Back
Y wybodaeth ddiweddaraf am bresenoldeb Concrit Awyredig Awtoclafiedig Cydnerth (RAAC) yn Ysgolion Caerdydd

12/92023 

Erbyn hyn mae Cyngor Caerdydd wedi cwblhau arolwg manwl, gan gynnwys archwiliadau mewn 115 o ysgolion ledled y ddinas ac mae’n hapus nad yw unrhyw ysgolion yn cynnwys Concrit Awyredig Awtoclafiedig Cydnerth (RAAC).

Dyma'r ystâd ysgolion gyfan.

Dechreuodd y gwaith o chwilio am RAAC yn yr ystâd ysgolion ym mis Mai eleni. 

Dywedodd y Cyng. Sarah Merry, yr Aelod Cabinet dros Addysg: "Mae'r Cyngor wedi blaenoriaethu'r gwaith o arolygu safleoedd ysgolion ac mae arolygwyr arbenigol wedi bod yn ymchwilio i bresenoldeb RAAC ers mis Mai.

"Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, mae adnoddau wedi'u hehangu ac mae timau wedi bod yn gweithio'n ddiflino i gwblhau asesiadau ar yr ysgolion olaf sy'n weddill.

"Mae'r problemau sy'n ymwneud â defnydd o RAAC wedi achosi llawer o bryder ac rwy'n falch y gall rhieni, disgyblion a staff nawr fod yn dawel eu meddwl na ddaethpwyd o hyd i RAAC yn unrhyw un o'r ysgolion a gynhelir gan yr Awdurdod Lleol yn y ddinas.

"Hoffwn ddiolch am yr ymdrech enfawr a wnaed gan ein timau i arolygu ein hystâd ysgolion gyfan, a gwblhaodd eu hymchwiliadau bron i fis yn gynt na'r disgwyl."

Mae rhestr flaenoriaeth ar gyfer ystâd ehangach y Cyngor wedi'i drafftio a bydd yr arolygiadau hyn yn cychwyn yr wythnos nesaf.