Back
Disgyblion Caerdydd yn tanio at ddyfodol disglair

19/7/2023

 

Mae ysgolion uwchradd o bob rhan o Gaerdydd yn gweithio gyda'i gilydd i archwilio'r heriau a fyddai'n cael eu hwynebu yn ystod taith i'r blaned Mawrth i ddatblygu anheddiad newydd sy'n gallu cynnal bywyd dynol.

Mae Academi Ofod 2023 yn rhaglen addysg wythnos o hyd i helpu pobl ifanc 13 a 14 oed i ddysgu mwy am ymdrechion byd-eang o ran teithio yn y gofod a gwladychu'r blaned Mawrth. Mae hwn yn gynllun a grëwyd i blant o ysgolion uwchradd ar draws y ddinas, ac yn enwedig y rhai mewn grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol, i'w hysbrydoli gyda gyrfaoedd STEM yn y diwydiant gofod - sector twf yn y ddinas a'r brifddinas-ranbarth. (STEM = Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg)

A person holding a stick with a flame in front of a personDescription automatically generated

Mae chwe ysgol uwchradd o bob rhan o'r ddinas yn gweithio gyda'i gilydd i archwilio'r heriau a fyddai'n cael eu hwynebu yn ystod taith i'r blaned Mawrth i ddatblygu anheddiad newydd sy'n gallu cynnal bywyd dynol. Gwahoddir disgyblion o'r ysgolion sy'n cymryd rhan i ymgysylltu â chyfres o heriau'n ymwneud â theithiau i'r blaned Mawrth.

 

Bydd digwyddiadau tîm yn gofyn i ddisgyblion weithio gyda'i gilydd i gynhyrchu cynigion ar gyfer adeiladu canolfan i gartrefu trefedigaeth ddynol ar y blaned Mawrth. Bydd y gyfres o heriau'n gofyn i ddisgyblion weithio'n greadigol i gynhyrchu dyluniad ar gyfer lansio roced a roboteg Lego i archwilio'r tir a'r bywyd ar y blaned Mawrth gan ddefnyddio'r dystiolaeth ymchwil ddiweddaraf.

A group of people working on a computerDescription automatically generated 

Bydd disgyblion yn cael cyfleoedd i weithio gydag ymchwilwyr blaenllaw o Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth ac Ysgol Peirianneg Prifysgol Caerdydd, ochr yn ochr â chyflogwyr lleol blaenllaw o'r sector awyrofod gan gynnwys Space Forge a Small Spark Space Systems, ac amrywiaeth o arbenigwyr allanol eraill. Trwy gymryd rhan yn y profiadau dysgu amrywiol hyn, byddant yn gallu cymhwyso ac ehangu eu gwybodaeth am wyddoniaeth a thechnoleg yn ogystal â sgiliau annatod eraill sy'n bileri i'r cwricwlwm newydd. 

 

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg:  "Mae Academi Ofod Caerdydd yn helpu i godi dyheadau ac ysbrydoli mwy o blant ysgol yng Nghaerdydd i ystyried gwneud pynciau STEM ac agor eu llygaid i gyfleoedd gyrfa yn y diwydiant gofod yn y dyfodol.

Yn enghraifft ardderchog o waith partneriaeth,mae digwyddiadau fel hyn ynrhoi'r wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen ar bobl ifanc i lwyddo. Maen nhw'n cael profiadau, gwybodaeth a chyngor ar y cyfleoedd gyrfaol cyffrous sydd gan Gaerdydd i'w cynnig, sy'n helpu cyflogwyr i gael mynediad at genhedlaeth o bobl ifanc sy'n wybodus, yn frwdfrydig ac yn awyddus i weithio yng Nghaerdydd, gan helpu i dyfu sectorau yn y Brifddinas-Ranbarth." 

Yn dilyn rhaglen o weithdai diddorol wythnos o hyd, bydd arddangosiad arbennig o gyflawniadau'r disgyblion cyn iddynt raddio o Academi Ofod Caerdydd 2023 ddydd Gwener 7 Gorffennaf yn CultVR, canolfan celfyddydau digidol arloesol yn Grangetown.

 

Dywedodd yr Athro Paul Roche sy'n arwain y prosiect ar ran Prifysgol Caerdydd: "Mae Academi Ofod Caerdydd yn cynnig cyfle unigryw i ddatblygu dealltwriaeth disgyblion o Wyddoniaeth a Thechnoleg sy'n gysylltiedig ag archwilio'r gofod.  Am y tro cyntaf, bydd llawer yn profi'r ystod eang o gyfleoedd Addysg Uwch sy'n bodoli yn y brifysgol, yn ogystal â rhai o'r cyfleoedd cyflogaeth arloesol o fewn yr ardal leol i lywio eu dyheadau ar gyfer y dyfodol".