Back
Cyngor Caerdydd yn croesawu adroddiad rhanbarthol allweddol

18.07.23
Mae disgwyl i Gyngor Caerdydd gymeradwyo adroddiad eang sy'n nodi cynlluniau i ddatblygu gofal cymdeithasol y rhanbarth dros y pum mlynedd nesaf.

Lluniwyd Cyd-gynllun Ardal Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Caerdydd a'r Fro 2023-2028 gan gynghorau Caerdydd a Bro Morgannwg ynghyd â chynrychiolwyr y bwrdd iechyd lleol, y gwasanaeth ambiwlans, ynghyd ag elusennau a grwpiau gofalwyr.

Ei briff statudol yw gwerthuso gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud yn y sector gofal ac asesu sut y bydd angen i ddarpariaeth newid a gwella i ddiwallu anghenion iechyd a lles y boblogaeth sy'n newid.

Fe'i lluniwyd gyda chymorth cannoedd o ymgynghoriadau â gweithwyr proffesiynol a phobl yn y rhanbarth, gan gynnwys mwy na 600 o ymatebion gan y cyhoedd i arolwg ar-lein, 35 o ymatebion gan blant a phobl ifanc, 96 gan garcharorion Carchar Caerdydd a 23 o grwpiau ffocws gyda chyfanswm o 132 o bobl.

Mae'r adroddiad sy'n deillio o hyn yn canolbwyntio ar anghenion pobl mewn tri cham bywyd:

  •  Dechrau’n Dda - rhoi’r dechrau gorau i blant mewn bywyd
  • Byw’n Dda - cynorthwyo pobl i wneud y pethau sy’n bwysig iddyn nhw, a
  • Heneiddio'n Dda – galluogi pobl i aros yn annibynnol wrth dyfu'n hŷn

 Wrth gyflawni'r nodau hyn, mae gan y BPRh bum egwyddor allweddol:

  •  Atal
  • Gofal yn Nes at y Cartref
  • Amrywiaeth a chynhwysiant
  • Cynaliadwyedd, a
  • Gwerth cymdeithasol

Mae pwyllgor Craffu Cyngor Caerdydd eisoes wedi archwilio'r adroddiad a dywedodd y Cynghorydd Ash Lister, yr aelod Cabinet dros wasanaethau plant, ei fod yn archwiliad cynhwysfawr o'r sector gofal ac yn gyfraniad cadarnhaol at wella amodau a chanlyniadau i filoedd o bobl.

Mae'r cynllun ardal yn cyd-fynd yn dda â'n strategaeth Ymdrechu am Ragoriaeth mewn Gwasanaethau Plant, gan weithio gyda chydweithwyr ym maes iechyd a'r trydydd sector, i wella ein cynnig o ran cefnogi'r rhai sy'n byw ag anableddau a chynnig iechyd a lles emosiynol gwell.

Ychwanegodd ei gyd-aelod Cabinet, y Cynghorydd Norma Mackie, yr aelod dros Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion: “Rydym hefyd yn croesawu'r ymrwymiad i wella mynediad at archwiliadau iechyd blynyddol, gan gynnwys gwasanaethau deintyddiaeth, i unigolion ag anableddau dysgu, ac ymrwymiad y cynllun i leihau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.

“Rwy hefyd yn falch o weld bod y cynllun yn adlewyrchu ein huchelgais i gefnogi annibyniaeth ac i helpu pobl hŷn i heneiddio'n dda gartref, yn unol â'n strategaeth Heneiddio'n Dda.

“Ar y cyfan, mae hwn yn gorff pwysig iawn o waith sydd wedi cynnwys llawer iawn o ymchwil ac ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol a phobl yn y sector gofal. Bydd yn ein helpu ni yn y rhanbarth i sicrhau bod y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn derbyn y gwasanaeth gorau posibl.”

Dywedodd Meredith Gardiner, Pennaeth Partneriaethau a Sicrwydd ym Mwrdd Partnieraeth Rhanbarthol (BPRh) Caerdydd a’r Fro: “Cyd-gynllun Ardal y BPRh yw lle mae partneriaid yn dod at ei gilydd i nodi eu cynlluniau i wella iechyd a lles y boblogaeth leol. Mae’r cyfeiriad strategol a nodir yn y cynllun hwn yn cysylltu’n benodol â’r gweithgareddau ar y cyd yr ydym yn ymrwymo iddynt fel partneriaeth, gan adeiladu ar hanes hir o gydweithio.”

Aeth ymlaen i ddweud: “Mae’r cynllun hwn yn uchelgeisiol ond realistig ac yn cydnabod yr heriau real iawn y mae pobl leol, ein staff a’n gwasanaethau yn eu hwynebu. Rydym wedi ymrwymo i wella a chydgysylltu cymorth a gwasanaethau ar gyfer bywydau iach, lles ac annibyniaeth.”

Disgwylir i’r adroddiad llawn, sydd wedi pasio trwy Gabinet y Cyngor a’r cyngor llawn i’w gytuno gan yr awdurdod lleol, gael cymeradwyaeth y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol erbyn diwedd y mis. Mae ar gael i’w ddarllen drwy ddilyn y ddolen hon https://tinyurl.com/mptw3w54