Back
Ceisiadau am Leoedd Uwchradd ar gyfer Medi 2024 yn agor heddiw

25/09/23

Bydd ceisiadau am leoedd uwchradd i ddechrau ym mis Medi 2024 yn agor heddiw (dydd Llun 25 Medi 2023) ac mae teuluoedd yn cael eu hatgoffa y gall cyflwyno cais yn brydlon a nodi pum dewis gynyddu'r siawns o gael lle yn un o'r ysgolion maen nhw'n eu ffafrio.

Mae Tîm Derbyn Cyngor Caerdydd wedi rhoi cyngor ac arweiniad cam wrth gam syml ar ffurf 7 o gynghorion, i helpu teuluoedd sy'n gwneud cais am le mewn ysgol yng Nghaerdydd.

Mae gwybodaeth ar gael ar-lein a thrwy animeiddiad wedi'i anelu at blant a theuluoedd, gan helpu i esbonio sut mae'r broses dderbyn yn gweithio a phwysigrwydd defnyddio'r pum dewis sydd ar gael. 

Pe bai teulu'n dewis rhoi un opsiwn ysgol yn unig, er enghraifft, maent yn cyfyngu'n fawr ar eu siawns o sicrhau ysgol maen nhw'n ei ffafrio.

Mae hefyd yn cwmpasu pethau megis:

  • Pwysigrwydd gwneud cais yn brydlon, erbyn y dyddiad cau cyhoeddedig ar gyfer gwneud cais
  • Manteision ystyried yr holl ysgolion yn yr ardal y mae'r plentyn yn byw ynddi trwy edrych ar eu gwefannau a darllen eu hadroddiadau Estyn 
  • Gwneud yn siŵr bod y ffurflen gais yn cynnwys gwybodaeth hanfodol fel a oes gan y plentyn frawd neu chwaer yn yr ysgol neu unrhyw anghenion dysgu, meddygol neu gymdeithasol ychwanegol. 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Sarah Merry: "Ein bwriad o hyd yw sicrhau bod gan bob teulu yng Nghaerdydd y wybodaeth, y gefnogaeth a'r ddealltwriaeth i helpu i sicrhau nad ydynt dan anfantais wrth wneud cais am le mewn ysgol.

"Caiff teuluoedd eu hatgoffa o'r ffaith nad yw nodi un ysgol ar eu ffurflen gais yn cynyddu eu siawns o gael eu derbyn i'r ysgol honno. Yn hytrach, os na fyddant yn manteisio ar ddefnyddio'r pum dewis, mae mwy o siawns y bydd lleoedd yn cael eu dyrannu, ac efallai y byddant yn colli lle mewn un o'r ysgolion maen nhw'n eu ffafrio.

"Er mwyn helpu i wneud y broses o wneud cais am le mewn ysgol mor deg a syml â phosibl mae cyfres o fentrau ar waith i hyrwyddo system decach o ddyrannu lleoedd mewn ysgolion yng Nghaerdydd. Mae hyn yn cynnwys ein hymgyrch derbyn 7 o gynghorion sy'n rhoi arweiniad a chymorth i deuluoedd, gan wneud y broses dderbyn yn syml ac yn dryloyw fel bod gan bawb yr un siawns o sicrhau lle yn un o'r ysgolion maen nhw'n eu ffafrio."

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus ar Drefniadau Derbyn i Ysgolion Cyngor Caerdydd ar gyfer 2024/25, mae newidiadau i'r broses ceisiadau derbyn yn y ddinas.  Eleni mae Ysgol Uwchradd Mair Ddihalog yn ymuno ag 16 ysgol uwchradd arall ym mhroses derbyniadau ysgol gydlynol Caerdydd. 

Mae Cyngor Caerdydd wedi llwyddo i gydlynu ei drefniadau derbyn ers y flwyddyn 2018/2019. Nawr, mae pob un o 12 ysgol uwchradd gymunedol y ddinas, a phump ysgol bartner, Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd, Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Teilo Sant, Ysgol Uwchradd Gatholig Corpus Christi, Ysgol Mair Ddihalog ac Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf wedi ymuno â'r cynllun sy'n galluogi rhieni i gyflwyno pob ysgol a ffefrir ganddynt ar un cais ar-lein. 

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry:  "Bellach yn ei seithfed flwyddyn, mae derbyniadau cydlynol Caerdydd yn helpu i symleiddio'r broses o wneud cais am le mewn ysgol drwy ganiatáu i rieni ddatgan eu trefn o ran yr ysgolion maen nhw'n eu ffafrio ar un cais. Mae hyn yn rhoi gwell cyfle i sicrhau ysgol maen nhw'n ei ffafrio yn y rownd gyntaf o dderbyniadau. 

Mae'r system hefyd yn atal rhieni rhag derbyn nifer o gynigion, a fyddai fel arall yn atal plant eraill rhag cael cynnig y lleoedd hyn, gan helpu i ddileu straen diangen i'r teuluoedd na fyddent fel arall yn sicrhau lle.

"Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda'r Archesgobaeth Gatholig ac Esgobaeth yr Eglwys yng Nghymru i ehangu'r trefniadau cydlynol ac rwy'n falch bod Ysgol Mair Ddihalog wedi penderfynu ymuno â'r broses, gan helpu i sicrhau ffordd decach a haws o wneud cais am le ysgol."

Mae'r ymgyrch 7 o gynghorion gan Derbyn i Ysgolion yn cefnogi addewid Caerdydd i fod yn un o Ddinasoedd sy'n Dda i Blant cyntaf UNICEF yn y DU, gan osod hawliau a lleisiau plant a phobl ifanc wrth wraidd polisïau, strategaethau a gwasanaethau Caerdydd. 

Os oes unrhyw deuluoedd yn ansicr am unrhyw agwedd ar y broses, gallant gael cymorth gan ein staff yn Hybiau'r Cyngor ledled y ddinas neu drwy ffonio C2C ar 029 20872088.

I weld y canllawiau 7 o gynghorion a'r animeiddiad ewch i:https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Ysgolion-a-dysgu/Ysgolion/Gwneud-cais-am-le-mewn-ysgol/help-i-wneud-cais/Pages/default.aspx

Mae'r wybodaeth hefyd ar gael mewn sawl iaith gan gynnwys Arabeg, Bengaleg, Cantoneg, Tsieceg, Mandarin, Pwyleg, Portiwgaleg, Rwmaneg, Rwseg, Somalïeg, Wcreineg a Chymraeg wrth gwrs.

Bydd ceisiadau am le mewn ysgol uwchradd ym mis Medi 2024 yn cau ddydd Llun 20 Tachwedd 2023.   

I wneud cais am le ysgol ewch i:https://www.cardiff.gov.uk/CYM/preswylydd/Ysgolion-a-dysgu/Ysgolion/Gwneud-cais-am-le-mewn-ysgol/Ysgol-Uwchradd/Pages/default.aspx