Back
Parc newydd yn agor i anrhydeddu athro prifysgol benywaidd cyntaf Cymru

10.8.23

Mae parc newydd, a enwyd er anrhydedd i athro prifysgol benywaidd cyntaf Cymru, Millicent Mackenzie, wedi agor yn swyddogol i'r cyhoedd.

A person wearing a cape and a hatDescription automatically generated

Mae'r parc y tu ôl i Amgueddfa Cymru Caerdydd, rhwng Plas y Parc a Rhodfa'r Amgueddfa, yn agos at yr hyn sydd erbyn hyn yn Brifysgol Caerdydd - ond a fu ar un adeg ynGoleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy, lle bu'r Athro Mackenzie yn athro Addysg rhwng 1910-1915.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke:  "Rydyn ni wedi cyflawni llawer ers y dyddiau pan fu rhaid i Millicent Mackenzie gael caniatâd arbennig i barhau i weithio ar ôl iddi briodi, ond mae cyflawniadau menywod yn dal i gael eu tangynrychioli'n aruthrol yn ein gofodau cyhoeddus. Mae enwi'r parc hwn ar ôl yr Athro Mackenzie yn gam arall tuag at unioni'r anghydbwysedd hanesyddol hwnnw."

Mae'r man gwyrdd sydd wedi cael bywyd o'r newydd, ac a fu gynt yn ardal segur o'r Ganolfan Ddinesig,yn cynnwys:

  • llwybrau troed carreg naturiol newydd
  • mynedfeydd newydd a seddi blociau cerrig
  • goleuadau
  • llwybr ardal chwarae newydd ar thema natur gyda chorryn cyfeillgar a gwe
  • gerddi glaw
  • cerfluniau
  • seddi cerrig crynion
  • arwyddion mynediad a byrddau gwybodaeth
  • Coed, lleiniau dolydd a phlanhigion newydd yn ychwanegol i'r coetir oedd yno eisoes.

A group of people walking on a sidewalkDescription automatically generatedA child on a logDescription automatically generated

Y tu hwnt i'w bywyd academaidd, bu'r Athro Mackenzie hefyd yn ymgyrchu dros hawliau menywod, gan sefydlu cangen Caerdydd o'r Swffragetiaid, ac aeth ymlaen i fod yn ymgeisydd seneddol benywaidd cyntaf Cymru, yr unig fenyw i sefyll yn etholiad cyffredinol 1918.

Yn llais arloesol yn y mudiad hawliau menywod, gan dynnu sylw at bwysigrwydd cyfranogiad menywod mewn meysydd academaidd a gwleidyddol, roedd yr Athro Mackenzie hefyd yn ysgogydd yn negawdau cynnar y mudiad dyneiddiol, ac roedd yn un o is-lywyddion cyntaf Undeb y Cymdeithasau Moesegol (Humanists UKerbyn hyn).

Yn ychwanegol i'r gwelliannau sydd wedi eu hariannu gan y cyngor, mae'r bloc toiledau Fictoraidd rhestredig hefyd am gael ei adfer a'i droi'n gaffi gan ddatblygwr preifat yn y dyfodol.