Back
Contract wedi'i ddyfarnu ar gyfer system amddiffyn rhag llifogydd newydd

7.8.23

Mae Knights Brown wedi derbyn y contract i adeiladu system amddiffyn rhag llifogydd arfordirol newydd Caerdydd yn ne-ddwyrain Caerdydd.

Mae'r cynllun, ar flaendraeth Rover Way a glannau Afon Rhymni, wedi'i gynllunio i ddiogelu eiddo rhag effaith tywydd eithafol, a rhag lefelau'r môr yn codi am y 100 mlynedd nesaf.

Mae'r cynllun yn cadw at gynllun rheoli traethlin mabwysiedig Cyngor Caerdydd sef "hold the line" ac mae wedi'i gymeradwyo gan Lywodraeth Cymru drwy'r rhaglen rheoli risg arfordirol.

Nawr bod y broses hon wedi'i chwblhau gyda'r contract wedi'i ddyfarnu, mae disgwyl i'r gwaith ddechrau ar y safle yn ddiweddarach eleni a bydd yn cymryd tua 3 blynedd i'w gwblhau. Disgwylir i gyfanswm cost y prosiect fod oddeutu £35 miliwn, gyda'r rhan fwyaf o'r cyllid yn cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru.

Ar ôl ei adeiladu, bydd y cynllun yn darparu:

  • Rhwystr creigiog 150,000 o dunelli ar hyd yr arfordir i reoli erydiad a llanw uchel
  • Gosod pyst seiliau ar hyd cylchfan Ffordd Lamby
  • Argloddiau pridd wedi'u cynnal, ac
  • Amddiffyniad creigiog i Bont Ffordd Lamby

A bydd:

  • Yn rheoli'r risg o lifogydd i 1,116 eiddo preswyl a 72 eiddo amhreswyl, ynghyd â safle Sipsiwn a Theithwyr Ffordd Rover.
  • Darparu amddiffyniad yn erbyn digwyddiad o dywydd garw un mewn 200 mlynedd, gan gynnwys caniatáu ar gyfer effeithiau newid yn yr hinsawdd.

Bydd y cynllun yn darparu amddiffyniad effeithiol rhag llifogydd tra'n lleihau'r effaith ar fywyd gwyllt ac yn gwella'r llwybr cerdded sy'n ffurfio rhan o Lwybr Arfordir Cymru, sy'n cysylltu â hawliau tramwy cyhoeddus presennol.

Mae'r Cynghorydd Caro Wild, Aelod Cabinet y Cyngor dros Newid yn yr Hinsawdd wedi croesawu cynnydd y cynllun, a dywedodd:"Mae Caerdydd eisoes yn dechrau teimlo effeithiau ein hinsawdd sy'n newid ac fel dinas arfordirol mae llifogydd wedi dod yn risg gynyddol sylweddol wrth i lefelau'r môr godi a thywydd eithafol ddigwydd yn fwy aml.

"Mae gwella ein hamddiffynfeydd llifogydd arfordirol yn flaenoriaeth allweddol, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae eiddo preswyl o bosibl mewn perygl.

"Drwy ein strategaeth Caerdydd Un Blaned, rydym yn gwneud cynnydd da ar leihau allyriadau carbon y Cyngor ei hun, gan sicrhau ein bod yn chwarae ein rhan yn cyfyngu ar gynnydd mewn tymheredd byd-eang, ond mae camau rhagweithiol fel y cynllun hwn ar y blaendraeth ac Afon Rhymni, hefyd yn hanfodol os ydym am sicrhau bod Caerdydd yn ddigon gwydn i ymdopi yn y blynyddoedd i ddod."

Mae strategaeth Caerdydd Un Blaned yn nodi amrywiaeth o ffyrdd lle mae Caerdydd yn symud tuag at fod yn garbon niwtral, gan gynnwys: lleihau'r defnydd o ynni ac effeithlonrwydd ynni yn adeiladau'r cyngor, cynyddu'r cyflenwad ynni adnewyddadwy, symud i ddulliau trafnidiaeth mwy cynaliadwy ac actif, lleihau'r allyriadau nwyon tŷ gwydr o nwyddau a gwasanaethau a brynir, gwneud dewisiadau doethach i wastraffu llai ac ailgylchu mwy, a chynyddu cyfleoedd i amsugno allyriadau trwy seilwaith gwyrdd a phlannu coed.