Back
Cymorth gwerth £2.1 miliwn gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol i adfer Marchnad Caerdydd

26.9.23

Mae Cyngor Caerdydd wedi sicrhau cyllid gwerth £2.1 miliwn tuag at adferiad sylweddol o Farchnad Ganolog hanesyddol Caerdydd drwy Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol. Mae'r wobr ariannol wedi bod yn bosibl diolch i'r arian a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.

Disgwylir y bydd angen buddsoddiad o tua £6.5 miliwn ar y gwaith arfaethedig o adfer adeilad Rhestredig Gradd II* y farchnad Fictoraidd. Pe bai cyllid llawn yn cael ei sicrhau, byddai'r gwaith adfer yn cynnwys datgelu nodweddion dylunio gwreiddiol yr adeilad, adfer y mynedfeydd traddodiadol a'r stondinau gwreiddiol, trwsio'r to gwydr eiconig a gwella'r system ddraenio Fictoraidd.

Byddai gwaith atgyweirio hefyd yn cael ei wneud i gloc H.Samuel y farchnad, byddai'r 'llawr ffug' a osodwyd wrth fynedfa Heol y Drindod yn y 1960au yn cael ei dynnu, a byddai ystafell weithgareddau ac addysg newydd yn cael ei chyflwyno, ynghyd ag ardal fwyta newydd â 70 sedd. Mae'r cynlluniau hefyd yn cynnwys gosod goleuadau LED ynni effeithlon newydd a phaneli solar ar y to.

Wrth groesawu'r newyddion am y cyllid grant, dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd y Cyngor: "Yn dilyn y newyddion bod y Cabinet wedi cytuno ar y cynlluniau yr wythnos diwethaf, mae'r gefnogaeth hon gan Gronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yn gam sylweddol tuag at gyflawni ein nod o ddiogelu a sicrhau dyfodol Marchnad Caerdydd.

"Mae'r farchnad wedi bod yn ofod pwysig yng nghanol y ddinas i fasnachwyr bach annibynnol ers bron i 130 o flynyddoedd, ac erbyn hyn mae'n croesawu mwy na dwy filiwn o bobl bob blwyddyn. Ar ôl sicrhau'r cyllid llawn, bydd y gwaith adfer yn sicrhau ei fod yn parhau i fod yn galon brysur y ddinas am flynyddoedd lawer i ddod."

A group of people in a marketDescription automatically generated

Sut y gallai Marchnad Caerdydd edrych yn dilyn y gwaith adfer.

Dywedodd Prif Weithredwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol, Eilish McGuinness: "Rwyf wrth fy modd ein bod wedi gallu rhoi cefnogaeth sylweddol i adfywio a chadw treftadaeth ryfeddol Marchnad Caerdydd. Mae arbed treftadaeth yn greiddiol i'r hyn a wnawn, ac rydym yn edrych ymlaen at weld y gwaith gwych o adfer y safle hwn yn gwella cyflwr a dealltwriaeth o'r dreftadaeth bwysig, gan leihau nifer yr 'adeiladau treftadaeth mewn perygl', a chyflawni prosiect trawsnewidiol ar gyfer cymunedau ledled Cymru a thu hwnt. Bydd arian y Loteri Genedlaethol yn helpu i sicrhau y bydd y gofod treftadaeth hwn yn cael ei werthfawrogi, ei ofalu amdano a'i gynnal ar gyfer dyfodol pawb.

Cymeradwywyd strategaeth ariannu lawn ar gyfer y prosiect adfer yn ddiweddar, gan nodi cynlluniau i ariannu'r gwaith trwy gyfuniad o grantiau a benthyciadau allanol, ynghyd â buddsoddiad uniongyrchol gan y Cyngor.

Ar yr amod y caiff cyllid llawn ei sicrhau'n llwyddiannus, disgwylir i'r gwaith adfer ddechrau yn Haf 2024.