14/9/2023
Mae Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sant Paul, sydd yng nghanol Grangetown, wedi cael ei chydnabod gan Estyn am ei hymrwymiad i addysg gynhwysol a lles myfyrwyr.
Yn dilyn arolwg diweddar, mae Arolygiaeth Addysg Cymru wedi canmol yr ysgol am ei hymrwymiad i ddiogelwch, lles a chynnydd ei holl ddisgyblion ac wedi cydnabod ymroddiad diwyro i feithrin ymdeimlad o gymuned a pharch ymhlith disgyblion o wahanol gefndiroedd, diwylliannau a galluoedd.
Gyda 224 o ddisgyblion ar y gofrestr, nododd arolygwyr fod cwricwlwm yr ysgol wedi'i gynllunio o amgylch cwestiynau sy'n ennyn diddordeb ac yn ysgogi'r meddwl ac yn rhoi disgyblion wrth wraidd eu taith ddysgu. Mae'r dull hwn wedi eu galluogi i archwilio'r celfyddydau creadigol, datblygu sgiliau corfforol, a dysgu am eu treftadaeth ddiwylliannol. Yn arbennig, mae ymrwymiad yr ysgol i feithrin sgiliau Saesneg, mathemategol a digidol wedi arwain at gynnydd clodwiw ymhlith myfyrwyr.
Er bod yr adroddiad yn tynnu sylw at arferion addysgu cryf yr ysgol a'i chefnogaeth ar gyfer disgyblion ag anghenion ychwanegol, pwysleisiodd hefyd bwysigrwydd annog meddwl yn annibynnol. Disgwylir i'r ysgol adeiladu ar ei harferion presennol i gynnig hyd yn oed mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr ddatblygu fel dysgwyr annibynnol.
Mae'r adroddiad hefyd yn cydnabod yr angen i gryfhau sgiliau Cymraeg, maes lle mae'r ysgol yn dyheu am wella ei chynnig.
Mae'r ysgol yn awyddus i ymgymryd â'r argymhellion a gynigir gan Estyn ac mae'n llunio cynllun gweithredu i fynd i'r afael â'r meysydd datblygu hyn sy'n cynnwys:
I gydnabod ei gwaith eithriadol, mae Estyn wedi gwahodd yr ysgol i baratoi astudiaeth achos ar sut mae cwricwlwm sy'n seiliedig ar ymchwilio yn cefnogi ysgol gymunedol amrywiol wrth baratoi myfyrwyr ar gyfer bywyd modern yng Nghymru. Bydd yr astudiaeth achos hon yn cael ei rhoi ar wefan Estyn, gan arddangos ymrwymiad yr ysgol i ragoriaeth addysgol.
Wrth adlewyrchu ar yr adroddiad, dywedodd y Pennaeth, Ruth Wiltshire: "Rwy'n falch iawn o'n hadroddiad o'r arolwg. Rydym mor falch bod Estyn yn cydnabod yr ymdrech aruthrol gan ein staff, ein plant a'u teuluoedd, sy'n gweithio gyda'i gilydd fel tîm i sicrhau bod pob plentyn yn cael y profiad gorau posibl pan fyddant yn dod i'r ysgol.
"Mae ein staff cryf ac ymroddedig wedi datblygu cwricwlwm sy'n ysbrydoli arloesedd ac yn adlewyrchu anghenion ein cymuned. O ganlyniad, gallwch weld y disgyblion yn ymdrechu i wneud cynnydd da drwy gydol eu hamser yn Ysgol Sant Paul ac rwyf mor falch o weld yr effaith y mae'r cwricwlwm hwn yn ei chael ar ein disgyblion bob dydd. Rydym yn edrych ymlaen at rannu ein dulliau o ran y cwricwlwm a chydweithio ag ysgolion eraill."
Ychwanegodd Cadeirydd Llywodraethwyr yr ysgol, Araf Haq, "Hoffwn ddiolch i'r Pennaeth, y staff a'r llywodraethwyr am eu holl waith caled, yn enwedig ar ôl ychydig o flynyddoedd anodd, i ddod yn ôl ar ôl y pandemig a chyflwyno'r Cwricwlwm Newydd. Mae pawb wedi gweithio fel tîm, ac rydym i gyd yn falch o'n hysgol."
Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: "Mae gan Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sant Paul ymrwymiad clir i greu amgylchedd dysgu cynhwysol a chefnogol lle mae pob disgybl yn cael cyfle i ffynnu fel dysgwr annibynnol. Roedd hi'n galonogol clywed disgyblion yn disgrifio'r ysgol fel ‘lle arbennig gyda llawer o ieithoedd ond rydyn ni i gyd yr un fath'.
"Mae Estyn wedi cydnabod dull cydweithredol yr ysgol, sydd, o dan arweinyddiaeth y pennaeth a gyda chefnogaeth y corff llywodraethu, wedi arwain at "deulu o ddysgwyr" clos sy'n meithrin ymdeimlad o berthyn a chyflawniad.
"Dylai holl gymuned yr ysgol deimlo'n falch iawn a hoffwn estyn fy llongyfarchiadau am ei gwaith caled a'i hymroddiad."
Adeg yr arolwg, roedd 34.3% o'r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Mae 48.3% o ddisgyblion yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol, a nodwyd bod gan 9.3% o'r disgyblion Anghenion Dysgu Ychwanegol.
Mae Estyn wedi mabwysiadudull newydd o arolygu mewn ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion ledled Cymru. Ni fydd adroddiadau arolygu bellach yn cynnwys graddau crynodol (e.e. 'Rhagorol', 'Da' neu 'Digonol') a byddan nhw bellach yn canolbwyntio ar ba mor dda mae darparwyr yn helpu plentyn i ddysgu.
Mae'r dull newydd yn cyd-fynd â phersonoli'r cwricwlwm newydd i Gymru gydag arolygiadau'n cynnwys mwy o drafodaethau wyneb yn wyneb, gan roi llai o bwyslais ar ddata cyflawniad.
Mae Estyn o'r farn y bydd y dull arolygu newydd yn ei gwneud yn haws i ddarparwyr gael mewnwelediadau ystyrlon a fydd yn eu helpu i wella heb fod y sylw ar ddyfarniad.