Back
Dewch ar Lwybr Stori hudol a chrwydro Caerdydd mewn ffordd hollol newydd

03.08.23
Maen nhw'n dweud bod gan bawb stori i'w dweud. Wel, mae tîm Dinas sy’n Dda i Blant Cyngor Caerdydd wedi creu naw llwybr sy'n profi bod gan rai o ardaloedd mwyaf diddorol y ddinas eu straeon anhygoel eu hunain.

Mae pob un o'r llwybrau stori yn antur unigryw ac yn cynnig ffordd gyffrous, llawn hwyl i deuluoedd ddarganfod ein dinas hardd.

O fae prysur hanesyddol Caerdydd i lonyddwch Parc Bute, o Fferm y Fforest â’i gwyrddni i gaer hynafol a hudol Caerau, a hyd yn oed mwy o leoliadau rhyfeddol ar hyd y ffordd!

Mae pob llwybr yn bennod mewn stori gyfareddol wedi'i hysbrydoli gan lên gwerin Cymru, wedi'i hysgrifennu gan storïwyr lleol, ac wedi'i siapio gan feddyliau creadigol ein plant ysgol sy'n byw o amgylch pob un o’r llwybrau. Mae’r llwybrau’n annog chwarae, hwyl, a diddordeb go iawn yn y stori - dod o hyd i’r lleoliad nesaf, ymgysylltu’n ymarferol â’r awyr agored, megis rhwbio rhisgl/creu rhywbeth o frigau, a darganfod mannau cudd yn nhirnodau enwog Caerdydd.

Mae'r straeon - sydd ar gael yn Gymraeg a Saesneg - yn eich sgubo ar antur anhygoel ac fe'ch gwahoddir i ymuno yn y cyffro glan môr gyda Chyfoeth y Môr Bae Caerdydd, wynebu Swyn y Wrach ym Mharc Bute, cefnogi’r Lleiaf a’r Dewraf yn Fferm y Fforest neu gwrdd â'r Crwt â’r Sgarff Goch yng Nghefn Onn.

Rydym yn eich gwahodd i brofi cyffro’r Don Anferth yn Llyn Hendre, ail-fyw'r gorffennol yn Y Gaer Werdd yng Nghaerau, neu ddarganfod stori brydferth Y Bysgotferch a’r Alarch-Forwyn ym Mharc Tredelerch. Dewch i chwerthin i stori Bag Llaw Mamgu ym Mharc Coed y Nant, neu gael eich dallu gan liwiau Enfys Eleri yng nghronfeydd dŵr Llys-faen a Llanisien.

Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, Aelod Cabinet y Cyngor dros Ddiwylliant, Parciau, Digwyddiadau a Lleoliadau:  "Mae'r llwybrau stori gwych hyn yn ddelfrydol i'r teulu cyfan gymryd rhan ynddynt yn ystod gwyliau hir yr ysgol ac yn cyd-fynd yn berffaith â gwaith y Cyngor tuag at gyflawni statws Dinas sy'n Dda i Blant UNICEF.

"Wrth iddyn nhw archwilio, chwarae a dysgu, mae plant hefyd yn arfer eu hawliau fel plant - yr hawl i ymlacio, chwarae ac ymuno mewn ystod eang o weithgareddau diwylliannol, artistig a hamdden eraill."

Mae'r Llwybrau Stori, a drefnwyd gan dîm Caerdydd sy'n Dda i Blant y Cyngor, yn rhad ac am ddim, yn hygyrch ac yn anrhydeddu'r hawl hon trwy ddarparu llwyfan i fwynhau, archwilio a dysgu gan ein treftadaeth Gymreig gyfoethog a'n hamgylchedd hardd.

Os ydych chi'n barod i droedio’r llwybrau hyn, gwisgwch eich gwisg antur orau a dilynwch y ddolen i'r dudalen Llwybrau Stori – Llwybrau Stori : Caerdydd sy’n Dda i Blant – i gychwyn ar eich taith. Ac am fwy o wybodaeth am sut i ddarganfod y straeon anhygoel sydd gan Gaerdydd i'w cynnig, cliciwch yma Caerdydd sy'nDda i Blant.