Back
Cau Neuadd Dewi Sant dros dro

Datganiad Cyngor Caerdydd
 
07/09/23 

Bydd Neuadd Dewi Sant yn cau dros dro i'r cyhoedd i gynnal archwiliadau ychwanegol ar y paneli Concrid Awyrog Awtoclafedig Dur (CAAD) yn yr adeilad.

Gwnaed y penderfyniad yng ngoleuni'r newid diweddar i gyngor ar CAAD mewn adeiladau cyhoeddus a gyhoeddwyd gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ac yn dilyn trafodaethau pellach gyda pheirianwyr strwythurol annibynnol a benodwyd gan y Cyngor, ac yswirwyr y cyngor.

Mae'r cyngor wedi bod yn ymwybodol o CAAD yn Neuadd Dewi Sant a'r angen i'w reoli o safbwynt iechyd a diogelwch ers 2021, ac mae bob amser wedi dilyn canllawiau a chyngor y llywodraeth i sicrhau bod yr adeilad yn ddiogel.

Mae strategaeth rheoli adeiladau ac iechyd a diogelwch wedi bod ar waith yn y lleoliad am y deunaw mis diwethaf.  Roedd hyn yn cynnwys archwiliadau rheolaidd gan beirianwyr strwythurol annibynnol gydag arbenigedd CAAD penodol.

Trwy gydol y cyfnod hwn ni chodwyd unrhyw faterion am gyflwr CAAD yn yr adeilad ac nid oedd tystiolaeth o ddirywiad - ac mae hyn yn wir o hyd.

Fodd bynnag, mae'r Cyngor wedi parhau i ymgysylltu â'i yswirwyr a'i beirianwyr strwythurol arbenigol ac, yn seiliedig ar gyngor a dderbyniwyd heddiw gan yr arbenigwyr hynny, credwn ei bod yn ddoeth ac yn gyfrifol i gynnal arolygon manwl i roi sicrwydd pellach i'n hunain a'r cyhoedd ar ddiogelwch y Neuadd. Bydd hyn yn gofyn am ddrilio i baneli i gadarnhau eu gwneuthuriad mewnol ac i benderfynu a oes angen unrhyw waith pellach i sicrhau diogelwch parhaus.  

O ganlyniad, byddwn yn dod â pheirianwyr strwythurol - sy'n arbenigwyr CAAD - yn ôl ar y safle i wneud profion newydd ar baneli CAAD yn yr adeilad.

Rydym yn disgwyl y gallai'r weithdrefn hon gymryd o leiaf 4 wythnos, a byddwn yn ceisio ailagor y Neuadd cyn gynted â phosibl, yn dibynnu ar unrhyw gamau y gallai fod eu hangen neu na fydd eu hangen.

Rydym yn gwybod y bydd hyn yn achosi llawer o anghyfleustra a siom, a hoffem ymddiheuro i'n holl gwsmeriaid, ond gobeithiwn y byddwch yn deall bod diogelwch cynulleidfaoedd, staff, artistiaid, gwirfoddolwyr a phawb yn y lleoliad yn hollbwysig, a'i bod yn ofynnol i'r Cyngor weithredu mewn ymateb i ganllawiau diweddaraf Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a chyngor arbenigol.

Byddwn yn cysylltu â hyrwyddwyr a chyflogwyr i drafod y potensial ar gyfer aildrefnu perfformiadau ac i adolygu'r holl opsiynau eraill.  Nid oes angen i gwsmeriaid gysylltu â Neuadd Dewi Sant, byddwn yn cysylltu â'r holl ddeiliaid tocynnau am yr opsiynau sydd ar gael i chi unwaith y byddwn wedi siarad â hyrwyddwr y sioeau yr effeithir arnynt.  Byddem yn ddiolchgar pe gallai cwsmeriaid roi'r amser i ni ymgymryd â'r gwaith hwn fel y gallwn ddod yn ôl atoch cyn gynted â phosibl am eich tocyn / digwyddiad wedi'i ganslo.

Mae'r Cyngor wedi bod yn gyson glir ynghylch yr angen am fuddsoddiad yn Neuadd Dewi Sant i sicrhau ei ddyfodol hirdymor, gan fynd i'r afael â'r mater CAAD a materion cynnal a chadw eraill, a chadarnhawyd hyn oll mewn adroddiad Cabinet y llynedd.

Rydym yn parhau i weithio i drosglwyddo'r neuadd i'r Academy Music Group (AMG). Cyn cymryd drosodd y cyfrifoldeb o weithredu Neuadd Dewi Sant, roedd AMG eisoes wedi cynnal ei arolygiadau ei hun ac mae ganddo gynlluniau ar waith i wneud gwaith adfer sydd ei angen yn y tymor canolig i'r tymor hir. Byddwn yn rhoi gwybod iddynt am y camau yr ydym ni'n eu cymryd.

Unwaith eto, rydym yn ymddiheuro i gwsmeriaid Neuadd Dewi Sant am ganslo'r sioeau'n hwyr, ac rydym am eich sicrhau y byddwn mewn cysylltiad i drafod dyddiadau newydd perfformiadau a/neu ddewisiadau amgen.  Dilynwch adran newyddion gwefan Neuadd Dewi Sant am ddiweddariadau. Diolch am eich dealltwriaeth a'ch amynedd.