Back
Crochan Ceridwen sy’n byrlymu i gelf stryd newydd ysgol yng Nghaerdydd


20/7/23

Mae delweddau o hen fytholeg Cymru wedi cael triniaeth yr 21
ainganrif ac erbyn hyn yn addurno waliau ysgol uwchradd yn y ddinas, o ganlyniad i gydweithrediad rhwng tîm gwaredu graffiti'r Cyngor, disgyblion ac artistiaid lleol.

 

Hanes crochan Ceridwen oedd ysbrydoliaeth prosiect a ddaeth ynghyd ag adran gelf Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr, aelodau o dimau gwasanaethau gofalu'r Cyngor a'r artist stryd Myles Hindle.

 

Gweithiodd Myles gyda'r disgyblion i archwilio gwahanol dechnegau celf stryd cyn dylunio a phaentio'u campweithiau lliwgar sy'n darlunio stori'r wrach wen chwedlonol, sy'n enwog am ei ffisig hudol, ar wal ysgol.

 

Dywedodd Myles: "Fe wnes i fwynhau gweithio gydag Ysgol Plasmawr a'r disgyblion. Gwnes i ddarparu llawer o bren wedi'i drin, cynfasau, papur, cerdyn, paent, rholeri a hambyrddau i'r disgyblion baentio arnyn nhw. Roedden nhw wrth eu bodd yn defnyddio'r paent chwistrell."

 

Dywedodd yr athrawes gelf Bethan Karroumi yn Ysgol Plasmawr: "Sefydlwyd Prosiect Celf Stryd Plasmawr yn 2018 gyda'r bwriad o annog ymgysylltiad disgyblion â'r ysgol drwy roi perchnogaeth iddyn nhw dros gynnwys, lleoliad a gweithrediad gan oleuo waliau'r ysgol ar yr un pryd.

 

"Mae wedi bod yn werth chweil i'n disgyblion allu gweithio gydag artistiaid lleol dros y blynyddoedd ac nid oedd Myles yn eithriad. Mae'r prosiectau hyn yn dod â chymaint mwy na'r wobr weledol i'r plant a'r ysgol; mae'r holl ymwneud yn golygu eu bod yn ymgysylltu ac yn cyfathrebu sydd o'r pwys mwyaf ar ôl cyfnod mor anodd yn dilyn Covid.

 

"Rydyn ni'n bwriadu cydweithio â Myles a'r Tîm Gwasanaethau Gofalu eto yn fuan ar brosiectau cymunedol lleol yn y Tyllgoed - mae'r disgyblion yn awyddus iawn i gymryd rhan."

 

Prosiect Plasmawr yw'r ail brosiect cydweithio ag ysgol leol eleni ar gyfer tîm gwaredu graffiti gwasanaeth gofalu'r Cyngor, a ymatebodd i fwy na 1,200 o adroddiadau o graffiti yn y ddinas yn y flwyddyn ddiwethaf. Yn gynharach eleni, bu'r tîm yn gweithio gydachwmni murlun o Gaerdydd, Wall-op Murals acYsgol Gynradd Sant Philip Evans i roi gweddnewidiad i danffordd ger yr ysgol gyda murlun bywiog newydd.

 

Mae'r tîm hefyd wedi bod yn helpu i oleuo corneli bach y ddinas drwy drawsnewid cypyrddau cyfleustodau hyll, a oedd wedi'u fandaleiddio â graffiti sarhaus, gyda dyluniadau celf stryd deniadol.

 

Mae rhan fwyaf y paent ar gyfer yr holl brosiectau hyn yn rhodd gan gwmnïau sydd â chontractau i gyflenwi nwyddau neu wasanaethau i'r cyngor, fel rhan o'u hymrwymiad gwerth cymdeithasol, tra bod rhywfaint yn rhodd gan aelodau o'r cyhoedd sy'n cefnogi gwaith celf. Mae'r artistiaid lleol hefyd yn gwirfoddoli eu hamser i gymryd rhan.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne:  "Prosiect gwych arall sydd wedi'i gydlynu gan ein tîm gwaredu graffiti, yn arbennig Sean Thomas, sy'n gweithio mor galed ar y cydweithrediadau hyn i greu celf stryd sy'n dod â lliw a diddordeb i gymdogaethau ledled y ddinas."

 

Mae'r tîm Gwasanaethau Gofalu yn awyddus i weithio gydag artistiaid stryd lleol eraill ar brosiectau yn y dyfodol yn ogystal â thrigolion sy'n berchen ar wal neu garej sy'n wynebu'r cyhoedd sy'n destun fandaliaeth barhaus, a allai fod â diddordeb mewn gosod gwaith celf lle ceir problem.

E-bostiwchEstateServicesHousingManagement@cardiff.gov.uk