Back
Mae blwyddyn gyntaf y Gronfa Ffyniant a Rennir yn gweld miliynau yn cael eu rhannu rhwng prosiectau

18.09.23
Mae cyfran Caerdydd o Gronfa Ffyniant Gyffredin (CFfG) y Llywodraeth - a gynlluniwyd i ddisodli'r cyllid a ddarparwyd yn flaenorol gan yr UE - wedi cael ei wario er budd cannoedd o bobl a phrosiectau ledled y ddinas.

Lansiwyd y gronfa, sy'n rhan o strategaeth Codi’r Gwastad y  Llywodraeth, ym mis Tachwedd y llynedd i wneud iawn am golli Cronfeydd Strwythurol yng Nghymru.

Nawr, mae adroddiad newydd i Gabinet y Cyngor wedi amlinellu sut mae cyfran Caerdydd - sy'n cael ei goruchwylio gan y Cyngor - yn cael ei dosbarthu.

Yn y cyfnod hyd at ddiwedd mis Mawrth eleni, mae dros £5.2m wedi ei wario ar brosiectau gan gynnwys:

  •  Mwy na 140 o weithgareddau celfyddydol wedi'u cefnogi yn Neuadd Llanofer (Yn y llun uchod)
  • Adnewyddu Hyb Rhiwbeina
  • Gwelliannau i gysgodi a goleuo ym Mharc Llaneirwg
  • 200 o ddigwyddiadau wedi'u cefnogi ar gyfer pobl ifanc
  • Cefnogi mwy na 3,000 o ddiwrnodau casglu sbwriel
  • Sefydlu naw parth ailgylchu cymunedol
  • Cefnogi mwy na 600 o bobl i gymryd rhan mewn cyrsiau rhifedd
  • Addysg a hyfforddiant i bobl ifanc ledled y ddinas, gyda chymorth wedi'i dargedu ar gyfer rhai o'r bobl ifanc mwyaf agored i niwed yng Nghaerdydd
  • Cymorth uniongyrchol i leoliadau cerddoriaeth
  • Cefnogi gweithgareddau clwb swyddi i helpu pobl gyda chyflogaeth, budd-daliadau a thai, a
  • Gwelliannau i ffyrdd beicio yn Hen Laneirwg a Pharc Llanisien
  • Gwell gweithrediadau rheoli canol y ddinas
  • Darparu cyflogaeth, budd-daliadau a chymorth tai yn uniongyrchol i drigolion Caerdydd

Cyn blwyddyn olaf y rhaglen CFfG, cynhaliwyd digwyddiad ymgysylltu pellach ym mis Mehefin eleni i helpu i rannu blaenoriaethau. Yn dilyn hynny, cynigiwyd rhaglen CFfG wedi'i diweddaru a fydd yn dyrannu £8.6m ar gyfer prosiectau gan gynnwys:

  • Galwad agored gwerth mwy na £5m ar gyfer prosiectau cymunedol gyda chyllid o hyd at £250,000
  • Cyllid grant ychwanegol ar gyfer busnesau bach
  • Buddsoddi mewn cyfleusterau cymunedol a'r rhaglen Adnewyddu Cymdogaeth
  • Cymorth i leoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad
  • Cyllid i gefnogi adferiad Marchnad Caerdydd

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, arweinydd Cyngor Caerdydd, fod y CFfG eisoes wedi helpu i gefnogi llawer o brosiectau presennol a sicrhau bod modd creu llawer o raglenni newydd yn y ddinas .

"Rydym wedi gallu defnyddio'r CFfG i gryfhau ein hymrwymiadau cryfach, tecach, gwyrddach i drigolion Caerdydd. Mae wedi helpu i gynnalrhai o'r gwasanaethau hanfodol hynny y mae ein cymunedau yn dibynnu arnynt, tra hefyd yn galluogi mentrau, digwyddiadau a gweithgareddau newydd sy'n cefnogi cydraddoldeb ac yn dathlu amrywiaeth yng Nghaerdydd.

"Mae'r CFfG yn cyd-fynd yn berffaith â strategaeth Cryfach, Decach, Gwyrddach y Cyngor ac mae wedi darparu rhai gwasanaethau hanfodol i gymunedau yn y ddinas, gan gefnogi digwyddiadau a gweithgareddau sy'n helpu cymunedau i gydweithio, hyrwyddo cydraddoldeb a dathlu amrywiaeth. Mae hefyd yn buddsoddi'n uniongyrchol yn ein busnesau ac yn cefnogi pobl ledled Caerdydd i gael mynediad at gyfleoedd cyflogaeth." 

Bydd yr adroddiad yn cael ei drafod yng nghyfarfod pwyllgor Cabinet y Cyngor ddydd Iau 21 Medi, am 2pm. Bydd yr adroddiad llawn ar gael i'w weld ar ôl 6pm, dydd Gwener, 15 Medi, yma

Gan ddefnyddio'r un ddolen byddwch hefyd yn gallu gweld gweddarllediad byw o gyfarfod y Cabinet o 2pm, dydd Iau, 21 Medi.