Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 26 Medi 2023

Dyma'r diweddaraf gennym ni, sy'n cynnwys:

  • Adfer Marchnad Caerdydd - Cyhoeddi Cyllid Cronfa Dreftadaeth y Loteri
  • Derbyn i Ysgolion Uwchradd - ceisiadau ar gyfer Medi 2024 nawr ar agor
  • The Sustainable Studio - hen Glwb Trafnidiaeth wedi'i ailwampio fel gofod creadigol dan arweiniad artistiaid

 

Cymorth gwerth £2.1 miliwn gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol i adfer Marchnad Caerdydd

Mae Cyngor Caerdydd wedi sicrhau cyllid gwerth £2.1 miliwn tuag at adferiad sylweddol o Farchnad Ganolog hanesyddol Caerdydd drwy Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae'r wobr ariannol wedi bod yn bosibl diolch i'r arian a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.

Disgwylir y bydd angen buddsoddiad o tua £6.5 miliwn ar y gwaith arfaethedig o adfer adeilad Rhestredig Gradd II* y farchnad Fictoraidd. Pe bai cyllid llawn yn cael ei sicrhau, byddai'r gwaith adfer yn cynnwys datgelu nodweddion dylunio gwreiddiol yr adeilad, adfer y mynedfeydd traddodiadol a'r stondinau gwreiddiol, trwsio'r to gwydr eiconig a gwella'r system ddraenio Fictoraidd.

Byddai gwaith atgyweirio hefyd yn cael ei wneud i gloc H.Samuel y farchnad, byddai'r 'llawr ffug' a osodwyd wrth fynedfa Heol y Drindod yn y 1960au yn cael ei dynnu, a byddai ystafell weithgareddau ac addysg newydd yn cael ei chyflwyno, ynghyd ag ardal fwyta newydd â 70 sedd. Mae'r cynlluniau hefyd yn cynnwys gosod goleuadau LED ynni effeithlon newydd a phaneli solar ar y to.

Wrth groesawu'r newyddion am y cyllid grant, dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd y Cyngor: "Yn dilyn y newyddion bod y Cabinet wedi cytuno ar y cynlluniau yr wythnos diwethaf, mae'r gefnogaeth hon gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn gam sylweddol tuag at gyflawni ein nod o ddiogelu a sicrhau dyfodol Marchnad Caerdydd.

"Mae'r farchnad wedi bod yn ofod pwysig yng nghanol y ddinas i fasnachwyr bach annibynnol ers bron i 130 o flynyddoedd, ac erbyn hyn mae'n croesawu mwy na dwy filiwn o bobl bob blwyddyn. Ar ôl sicrhau'r cyllid llawn, bydd y gwaith adfer yn sicrhau ei fod yn parhau i fod yn galon brysur y ddinas am flynyddoedd lawer i ddod."

Darllenwch fwy yma

 

Ceisiadau am Leoedd Uwchradd ar gyfer Medi 2024 nawr yr agor

Bydd ceisiadau am leoedd uwchradd i ddechrau ym mis Medi 2024 nawr yr agor nawr ac mae teuluoedd yn cael eu hatgoffa y gall cyflwyno cais yn brydlon a nodi pum dewis gynyddu'r siawns o gael lle yn un o'r ysgolion maen nhw'n eu ffafrio.

Mae Tîm Derbyn Cyngor Caerdydd wedi rhoi cyngor ac arweiniad cam wrth gam syml ar ffurf 7 o gynghorion, i helpu teuluoedd sy'n gwneud cais am le mewn ysgol yng Nghaerdydd.

Mae gwybodaeth ar gael ar-lein a thrwy animeiddiad wedi'i anelu at blant a theuluoedd, gan helpu i esbonio sut mae'r broses dderbyn yn gweithio a phwysigrwydd defnyddio'r pum dewis sydd ar gael. 

Pe bai teulu'n dewis rhoi un opsiwn ysgol yn unig, er enghraifft, maent yn cyfyngu'n fawr ar eu siawns o sicrhau ysgol maen nhw'n ei ffafrio.

Mae hefyd yn cwmpasu pethau megis:

  • Pwysigrwydd gwneud cais yn brydlon, erbyn y dyddiad cau cyhoeddedig ar gyfer gwneud cais
  • Manteision ystyried yr holl ysgolion yn yr ardal y mae'r plentyn yn byw ynddi trwy edrych ar eu gwefannau a darllen eu hadroddiadau Estyn 
  • Gwneud yn siŵr bod y ffurflen gais yn cynnwys gwybodaeth hanfodol fel a oes gan y plentyn frawd neu chwaer yn yr ysgol neu unrhyw anghenion dysgu, meddygol neu gymdeithasol ychwanegol. 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Sarah Merry: "Ein bwriad o hyd yw sicrhau bod gan bob teulu yng Nghaerdydd y wybodaeth, y gefnogaeth a'r ddealltwriaeth i helpu i sicrhau nad ydynt dan anfantais wrth wneud cais am le mewn ysgol.

"Caiff teuluoedd eu hatgoffa o'r ffaith nad yw nodi un ysgol ar eu ffurflen gais yn cynyddu eu siawns o gael eu derbyn i'r ysgol honno. Yn hytrach, os na fyddant yn manteisio ar ddefnyddio'r pum dewis, mae mwy o siawns y bydd lleoedd yn cael eu dyrannu, ac efallai y byddant yn colli lle mewn un o'r ysgolion maen nhw'n eu ffafrio.

"Er mwyn helpu i wneud y broses o wneud cais am le mewn ysgol mor deg a syml â phosibl mae cyfres o fentrau ar waith i hyrwyddo system decach o ddyrannu lleoedd mewn ysgolion yng Nghaerdydd. Mae hyn yn cynnwys ein hymgyrch derbyn 7 o gynghorion sy'n rhoi arweiniad a chymorth i deuluoedd, gan wneud y broses dderbyn yn syml ac yn dryloyw fel bod gan bawb yr un siawns o sicrhau lle yn un o'r ysgolion maen nhw'n eu ffafrio."

Darllenwch fwy yma

 

Cyngor yn sicrhau cartref newydd ar gyfer gofod i artistiaid

Mae gwneuthurwyr, crewyr a busnesau newydd creadigol sy'n gweithio mewn stiwdios sydd wedi'u clustnodi i'w datblygu fel rhan o adfywio Heol Dumballs yng Nghaerdydd wedi sicrhau cartref dros dro newydd gyda chymorth Cyngor Caerdydd.

Yn ddiweddar, llofnododd The Sustainable Studio, darparwr gofod stiwdio fforddiadwy i artistiaid, brydles tair blynedd ar hen Glwb Trafnidiaeth ar Stryd Tudor, gan roi cartref diogel iddynt yn y cyfamser, lle gallant barhau â'u gwaith.

Ar ôl gwneud rhywfaint o waith adnewyddu, mae'r sefydliad yn bwriadu defnyddio'r safle i ddatblygu eu gwaith presennol, ac ehangu eu darpariaeth ar gyfer cymunedau a phobl ifanc, gan gynnig:

  • Mentora, interniaethau a lleoliadau profiad gwaith
  • Gweithdai cymunedol, a gweithgareddau i ymgysylltu â phobl ifanc
  • Caffi bach
  • Marchnadoedd gwneuthurwyr, arddangosfeydd a digwyddiadau
  • Llogi gofod digwyddiadau ar gyfer sesiynau tynnu lluniau, gigs, ffilmio a digwyddiadau cymunedol; yn ogystal â
  • Stiwdios Fforddiadwy i Wneuthurwyr ac Artistiaid

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke:  "Mae llwyddiant sector creadigol Caerdydd o bwys mawr i Gaerdydd yn economaidd ac yn ddiwylliannol. Mae The Sustainable Studio wedi bod yn rhan allweddol o sector creadigol Caerdydd ers blynyddoedd lawer, ac rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu dod o hyd i ffordd i'w helpu i ddod o hyd i le newydd fel y gallant barhau i ffynnu yn y blynyddoedd i ddod."

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne:  "Nid yw adeiladau gwag yn gwneud ffafr ag unrhyw un, felly mae dod o hyd i sefydliad sy'n gallu defnyddio'r Clwb Trafnidiaeth dros dro wrth i ni barhau i ddatblygu cynllun tymor hwy ar gyfer y safle, tra'n darparu buddion i'r gymuned leol hefyd, yn newyddion da i bawb."

Darllenwch fwy yma