Back
Ysgol Gynradd Radnor yn cael ei chydnabod gan Estyn am ei haddysg gynhwysol a'i phwyslais ar iechyd

13/9/2023

Mae Ysgol Gynradd Radnor yn Nhreganna wedi derbyn canmoliaeth am ei hymrwymiad i gynnig amgylchedd addysgol cynhwysol a chefnogol yn ystod arolwg diweddar gan Estyn.

Mae'r ysgol yn cael ei dathlu am ei hawyrgylch feithringar lle mae disgyblion a theuluoedd yn cael eu gwerthfawrogi a'u parchu, ac mae Arolygiaeth Addysg Cymru wedi cydnabod yr ysgol am ei hymroddiad i feithrin gwerthoedd pwysig fel tegwch ac amrywiaeth ymhlith disgyblion y canfuwyd eu bod yn arddangos ymddygiad rhagorol, gan ddangos parch at athrawon a'u cyfoedion.

Yn ei adroddiad, nododd Estyn y perthnasoedd cryf ymhlith staff, disgyblion, llywodraethwyr a rhieni sy'n cyfrannu at awyrgylch calonogol a gofalgar i bawb.

Nododd adroddiad yr arolwg bod disgyblion, wrth symud ymlaen trwy'r ysgol, yn gwneud cynnydd da mewn gwahanol agweddau ar ddysgu ac er eu bod yn rhagori mewn sgiliau llafaredd a darllen, mae angen mwy o sylw ar eu cynnydd ag ysgrifennu.

Amlygodd arolygwyr ymroddiad yr ysgol i feithrin ffordd iach o fyw a thrwy integreiddio ffitrwydd corfforol i'w threfn ddyddiol yn effeithiol, addysgir pwysigrwydd cadw'n actif i ddisgyblion.

Mae darpariaeth yr ysgol ar gyfer disgyblion ag anghenion ychwanegol a'r rhai sydd â Saesneg fel iaith ychwanegol wedi cael ei hystyried yn llwyddiannus a thrwy gydweithio â rhieni, staff ac asiantaethau allanol, mae'r ysgol wedi teilwra ei dull o ddarparu ar gyfer gofynion unigol.

Mae cwricwlwm yr ysgol wedi'i wreiddio'n ddwfn yn yr ardal leol ac amrywiaeth ddiwylliannol ac er bod y rhan fwyaf o athrawon yn creu profiadau dysgu difyr sy'n adeiladu ar wybodaeth bresennol myfyrwyr, mae amrywiadau mewn arferion asesu ac adborth ar draws yr ysgol. Mae rhai myfyrwyr yn ei chael hi'n anodd mynegi eu meysydd gwella neu gryfderau.

Mae arweinyddiaeth y pennaeth wedi cael ei chydnabod fel un effeithiol, gan feithrin ethos tîm cryf ac mae cydweithio â'r corff llywodraethu i'w weld yn amlwg yn ymdrech gyson yr ysgol i gryfhau a gwella.  Fodd bynnag, mae'r arolwg yn awgrymu bod lle i sicrhau bod y dulliau addysgu mwyaf effeithiol yn cael eu gweithredu a'u rhannu'n gyson ledled y sefydliad.

Adroddiad cadarnhaol ar y cyfan, ond mae Estyn wedi gwneud cyfres o argymhellion y bydd yr ysgol yn mynd i'r afael â nhw yn eu cynllun gwella;

  • Mireinio prosesau hunanwerthuso ar gyfer rhannu arferion effeithiol yn gyson,
  • Gwella ansawdd ac unffurfiaeth adborth athrawon
  • Cynnig mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr gymryd rhan mewn gweithgareddau ysgrifennu estynedig ar draws amryw bynciau.

Bydd Estyn yn gwahodd yr ysgol i greu astudiaeth achos ar ei gwaith o hyrwyddo ffitrwydd corfforol ar gyfer y gymuned ysgol gyfan, a fydd yn cael ei rhannu ar wefan Estyn.

Wrth adlewyrchu ar yr adroddiad, dywedodd y Pennaeth, Ann James:  "Rydym yn falch bod Estyn wedi cydnabod ein gwaith caled a bod eu barn yn cyd-fynd mor agos â chanfyddiadau ein prosesau hunanwerthuso ein hunain. 

"Hoffwn ddiolch i'r staff, llywodraethwyr, rhieni ac wrth gwrs ein plant am eu holl waith caled a amlygwyd yn yr adroddiad arolwg cadarnhaol hwn.  

"Hoffwn ddiolch hefyd i Gyngor Caerdydd a Sustrans Cymru am eu cefnogaeth gyda'n hymdrechion, Teithio Llesol niferus."

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: "Dylai staff, disgyblion a chymuned ehangach yr ysgol deimlo'n hynod falch o'r gydnabyddiaeth a roddwyd i Ysgol Gynradd Radnor yn adroddiad arolwg Estyn. Mae'r ymrwymiad i amgylchedd cynhwysol a meithringar, ynghyd â dull arloesol yr ysgol o hyrwyddo ffordd iach o fyw, yn adlewyrchu'r ymroddiad i ddatblygiad disgyblion ar draws pob grŵp blwyddyn.

"Mae hefyd yn wych clywed bod Estyn wedi gwahodd yr ysgol i rannu ei gwaith ar hyrwyddo ffitrwydd corfforol, er mwyn i eraill ddysgu ohono.  Llongyfarchiadau i'r pennaeth, llywodraethwyr a phawb yn yr ysgol."  

Ar adeg yr arolygiad, roedd gan Ysgol Gynradd Radnor 263 o fyfyrwyr ar y gofrestr. Mae 21.4% o'r disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, mae 3.0% wedi'u nodi fel rhai ag anghenion dysgu ychwanegol ac mae 14.2% yn siarad Saesneg fel iaith ychwanegol.

Mae Estyn wedi mabwysiadudull newydd o arolygu mewn ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion ledled Cymru.   Ni fydd adroddiadau arolygu bellach yn cynnwys graddau crynodol (e.e. 'Rhagorol', 'Da' neu 'Digonol') a byddan nhw bellach yn canolbwyntio ar ba mor dda mae darparwyr yn helpu plentyn i ddysgu.

Mae'r dull newydd yn cyd-fynd â phersonoli'r cwricwlwm newydd i Gymru gydag arolygiadau'n cynnwys mwy o drafodaethau wyneb yn wyneb, gan roi llai o bwyslais ar ddata cyflawniad.

Mae Estyn o'r farn y bydd y dull arolygu newydd yn ei gwneud yn haws i ddarparwyr gael mewnwelediadau ystyrlon a fydd yn eu helpu i wella heb fod y sylw ar ddyfarniad.