Back
Ruby yn arwain prentisiaid mewn haid o weithgaredd

21.08.23
Mae ymwelwyr â Chastell Caerdydd wedi bod yn edmygu'r dyluniad blodau diweddaraf sy'n cwmpasu'r tir y tu allan i dirnod poblogaidd y ddinas.

Gwaith Ruby Mason, prentis garddwriaethol yn ei hail flwyddyn gyda thîm parciau'r Cyngor yw'r Badge Bed Bee.

“Dewisais y cynllun hwn i ddathlu peillwyr ac i godi ymwybyddiaeth o'u pwysigrwydd,” meddai Ruby, 24. “Mae colli cynefinoedd a newid yn yr hinsawdd, yn ogystal â defnyddio plaladdwyr, yn bygwth y boblogaeth frodorol o wenyn, ac mae angen i bob un ohonom ni chwarae ein rhan i'w diogelu nhw a'r amgylchedd.

“Mae tua 75% o'n cnydau yn cael eu peillio gan wenyn, felly y peth lleiaf y gallwn ni ei wneud yw rhoi help llaw iddyn nhw yn y gwaith maen nhw'n ei wneud.

“Yn y gaeaf, mae'r frenhines yn gadael y cwch ac wrth i’r gweithwyr aeafgysgu, mae hi'n dod o hyd i le ar wahân i gysgu. Os gwnewch chi bentwr coed, gadael sbwriel dail ar y ddaear a chreu ardal wyllt yn llawn mwsogl glaswellt a'i orchuddio bydd yn rhoi cartref diogel iddi.

“Ac os ydych chi'n arddwr, mae tyfu blodau porffor, glas, gwyn a melyn yn helpu oherwydd gall gwenyn eu gweld yn well.”

Dywedodd Jennie Judd, rheolwr gweithredol Ruby: “Rwy'n hynod falch o'r hyn y mae Ruby wedi'i gyflawni gyda'i chynllun plannu, sydd wedi'i greu drwy ddefnyddio blodau a phlanhigion wedi'u hailgylchu o fannau eraill o amgylch parciau'r ddinas.

“Mae ei gwaith - gyda chymorth Ginny, Kev, Jordan, Tom, Mary, Ann a Marion o feithrinfa Parc Bute – yn dangos y sgiliau mae hi'n eu dysgu ac mae wedi rhoi cyfle iddi rannu ei chreadigrwydd sy'n gysylltiedig â phwnc mor bwysig.

“Mae'n wych gweld bod prentis yn gallu cael llwyddiant mor fawr a chael arddangos ei waith mewn lleoliad mor amlwg yng Nghaerdydd.”

Mae Ruby yn un o fwy na 25 o hyfforddeion sydd wedi sicrhau swyddi parhaol gyda Chyngor Caerdydd drwy ei gynllun hyfforddeiaeth arobryn. Os oes gennych angerdd am weithio yn yr awyr agored, diddordeb gwirioneddol mewn garddwriaeth, ynghyd â digonedd o frwdfrydedd, yna efallai mai chi fydd yr hyfforddai parciau nesaf. I ddarganfod mwy, ewchi:  www.swyddicyngorcaerdydd.co.uk