25/07/23
Mae timau ar draws Cyngor Caerdydd, ynghyd â sefydliadau partner a grwpiau cymunedol ledled y ddinas, yn ymuno i helpu teuluoedd sy'n wynebu anawsterau ariannol yn ystod gwyliau'r haf i ysgolion.
Mae amrywiaeth o gymorth ar gael ar adeg pan fo pwysau ariannol cynyddol a gellir tywys rhieni a theuluoedd tuag at ffyrdd y gall pobl ifanc ymysgwyd a chael eu diddanu, yn ogystal â sut i ddod o hyd i ffyrdd rhad - ac am ddim - o fwydo teuluoedd.
Mae'r rhaglen 'Bwyd a Hwyl', bellach ar ei wythfed blwyddyn, ar gael mewn 27 o ysgolion yn y ddinas. Mae'r rhaglen cyfoethogi gwyliau ysgol arobryn yn darparu prydau am ddim ochr yn ochr â rhestr gyffrous o weithgareddau, sgiliau a chwaraeon hwyliog am ddim a ddarperir gan sefydliadau partner, gan gynnwys Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, sy'n cefnogi sesiynau addysg maeth.
Yn ogystal, mae llu o sefydliadau, elusennau a chwmnïau eraill yn hyrwyddo ffyrdd am ddim neu am gost isel i sicrhau bod pawb yn gallu bwyta'n iach.
Dwedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: "Bydd llawer o bobl yn teimlo effeithiau'r argyfwng costau byw parhaus ond i rai teuluoedd mae'r effaith yn llawer mwy, yn enwedig gyda'r baich ariannol ychwanegol a ddaw yn sgil gwyliau ysgol hir.
"Rydym yn cydnabod yr angen a phwysigrwydd cael cynllun Bwyd a Hwyl Caerdydd. Dros yr wyth mlynedd diwethaf rydym wedi sefydlu gwaith partneriaeth llwyddiannus sydd wedi chwarae rhan allweddol wrth gefnogi iechyd a lles cadarnhaol ymhlith y plant hynny sy'n elwa fwyaf o'r cynllun.
"Gan roi mynediad i weithgarwch corfforol, prydau iach a sesiynau maeth a bwyd, mae'r fenter yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau hwyliog na fyddai rhai plant fel arfer yn cael cyfle i'w mwynhau.
"Rwy'n falch iawn bod y cynllun wedi tyfu flwyddyn ar ôl blwyddyn ac rwy'n edrych ymlaen at ymweld â llawer o'r sesiynau yr haf hwn i gwrdd â'r plant a'n haelodau staff ymroddedig."
Dwedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Drechu Tlodi a Chefnogi Pobl Ifanc: "Mae ein tîm Cynghori Ariannol yn dal yma i helpu pobl sydd angen cymorth dros wyliau'r ysgol, a thu hwnt. Os oes unrhyw un yn ei chael hi'n anodd, mae'n bwysig cofio bod help ar gael i bawb, galwch draw i'ch canolfan leol neu ffoniwch y Llinell Gynghori. Mae ein tîm wrth law i helpu."
Dyma restr o rai o'r gweithgareddau a'r cyngor ymarferol sydd ar gael:
Gweithgareddau am ddim neu am gost bychan
Cymorth i Deuluoedd
- Talebau Cynllun Byrbrydau Iach
- Prydau Ysgol Am Ddim
- Gostyngiad y Dreth Gyngor
- Cronfa Atal Digartrefedd
- Taliad Tai yn ôl Disgresiwn
Bwyd am ddim neu am bris isel
Cafodd y cynllunBwyd a Hwylei ddatblygu gan dîm Bwyd a Hwyl Caerdydd yn 2015 ac fe'i mabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru a'i gyflwyno i weddill Cymru yn ystod y ddwy flynedd ddilynol. Mae wedi cael ei ddefnyddio fel enghraifft o Arfer Gorau ac mae wedi arwain at gydnabod mai Cymru sydd â'r ddarpariaeth gwyliau fwyaf datblygedig yng ngwledydd Prydain.