Back
Ail-agor cronfeydd dŵr Llys-faen a Llanisien

27/07/23

Mae ailagor cronfeydd dŵr Llys-faen a Llanisien wedi cael ei groesawu gan Arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas.

Mae'r newyddion, a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Dŵr Cymru, yn dilyn ailddatblygiad mawr i ddod â'r cronfeydd dŵr Fictoraidd eiconig yn ôl yn fyw fel canolbwynt ar gyfer iechyd a lles ac yn hafan i fywyd gwyllt.

Dywedodd y Cyng. Thomas: "Mae agor y ganolfan ymwelwyr newydd yn arwydd o ddechrau pennod newydd sbon yn hanes hir Cronfeydd Ddŵr Llys-faen a Llanisien. "Mae wedi bod yn ymrwymiad gan fy ngweinyddiaeth ers tro i weld y mannau glas a gwyrdd pwysig hyn yn cael eu defnyddio unwaith eto gan y gymuned ac rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu cefnogi Dŵr Cymru i helpu i wneud i hynny ddigwydd."

People on kayaks on a lakeDescription automatically generated

Gweithgareddau dŵr ar Gronfa Ddŵr Llanisien, a'r Ganolfan Ymwelwyr yng Nghronfeydd Dŵr Llys-faen a Llanisien (credyd Dŵr Cymru)

 

Yn ogystal ag amrywiaeth o weithgareddau dŵr gan gynnwys hwylio, nofio dŵr agored, canŵio, padlfyrddio a chaiacio, gall ymwelwyr hefyd fwynhau 5km o lwybrau o amgylch y cronfeydd dŵr, sydd fel Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig yn gartref i ystod amrywiol o fflora a ffawna.

Mae'r ganolfan ymwelwyr ddeulawr newydd sbon yn cynnig golygfeydd ar draws y cronfeydd dŵr ac yn cynnwys caffi ac ystafelloedd cyfarfod, ac o fis Medi 2023 bydd hefyd yn agor fel bwyty gyda'r nos.

Mae mynediad i'r safle am ddim (bydd parcio a gweithgareddau yn codi ffi). Mae archebu yn hanfodol ar gyfer gweithgareddau dŵr.

I ddysgu mwy am yr hyn sydd ar gael, ewch i:
www.lisvane-llanishen.com