14.9.23
Gallai cynigion ar gyfer adfer adeilad hanesyddol Rhestredig Gradd II* Marchnad Ganolog Caerdydd, a fyddai'n datgelu nodweddion dylunio gwreiddiol, adfer y mynedfeydd traddodiadol a'r stondinau gwreiddiol, trwsio'r to, a gwneud gwelliannau i'r system ddraenio Fictoraidd, yn ogystal â chyflwyno ardal eistedd newydd, arwain at fuddsoddiad gwerth mwy na £6 miliwn i sicrhau dyfodol hirdymor yr adeilad.
Sut y gallai Marchnad Caerdydd edrych yn dilyn y gwaith adfer, gan gynnwys gwaith hanfodol i drwsio'r to.
Gallai'r gwaith adfer, a fydd, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar, helpu i "gadw'r farchnad i weithredu" ac "atal dirywiad pellach" yr adeilad treftadaeth, a gallai gael ei ariannu drwy gyfuniad o grantiau a benthyciadau allanol, yn ogystal â buddsoddiad uniongyrchol gan Gyngor Caerdydd. Mae cyllid 'mewn egwyddor' eisoes wedi'i gytuno gan Lywodraeth Cymru a'r Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd y Cyngor: "Mae'n ymwneud ag adfer un o'n hadeiladau mwyaf eiconig yng nghanol y ddinas. Mae 130 mlynedd o hanes o dan do Marchnad Caerdydd, hanes y mae'r cynigion hyn yn gobeithio ei amddiffyn, cadw a diogelu at y dyfodol, fel bod y Farchnad yn parhau i fod wrth wraidd canol y ddinas am flynyddoedd i ddod."
Yn amodol ar sicrhau cyllid, bydd y gwaith yn cynnwys:
Mae'r gwaith adfer yn cynnwys cael gwared ar lawr ffug, a ychwanegwyd yn y 1960au yn ardal y gwerthwyr pysgod er mwyn datgelu nodweddion dylunio gwreiddiol.
Rhoddwyd Caniatâd Adeilad Rhestredig i'r gwaith adfer ac atgyweirio ym mis Awst 2023 ac mae disgwyl trafod strategaeth ariannu i gyflawni'r prosiect mewn Cyfarfod Cabinet Cyngor Caerdydd ddydd Iau 21 Medi.
Os caiff cyllid ei sicrhau'n llwyddiannus, y gobaith yw y bydd y gwaith adfer yn dechrau yn Haf 2024.
Beth fydd yn digwydd i'r masnachwyr yn ystod y gwaith?
Yn dilyn cyngor gan arbenigwyr annibynnol, ac ymgynghoriad â masnachwyr presennol yn y Farchnad, cynigir bod y Farchnad yn parhau ar agor yn ystod y gwaith adfer. Er mwyn galluogi hyn, bydd y gwaith yn digwydd fesul cam gan adleoli grwpiau o denantiaid dros dro i unedau ar yr Aes, yn union y tu allan i'r Farchnad, am hyd at 12 wythnos.
Beth fydd yn digwydd i'r masnachwyr ar ôl i'r gwaith gael ei gwblhau?
Er mwyn gosod yr ardal eistedd newydd ar y llawr gwaelod, a gynigir ar gyfer bloc canolog yr ardal ogleddol, bydd nifer fach o fasnachwyr yn cael eu hadleoli o fewn y Farchnad. Er mwyn sicrhau bod tenantiaid sydd wedi'u hadleoli yn cael cynnig y lleoliadau amgen gorau yn y farchnad, bydd y Cyngor yn cadw unrhyw stondinau gwag nes cwblhau'r gwaith adfer ar gyfer y tenantiaid hyn.
A fydd rhent masnachwyr yn cynyddu?
Er mwyn cefnogi masnachwyr, mae'r adolygiadau rhent sy'n rhan o drefniadau'r brydles ar gyfer stondinau ym Marchnad Caerdydd wedi'u hoedi ers dechrau'r pandemig. Yn ymarferol mae hyn yn golygu nad yw llawer o fasnachwyr wedi gweld rhenti yn cynyddu ers 2017. Bydd rhenti yn parhau ar y lefelau presennol drwy gydol y prosiect adfer.
Disgwylir i adolygiadau rhent ailgychwyn, yn unol â chytundebau tenantiaeth unigol, ar ôl cwblhau'r gwaith adfer. Yn hanesyddol, mae rhenti wedi'u cadw islaw gwerth y farchnad ar gyfer mannau tebyg yng nghanol y ddinas.Tra y bydd unrhyw newidiadau mewn rhent yn rhan o'r adolygiad hwn ar ôl adfer y farchnad yn cael eu llywio gan ddadansoddiad gwerth marchnad, cynigir hefyd lleihau effaith bosibl yr adolygiad rhenti ar unrhyw denant presennol y farchnad. Yn rhan o hyn bydd unrhyw gynnydd mewn rhent ar sail raddol dros dair blynedd.
Bydd Pwyllgor Craffu'r Economi a Diwylliant y Cyngor yn craffu ar y cynigion ar gyfer Marchnad Caerdydd o ddydd Mawrth 19 Medi. Gellir gweld papurau ar gyfer y cyfarfod, gan gynnwys Adroddiad y Cabinet, yma: https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=142&MId=8181&LLL=1 Bydd ffrwd fyw o'r cyfarfod hefyd ar gael o 4.30pm ar y diwrnod.
Yna bydd yr adroddiad yn cael ei drafod mewn Cyfarfod Cabinet Cyngor Caerdydd, fydd yn dechrau am 2pm ddydd Iau 21 Medi. Bydd ffrwd fyw o'r cyfarfod hwnnw ar gael i'w gwylio ar y diwrnod yma: https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=151&MId=8209&Ver=4&LLL=1