Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 05 Medi 2023

Dyma'r diweddaraf gennym ni, sy'n cynnwys:

  • Gwneud teithio i'r ysgol yn ddiogelach - Sefydlu mwy o Strydoedd Ysgol ar gyfer dechrau tymor ysgol newydd
  • Gellir nawr cofrestru ar gyfer ystod eang o gyrsiau hamdden ac addysgol gyda Dysgu Oedolion Caerdydd.
  • Parc sglefrio newydd yn Llanrhymni wedi cael caniatâd cynllunio.

 

Gwneud teithio i'r ysgol yn ddiogelach! Sefydlu mwy o Strydoedd Ysgol ar gyfer dechrau tymor ysgol newydd

Bydd cynllun Strydoedd Ysgol Cyngor Caerdydd yn cael ei ehangu fis Medi, gyda thri lleoliad newydd yn cael eu hychwanegu at y cynllun.

Mae Strydoedd Ysgol yn ardaloedd o amgylch mynedfeydd ysgol sydd ar gau i gerbydau yn ystod oriau brig gollwng a chasglu ac fe'u dewisir fel rhan o'r cynllun, os ydynt yn cael problemau traffig a pharcio yn rheolaidd yn ystod amseroedd gollwng a chasglu'r ysgol.

Drwy gau'r strydoedd i draffig cyffredinol am gyfnod byr yn y bore a'r prynhawn yn ystod y tymor, mae'r trefniadau yn helpu plant i gael mynediad i'r ysgol yn ddiogel, yn lleihau llygredd aer ac yn cefnogi teuluoedd i deithio i'r ysgol ac yn ôl.

Bydd y strydoedd diweddaraf i'w hychwanegu at y cynllun yn yr ardaloedd canlynol;

  • Rhodfa Lawrenny yn Lecwydd yn gwasanaethu Ysgol Uwchradd Fitzalan newydd, Ysgol Pwll Coch ac Y Nyth, yr Uned Cyfeirio Disgyblion ar hen safle Ysgol Uwchradd Fitzalan.
  • Teras Rheilffordd yn Glan-yr-Afon sy'n gwasanaethu Ysgol Gynradd Kitchener
  • Rhannau o Stryd Bromsgrove, Maes Oakley a Hewell Street yn Grangetown sy'n gwasanaethu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sant Paul

Wedi'i dreialu am y tro cyntaf ym mis Ionawr 2020, mae'r cynllun Strydoedd Ysgol bellach yn cynnwys 19 stryd, gan helpu i leihau traffig mewn 22 ysgol ledled y ddinas. Cafwyd adborth cadarnhaol gan ysgolion, rhieni a thrigolion lleol sydd wedi elwa o'r fenter.

Darllenwch fwy yma

 

Cyfleoedd newydd, sgiliau newydd a llawer o hwyl

Gellir nawr cofrestru ar gyfer ystod eang o gyrsiau hamdden ac addysgol gyda Dysgu Oedolion Caerdydd.

Mae'r rhaglen yn cynnwys cyrsiau Dysgu ar gyfer Gwaith, Dysgu am Oes a DICE (Cynhwysiant Anabledd mewn Addysg Gymunedol) yn ogystal â chynlluniau Cymorth Digidol, gan roi cyfle i oedolion ledled y ddinas ennill sgiliau newydd, gwella eu cyflogadwyedd, mwynhau diddordeb newydd, cwrdd â phobl newydd a gwella eu lles.

Mae'r cyrsiau'n dechrau o ddydd Llun 18 Medi ac yn cael eu cyflwyno mewn hybiau a lleoliadau eraill ar draws y ddinas yn ogystal ag ar-lein. Mae manylion llawn y cyrsiau ar gael yma:

www.dysguioedolioncaerdydd.co.uk

Mae Dysgu Oedolion Caerdydd wedi derbyn adroddiad gwych gan yr arolygwyr addysg, Estyn, yn ddiweddar am ei ddarpariaeth hynod effeithiol sydd nid yn unig yn gweithredu fel porth i gyfleoedd eraill fel dysgu pellach, cyflogaeth neu weithgareddau gwirfoddoli, ond mae hefyd yn cynnig mwynhad, hwyl a chymorth drwy'r holl gyrsiau.

Darllenwch fwy yma

 

Parc sglefrio newydd yn Llanrhymni yn cael caniatâd cynllunio

Parc sglefrio newydd yn Llanrhymni wedi cael caniatâd cynllunio.

Wedi'i ddatblygu gan yr ymgynghorwyr arobryn VDZ+A a Newline Skateparks mewn ymgynghoriad â'r gymuned sglefrfyrddio leol, bydd y parc sglefrio newydd yn disodli'r cyfleuster sglefrio ffrâm bren presennol wrth ymyl Canolfan Hamdden y Dwyrain.

Wedi'i adeiladu o goncrit, fydd yn llai swnllyd, llai o waith cynnal a chadw, ac yn gyfleuster o ansawdd uwch, nod y parc sglefrio newydd yw darparu lle cynhwysol i breswylwyr a sglefrwyr o bob oed a gallu. Datblygwyd y dyluniad yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus gyda sglefrfyrddwyr a thrigolion lleol.

Darllenwch fwy yma