Back
Parc sglefrio newydd yn Llanrhymni yn cael caniatâd cynllunio

5.9.23

Parc sglefrio newydd yn Llanrhymni wedi cael caniatâd cynllunio.

Wedi'i ddatblygu gan yr ymgynghorwyr arobryn VDZ+A a Newline Skateparks mewn ymgynghoriad â'r gymuned sglefrfyrddio leol, bydd y parc sglefrio newydd yn disodli'r cyfleuster sglefrio ffrâm bren presennol wrth ymyl Canolfan Hamdden y Dwyrain.

A aerial view of a parkDescription automatically generated

Delwedd CGI o sut y gallai parc sglefrio newydd Llanrhymni edrych.  Hawlfraint: Newline Skateparks

Wedi'i adeiladu o goncrit, fydd yn llai swnllyd, llai o waith cynnal a chadw, ac yn gyfleuster o ansawdd uwch, nod y parc sglefrio newydd yw darparu lle cynhwysol i breswylwyr a sglefrwyr o bob oed a gallu. Datblygwyd y dyluniad yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus gyda sglefrfyrddwyr a thrigolion lleol.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke:  "Nawr bod caniatâd cynllunio ar waith gallwn ni symud ymlaen gyda'n cynlluniau ar gyfer yr hyn sy'n addo bod yn gyfleuster newydd gwych ar gyfer y gamp Olympaidd hon.

"Rydyn ni am i gynifer o bobl â phosibl gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol a'r peth gwych am sglefrfyrddio yw ei fod yn apelio at bobl o bob oed - o blant ifanc a phobl ifanc yn eu harddegau, i sglefrwyr hŷn, rhai ohonynt bellach yn cyflwyno eu plant eu hunain i'r gamp."

Mae'r cynnig hefyd yn cynnwys gwelliannau i'r parc, fel 'gardd law' i ddarparu draenio cynaliadwy ar gyfer y safle, plannu blodau gwyllt newydd, coed a phlannu llwyni.  Bydd yr holl goed derw ar y safle hefyd yn cael eu cadw a'u gwarchod, gyda chynllun y parc sglefrfyrddio wedi'i ddylunio'n ofalus o amgylch y coed presennol.

Mae disgwyl i'r gwaith ar y parc sglefrio ddechrau yn 2024.