Back
Ailddatblygiad Clwb Ifor Bach gam yn nes yn sgil cefnogaeth y Cyngor

22/08/22

Mae'r gwaith arfaethedig o ailddatblygu Clwb Ifor Bach gam yn nes ar ôl i Gyngor Caerdydd   ymgymryd â lesddaliad hirdymor ar 9 Stryd Womanby, yr eiddo gerllaw'r lleoliad hirsefydlog. 

Mae'r cytundeb, sydd â'r nod o helpu i sicrhau dyfodol tymor hir y lleoliad cerddoriaeth annibynnol eiconig, yn rhoi'r amser a'r sicrwydd i Glwb Ifor godi'r arian sydd ei angen i ehangu ac uwchraddio ei safle presennol. Mae hefyd wedi galluogi'r lleoliad i symud ymlaen gyda chais cynllunio ar gyfer yr ailddatblygu.

A dark city street with a buildingDescription automatically generated with medium confidence

Os caiff y cais cynllunio ei gymeradwyo, a bod cyllid yn cael ei sicrhau, bydd y Clwb wedyn yn ymgymryd â phrydles gefn-wrth-gefn am 125 mlynedd i ddefnyddio'r eiddo yn 9 Stryd Womanby fel lleoliad cerddoriaeth fyw a chanolfan ddiwylliannol, a bydd y safle'n cael ei drawsnewid yn lleoliad aml-ystafell cyfoes, cwbl hygyrch.

Dywedodd Arweinydd y Cyngor a Chadeirydd Bwrdd Cerddoriaeth Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, "Mae Clwb Ifor Bach wedi bod yn rhan o wead sîn gerddoriaeth llawr gwlad Caerdydd ers 1983, gan roi llwyfan hanfodol i lawer o gerddorion a bandiau Cymreig ar ddechrau eu gyrfaoedd, denu ymwelwyr i'r ddinas, a chyfrannu'n sylweddol at arlwy creadigol a diwylliannol Caerdydd.

"Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i gyflawni ein Strategaeth Gerddorol a sicrhau bod cerddoriaeth a diwylliant yn parhau i ffynnu yng Nghaerdydd.  Bydd ymrwymo i'r cytundeb hwn yn helpu i sicrhau lle Clwb Ifor wrth galon y sîn gerddoriaeth fyw am o leiaf 125 mlynedd arall, ac yn nodi dechrau'r hyn sy'n argoeli i fod yn gyfnod cyffrous i gerddoriaeth yng Nghaerdydd."

A stage with red curtainDescription automatically generated

Dywedodd Guto Brychan, Prif Weithredwr Clwb Ifor Bach:  "Rydym wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Caerdydd ers nifer o flynyddoedd i sicrhau dyfodol Clwb Ifor Bach, a nawr, gyda'r opsiwn i ymgymryd â'r brydles hirdymor yn ei lle, mae ein gweledigaeth o ailddatblygu'r ddau eiddo yn ofod newydd aml-leoliad a gwirioneddol hygyrch, wedi cymryd cam enfawr ymlaen.

"Byddwn nawr yn cyflwyno'r cais cynllunio sy'n amlinellu ein cynlluniau ac yn dechrau'r gwaith i godi'r arian sydd ei angen i wireddu ein huchelgais.  Rydym hefyd yn dathlu ein 40fedpen-blwydd eleni, ac mae hyn yn teimlo fel dechrau pennod newydd i ni fel lleoliad ac yn un a fydd yn sicrhau ein hetifeddiaeth am flynyddoedd lawer i ddod. 

"Hoffem ddiolch i Huw Thomas a'i dîm am eu hymrwymiad i'r sector cerddoriaeth llawr gwlad yng Nghaerdydd, a'r gwaith a wnaed i'n helpu ni a lleoliadau eraill yn y ddinas i oroesi heriau'r blynyddoedd diwethaf."