Back
Gwneud teithio i'r ysgol yn ddiogelach! Sefydlu mwy o Strydoedd Ysgol ar gyfer dechrau tymor ysgol newydd

5/9/2023 

Bydd cynllun Strydoedd Ysgol Cyngor Caerdydd yn cael ei ehangu fis Medi, gyda thri lleoliad newydd yn cael eu hychwanegu at y cynllun.

Mae Strydoedd Ysgol yn ardaloedd o amgylch mynedfeydd ysgol sydd ar gau i gerbydau yn ystod oriau brig gollwng a chasglu ac fe'u dewisir fel rhan o'r cynllun, os ydynt yn cael problemau traffig a pharcio yn rheolaidd yn ystod amseroedd gollwng a chasglu'r ysgol. 

Drwy gau'r strydoedd i draffig cyffredinol am gyfnod byr yn y bore a'r prynhawn yn ystod y tymor, mae'r trefniadau yn helpu plant i gael mynediad i'r ysgol yn ddiogel, yn lleihau llygredd aer ac yn cefnogi teuluoedd i deithio i'r ysgol ac yn ôl.

Bydd y strydoedd diweddaraf i'w hychwanegu at y cynllun yn yr ardaloedd canlynol;

 

-         Rhodfa Lawrenny yn Lecwydd yn gwasanaethu Ysgol Uwchradd Fitzalan newydd, Ysgol Pwll Coch ac Y Nyth, yr Uned Cyfeirio Disgyblion ar hen safle Ysgol Uwchradd Fitzalan.

-    Railway Terrace yng Nglanyrafon sy’n gwasanaethu Ysgol Gynradd Kitchener

-    Rhannau o Stryd Bromsgrove, Maes Oakley a Hewell Street yn Grangetown sy'n gwasanaethu Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Sant Paul

Wedi'i dreialu am y tro cyntaf ym mis Ionawr 2020, mae'r cynllun Strydoedd Ysgol bellach yn cynnwys 19 stryd, gan helpu i leihau traffig mewn 22 ysgol ledled y ddinas. Cafwyd adborth cadarnhaol gan ysgolion, rhieni a thrigolion lleol sydd wedi elwa o'r fenter.

Wrth fyfyrio ar y cynllun, dywedodd Bernadette Brooks, Pennaeth Ysgol Gynradd Gatholig St Cuthbert:  "Ers i'r cynllun ddechrau yn St Cuthbert's, rydym wedi sylwi ar wahaniaeth sylweddol yn y ffordd y mae rhieni ac ymwelwyr yn defnyddio ein heol ysgol. Mae bellach yn lle diogel i blant fynd i mewn i safle'r ysgol a'i adael ac ar adegau allweddol o'r dydd, mae ardal yr heol yn dawel ac yn ddi-draffig. 

"Yn ogystal, rydym wedi sylwi ar gynnydd yn nifer y disgyblion sy'n teithio i'r ysgol yn hytrach na chael eu gollwng mewn car.  Ar y cyfan mae wedi bod yn llwyddiant ysgubol ac rydym yn ddiolchgar iawn bod diogelwch ein disgyblion wedi cael blaenoriaeth."

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Drafnidiaeth a Chynllunio Strategol, y Cynghorydd Dan De'Ath: "Mae sefydlu cynllun Stryd Ysgol wedi sicrhau y gall disgyblion, rhieni a staff deithio i'r ysgol yn ddiogel wrth leihau tagfeydd, perygl ar y ffyrdd a helpu i wella ansawdd aer.

"Mae'r ymateb cadarnhaol gan gymunedau ysgolion a thrigolion lleol wedi parhau a manteision teithio llesol i'r ysgol i iechyd a lles yn cael eu cydnabod yn eang.

"Mae'r cynllun Stryd Ysgol yn un o lawer o fentrau sy'n helpu i gyflawni uchelgeisiau Teithio Llesol y Cyngor, gan wneud Caerdydd yn ddinas lanach, wyrddach wrth i ni ymateb i broblem barhaus newid yn yr hinsawdd." 

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: "Rwy'n falch bod y cynllun Strydoedd Ysgol yn parhau i dyfu, gan roi cyfleoedd i deuluoedd deithio i'r ysgol yn ddiogel, wrth iddynt wneud newidiadau hirhoedlog a fydd yn dod â manteision i iechyd a'r amgylchedd y maent yn byw ynddo."

Mae arwyddion parhaol yn cefnogi Strydoedd Ysgol ac mae camerâu gorfodi ar waith yn ystod amseroedd gollwng a chasglu pan fydd mynediad a pharcio yn cael eu cyfyngu i ddeiliaid trwyddedau preswyl, deiliaid bathodynnau glas a cherbydau'r gwasanaethau brys.

Dim ond cerbydau â thrwydded Stryd Ysgol a ganiateir i yrru i Strydoedd Ysgol yn ystod amseroedd cyfyngedig.

Yn ogystal â Strydoedd Ysgol, mae'r Cyngor hefyd wedi cyflwyno camerâu gorfodi mewn sawl ysgol arall i atal rhieni rhag parcio ar farciau Cadwch yn Glir y tu allan i gatiau'r ysgol.

Gallwch wirio amseroedd cau ffyrdd, gweld y rhestr lawn o Strydoedd Ysgol a chael gwybodaeth am drwyddedau yma:www.cardiff.gov.uk/schoolstreets