheoliadau Adeiladu presennol.
Mae pob eiddo yn cyflawni gradd Tystysgrif Perfformiad Ynni (TPY) A. Daw'r holl
wresogi a dŵr poeth yn y tai o Bwmp Gwres Ffynhonnell Aer a fydd yn helpu i
ostwng biliau tanwydd a lleihau allyriadau carbon.
Mae'r datblygiad yn rhan o raglen adeiladu
ychwanegol y Cyngor sy'n cyfrannu at darged cyffredinol yr awdurdod o ddarparu
4,000 o eiddo newydd - bydd 2,700 o'r rhain yn gartrefi cyngor yng Nghaerdydd
dros y blynyddoedd nesaf.