Back
Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn creu DYDDiau Da o Haf i gannoedd o bobl ifanc

21/9/2023


Mae rhaglen 'DYDDiau Da o Haf' Caerdydd wedi rhoi chwe wythnos o weithgareddau, digwyddiadau a phrofiadau i gannoedd o bobl ifanc, gan roi cyfle iddynt wneud ffrindiau newydd a rhoi cynnig ar bethau newydd.

Roedd rhaglen Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn cynnig rhaglen gynhwysol, llawn hwyl o weithgareddau ar gyfer pobl ifanc 11-25 oed yng Nghaerdydd, yn cynnwys teithiau dydd, sesiynau blasu mewn crochenwaith, adeiladu, cerddoriaeth a harddwch, gwersylla, amrywiaeth o chwaraeon a mwy.

Cynhaliwyd y fenter o ganol mis Gorffennaf ar draws y ddinas, gan gynnig calendr cynhwysfawr o ddigwyddiadau drwy gydol gwyliau'r ysgol. Cymerodd Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd feddiant o'r Ganolfan Dŵr Gwyn Ryngwladol, cynhaliwyd grwpiau lles, gwersyll haf, gŵyl creu cynnwys, gweithgareddau creadigol a chynnal grwpiau cyfnewid ieuenctid o America a'r Almaen.

Mae rhaglen digwyddiadau'r haf yn rhan o gynnig ehangach gan Wasanaethau Ieuenctid Cyngor Caerdydd, sy'n cynnwys 7 canolfan ieuenctid, amrywiaeth o brosiectau ar draws y ddinas a chymorth arall, gan gynnwys darpariaeth un i un. Mae gan Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd 3,500 o aelodau Gwasanaeth Ieuenctid ac mae'n gwneud dros 40,000 o gysylltiadau â phobl ifanc bob blwyddyn.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Drechu Tlodi a Chefnogi Pobl Ifanc, y Cynghorydd Peter Bradbury; "Mae rhaglen digwyddiadau'r haf eleni wedi rhoi cyfle i gannoedd o bobl ifanc gael amrywiaeth eang o ddarpariaeth a chyfleoedd i ymgysylltu â nhw. Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd a phartneriaid yn parhau i gynnig gwasanaethau i bobl ifanc sy'n cynnwys clybiau ieuenctid mewn cymunedau fel Llaneirwg, Trelái a Chaerau, Llanedern, Butetown, Y Sblot, yn ogystal â phrosiectau ar draws y ddinas sy'n cynnwys gwaith ieuenctid dwyieithog, digidol ac ar y stryd.

"Mae ein prosiectau'n cynnig lle diogel i bobl ifanc ymlacio, dysgu sgiliau newydd a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau sy'n cynnwys coginio, celf a chrefft, cerddoriaeth a chwaraeon."

Bydd llawer mwy o weithgareddau, clybiau a chyfleoedd yn cael eu cynnal drwy gydol yr hydref. I gael rhagor o wybodaeth am Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd ewch i'r wefan:http://cardiffyouthservices.wales/cy/ 

Neu dilynwch nhw ar y cyfryngau cymdeithasol:

Facebook ac Instagram - @CardiffYouthService
Twitter- @YouthCardiff