26/07/23
Mae capel sydd wedi ei guddio o'r golwg ers degawdau wedi cael ei ddatguddio fel rhan o waith parhaus ar Siop Adrannol flaenorol Howells.
Mae'r ddelwedd newydd yn dangosffasâd blaen ycapel hanesyddol yn ei holl ogoniant wrth i waith barhau i baratoi'r adeilad ar gyfer ei adnewyddu a'i ailddefnyddio, fydd yn amodol ar gael caniatâd pellach.
Adeiladwyd y capel, a guddiwyd o'r golwg am ryw 50 mlynedd, ym 1865 ac roedd yn disodli capel cynharach o 1807.
Yn flaenorol, pan oedd Howells yn masnachu, roedd llawr gwaelod y ffasâd blaen i'w weld yn adran deilwra'r dynion, gyda'r llawr gwaelod yn cael ei feddiannu gan yr adran esgidiau. Roedd y llawr cyntaf yn yr adran dillad Merched, gyda cholofnau haearn bwrw a'r gwaith plastr addurnol i'w gweld. Mae gan yr Ysgol Sul gysylltiedig neuadd ymgynnull fawr gyda balconi, nad oedd yn rhan o'r siop gyhoeddus, a chafodd ei ddefnyddio fel ardal storio yn unig.
Rhestrwyd y capel gan Cadw yn adeilad Gadd II* ynghyd â gweddill y siop adrannol ym 1988.
Mae'r Cynghorydd Dan De'Ath, Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, yn falch y bydd yr hen gapel a'r Ysgol Sul gysylltiedig yn cael eu diogelu a'u dathlu wrth i brosiect adnewyddu Howells symud ymlaen.
"Mae capel Bethany yn adeilad hynod ddiddorol sydd wedi bod yn cuddio ond yn amlwg yn y siop adrannol. Mae arwyddocâd hanesyddol i'r adeilad, ac mae'r bensaernïaeth yn drawiadol, felly rwy'n falch iawn bod yr adeilad bellach yn cael ei ddatguddio yn ei holl ogoniant.
"Mae swyddogion y cyngor yn gweithio'n agos gyda'r datblygwyr Thackeray Estates i sicrhau bod y cynlluniau ailddatblygu yn datguddio ac yn amddiffyn elfennau hanesyddol a phensaernïol mwyaf arwyddocaol yr hen storfa, gan roi cymaint o fynediad i'r cyhoedd â phosibl, fel y gellir parhau i'w fwynhau am genedlaethau i ddod."
Dywedodd Antony Alberti, Prif Swyddog Gweithredol Grŵp Thackeray: "Mae gennym gyfle anhygoel i ddechrau trawsnewid Caerdydd trwy greu calon newydd i'r ddinas. Mae Howells yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i roi bywyd newydd i un o asedau mwyaf eiconig Cymru".
Dywedodd Giles Hoare, y Cyfarwyddwr Buddsoddi: "Bydd gan Howells ddefnydd eithriadol o gymysg, yn cynnwys tir cyhoeddus newydd fydd yn datgelu Capel Bethany yn llawn. Bydd yr adfywiad yn cyfrannu at adfer canol dinas Caerdydd ac yn denu brandiau byd-eang newydd i'r ddinas".