Back
Cartref Newydd i Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg - Ar agor i ddisgyblion

7/9/2023

Agorodd cartref newydd sbon i Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg ei drysau am y tro cyntaf yr wythnos hon, wrth i staff a disgyblion gyrraedd ar gyfer dechrau'r tymor yn yr adeilad ysgol newydd gwerth £6 miliwn.

Wedi'i leoli yn natblygiad Sant Edern, mae'r ysgol newydd wedi symud o'i hen safle yn Llanrhymni ac mae'n un o ddwy ysgol newydd i agor yr wythnos hon, a gyflwynir fel rhan o Gynllun Datblygu Lleol Caerdydd (CDLl) gan Halsall Construction ar ran Persimmon Homes.

A group of people walking on a roadDescription automatically generated

Yr ysgol gynradd newydd sbon arall, sy'n croesawu disgyblion ar gyfer dechrau'r tymor newydd, yw Ysgol Gynradd Groes-wen. Mae'r ysgol gynradd newydd gwerth £9 miliwn wedi'i lleoli ar dir i'r de o Heol Llantrisant yn natblygiad Plasdŵr. Gallwch ddarllen mwy ar hynny yma: Yr ysgol gynradd iaith ddeuol gyntaf yng Nghaerdydd yn agor i ddisgyblion (newyddioncaerdydd.co.uk)

ByddYsgol yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwgnewydd yn ysgol ag 1 dosbarth mynediad, yn cynnig lle i 210 o ddisgyblion gan gynnwys meithrinfa ran-amser â 48 o leoedd, gyda'r cyfle i ehangu i 2 ddosbarth mynediad (420 o leoedd) yn y dyfodol. Bydd cyfleuster cymunedol yn gysylltiedig â'r ysgol gyda mynedfa breifat a mynedfa gydgysylltiol sy'n cynnig buddion i'r gymuned ehangach.

Dywedodd y Pennaeth, Jane Marchesi: "Mae pawb yn Ysgol Gynradd Llaneirwg yn gyffrous iawn i ddathlu'r bennod newydd hon yn hanes yr ysgol, gan adeiladu ar sylfaen o atgofion hapus o fywyd yr ysgol yn Llanrhymni a Phentref Llaneirwg. 

 

"Hoffem ddiolch i'r tîm enfawr o bobl sydd wedi bod yn gweithio mor galed i sicrhau bod yr adeilad yn amgylchedd mor wych i'n disgyblion ac rydym yn gyffrous am yr holl gyfleoedd y bydd hyn yn eu cynnig i'n disgyblion, teuluoedd a'r gymuned leol.  Mae'n fraint bod yn gyfleuster allweddol yng nghalon y gymuned hon ac rydym yn edrych ymlaen at groesawu pawb i deulu ein hysgol."

 

 

Yn gwasanaethu rhannau o Bontprennau a Phentref Llaneirwg, mae'r ysgol i'r dwyrain o ffordd gyswllt Pontprennau. Roedd adleoli Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg yn rhan o ddatrysiad strategol i ail-gydbwyso'r ddarpariaeth gynradd mewn rhannau o ogledd-ddwyrain Caerdydd yn sgil lleoedd gwag mewn ysgolion cynradd yn ardal Llanrhymni a'r angen am leoedd ychwanegol ym Mhentref Llaneirwg a rhannau o Bontprennau pan fydd datblygiad tai Sant Edern wedi'i gwblhau.

A group of children in a classroomDescription automatically generated

 

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae'r ysgol newydd sbon hon yn ddechrau pennod gyffrous ar gyfer Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg, gan ddarparu amgylchedd dysgu modern, effeithlon ac ysbrydoledig i blant o Bentref Llaneirwg, Pontprennau a Llanrhymni.

"Mae Sant Edern eisoes yn ddatblygiad poblogaidd iawn, felly bydd yr adeilad ysgol newydd hyfryd hwn yn ei leoliad newydd, yn helpu i fodloni'r cynnydd yn y galw am leoedd mewn ysgolion yn yr ardal. Yn ogystal â sicrhau bod lleoedd mewn ysgolion ar gael, mae'r ysgol newydd yn ymfalchïo mewn cyfleusterau cymunedol sy'n darparu cyfleoedd i bobl leol gael mynediad atynt, ac edrychaf ymlaen yn fawr at weld yr ysgol yn datblygu, tyfu a gwneud yr ysgol yn ased wrth galon ei chymuned." 

Dywedodd Lee Woodfine, Rheolwr Gyfarwyddwr Persimmon Homes East Wales:"Mae Persimmon Homes Persimmon Homes East Wales yn falch iawn o fod wedi cyflwyno'r ysgol newydd hon yn Sant Edern fel rhan o'n hymrwymiad i adael etifeddiaeth gadarnhaol a pharhaol lle rydym yn adeiladu.

"Mae'n bwysig i ni ein bod yn creu ymdeimlad cryf o le yn ein datblygiadau, sy'n golygu nid yn unig adeiladu cartrefi o ansawdd uchel ond hefyd cymunedau lle mae pobl yn teimlo'n gartrefol ac yn gallu manteisio ar amwynderau ar garreg eu drws.

"Bydd Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg yn darparu cyfleoedd addysgol am genedlaethau i ddod, ac mae Persimmon yn falch o fod wedi chwarae ein rhan yn gweithio gyda phartneriaid allweddol, Halsall a Chyngor Caerdydd, i gyflwyno'r ysgol newydd yn Sant Edern."

A group of children in a classroomDescription automatically generated

 

Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr Halsall, Chris Faulkner: "Mae Halsall Construction drwy weithio gyda Persimmon Homes a Chyngor Caerdydd yn falch iawn o fod wedi cwblhau gwaith Dylunio ac Adeiladu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg. Mae'r tîm cyfan wedi gweithio gyda'i gilydd ac rydym yn hynod falch o fod wedi darparu'r adeilad gwych hwn i'r ysgol symud iddo ac addysgu ynddo o ddechrau Tymor yr Hydref."

Mae Sant Edern yn ddatblygiad yng ngogledd-ddwyrain y ddinas fel rhan o Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) Caerdydd, sy'n nodi'r seilwaith sydd ei angen i hwyluso a chynnal twf y ddinas hyd at 2026.

Mae'r ysgol wedi bod fel rhan o'r cytundeb cynllunio gyda'r Cyngor, ac wedi'i ariannu'n rhannol drwy gyfraniadau Adran 106.