Back
Dechrau Disglair i Ddyfodol Cadarnhaol

28.07.23
Mae cyflawniadau grŵp o bobl ifanc ar raglen hyfforddeiaeth y cyngor wedi cael eu dathlu mewn digwyddiad cyflwyno arbennig yr wythnos hon.

Daeth tua 45 o bobl ifanc i'r digwyddiad yn Neuadd y Sir a oedd yn cydnabod eu llwyddiant ar gynllun Dechrau Disglair – rhaglen sy’n darparu cyfleoedd hyfforddi a lleoliadau gwaith i Blant sy'n Derbyn Gofal a phobl ifanc sy'n gadael gofal ar draws ystod o fusnesau a sefydliadau yng Nghaerdydd, gan gynnwys amrywiaeth o rolau yn yr awdurdod lleol.

Mae Dechrau Disglair yn sicrhau mentor sydd wedi’i hyfforddi’n llawn i bob person ifanc er mwyn iddyn nhw gael arweiniad ar ddefnyddio gwasanaethau’r cyngor.  Mae hyn yn cynnwys Gwasanaeth i Mewn i Waith y cyngor sy’n cynnig amrywiaeth o gymorth gyrfaoedd.

Mae lleoliadau'n para naill ai tri neu chwe mis ac maent ar gael mewn amrywiaeth o wahanol wasanaethau ac adrannau ar draws y cyngor gan gynnwys Ysgol Farchogaeth Caerdydd, Cysylltu â Chaerdydd, parciau, llyfrgelloedd a hybiau a Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd.

Dywedodd un hyfforddai: "Ers dechrau prosiect Dechrau Disglair rwy'n teimlo ei fod wedi newid fy mywyd trwy helpu i'w gwneud hi'n haws dod o hyd i swydd neu i allu dod o hyd i rywle i ddysgu'r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer y swydd rydw i eisiau ei gwneud. Mae hefyd wedi fy helpu drwy roi rhywbeth i fi ei wneud er mwyn i fi allu mynd allan o'r tŷ yn fwy."

Dywedodd y Cynghorydd Ash Lister, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol (Plant): "Fel rhiant corfforaethol i blant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal yn y ddinas, cyfrifoldeb y Cyngor yw sicrhau eu bod nhw’n cael y cyfle i ffynnu. Rydym wedi gwneud addewid i sicrhau bod pobl ifanc yn cael yr hyfforddiant cywir a theimlo'n barod ar gyfer y dyfodol, a dyna'n union mae'r cynllun Dechrau Disglair yn ei wneud - cefnogi pobl ifanc gyda chyfleoedd i brofi'r byd gwaith a darparu unrhyw gymorth sydd ei angen arnynt i gael profiadau cadarnhaol yn eu hyfforddeiaethau."

Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Drechu Tlodi a Chefnogi Pobl Ifanc:  "Llongyfarchiadau mawr i'r holl bobl ifanc ar gynllun Dechrau Disglair. Roedd yn wych cwrdd â nhw, i ddathlu eu cyflawniadau a chlywed eu profiadau o'u lleoliadau gwaith.

"Rwy'n siŵr, dros y misoedd diwethaf, fod cymorth a chyngor ein Gwasanaethau Cyngor i Mewn i Waith, sy'n cefnogi cymaint o bobl i gael gwaith, wedi bod yn amhrisiadwy iddyn nhw. Rwy'n dymuno'r gorau i bawb ar gyfer eu dyfodol."

Cynhaliwyd raffl yn y dathliad cyflwyno ac enillodd yr hyfforddeion wobrau a roddwyd gan wahanol sefydliadau gan gynnwys dyfeisiau llechen gan Wasanaethau Cyngor i Mewn i Waith, rhoddion gan The Body Shop, Lush, Treetop Adventurw Golf, Escape Rooms Cardiff, Goleuadau Nadolig Parc Bute, Atma Lounge, Balloonery Aberdâr, Base 19 a Costco. Mae cynllun Dechrau Disglair yn ddiolchgar i bawb a roddodd yn garedig i'r raffl.