18/7/2023
Mae Pwyllgor Cynllunio Cyngor Caerdydd wedi cymeradwyo cynlluniau ar gyfer adeilad newydd i Ysgol y Court. Mae penderfyniad i ailenwi'r ysgol yn 'Ysgol Cynefin' hefyd wedi'i gytuno.
Mae'r penderfyniad cynllunio unfrydol yn nodi'r cam nesaf yn y datblygiad i gynyddu capasiti'r ysgol drwy ei hadleoli a'i hailadeiladu ar draws dau safle. Bydd un ohonynt wedi ei leoli ar dir i'r de o Ysgol Gynradd y Tyllgoed ar Wellwright Road, a bydd y llall i'r de o Ysgol Gynradd Pen y Bryn ar Dunster Road yn Llanrhymni. Bydd hyn yn defnyddio tir ar safle presennol Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg, ar ôl iddi gael ei symud i lety newydd ar ddatblygiad Sant Edern.
Dewiswyd enw newydd yr ysgol, Ysgol Cynefin, gan yr ysgol a rhanddeiliaid allweddol i gyfleu'r berthynas rhwng pobl a'r byd naturiol, a sut y gall cysylltu pobl a'r amgylchedd danio ymdeimlad o hunaniaeth a lles.
Ysgol Cynefin yn y Tyllgoed
Bydd yr ysgol newydd yn tyfu o 42 i 74 o leoedd, gyda 36 o ddisgyblion ar bob safle o flwyddyn academaidd 2025-26, gan helpu i ateb galw'r ddinas am ddarpariaeth arbenigol oedran cynradd. Bydd gan y ddau safle amrywiaeth o gyfleusterau cynhwysfawr gan gynnwys ardaloedd gemau aml-ddefnydd, mannau chwaraeon a chwarae meddal, caeau chwaraeon ac ardaloedd garddwriaethol, sy'n cael eu darparu dan Fand B Rhaglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd.
Bydd y datblygiad yn cynnwys:
Ysgol Cynefin yn Llanrhymni
Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae cymeradwyaeth gynllunio a'r newyddion am newid enw yn nodi pennod newydd gyffrous i'r ysgol hon. Trwy adleoli ac ailadeiladuYsgol Cynefindros ddau safle, gall gwelliannau gael eu gwneud i safon y cyfleusterau tra'n cynnig mwy o leoedd i blant sydd angen darpariaeth arbenigol. "Mae enw'r ysgol newydd yn cyd-fynd â gweledigaeth ac ethos yr ysgol, wrth iddynt geisio cefnogi disgyblion sy'n wynebu heriau o ran iechyd a lles emosiynol.
"Mae Caerdydd wrthi'n cychwyn ar ein trawsnewidiad mwyaf radical o ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol ers blynyddoedd. Mae'r Ysgol Cynefinnewydd yn rhan o'r cynlluniau arwyddocaol sydd eisoes ar y gweill i fynd i'r afael â'r diffyg yn y lleoedd sydd eu hangen ar draws y ddinas.
Mae cyd-leoli'r ysgol newydd gydag ysgolion cynradd prif ffrwd hefyd wedi darparu buddsoddiad i'r ysgolion cyfagos; bydd Ysgol Gynradd Pen y Bryn wrth ymyl safle Llanrhymni ac Ysgol Gynradd y Tyllgoed wrth ymyl safle'r Tyllgoed, ill dwy'n elwa o welliannau awyr agored gan gynnwys cyllid tuag at ierdydd ysgol llawn bwyd, ardaloedd ysgol goedwig, ystafelloedd dosbarth awyr agored, darpariaeth chwaraeon awyr agored ac offer iard chwarae.
Ychwanegodd y Cynghorydd Merry: "Drwy gydleoli'r ysgol gyda dwy ysgol gynradd brif ffrwd, gall ysgolion rannu arferion da gyda'i gilydd a gall disgyblion hefyd gael cyfleoedd i elwa o amgylcheddau prif ffrwd. Yn ogystal, mae'r ysgolion cynradd prif ffrwd hefyd wedi cael cyfleoedd am fuddsoddiad fel y bydd pob ysgol sy'n rhan o'r cynlluniau yn elwa."
Dywedodd Jamyn Beesley, Pennaeth: "Rydym wrth ein bodd bod cynlluniau wedi'u cymeradwyo ar gyfer adeilad newyddYsgol Cynefin. Mae'r disgyblion rydym yn cael y pleser o weithio gyda nhwynhaeddu llety arloesol a phwrpasol i wneud y mwyaf o'u potensial.
"Mae ein henw newydd, Ysgol Cynefin, wedi'i ddewis i gynrychioli'r cysylltiad pwysig rhwng ein disgyblion a'u hamgylchedd, a'r effaith gadarnhaol y bydd eu hamgylchedd yn ei chael ar eu hiechyd a'u lles. Diolch enfawr i'r awdurdod lleol am gyd-adeiladu cynlluniau ochr yn ochr â rhanddeiliaid allweddol ac i stsaff ymroddedig yrysgolsy'n ymdrechu'n barhaus i wella'r ddarpariaeth ar gyfer ein disgyblion bregus.Rydym i gyd yn edrych ymlaen at ddyfodol cyffrous i'r ysgol."
Yn amodol ar gynllunio a chaffael, disgwylir i'r gwaith o adeiladuYsgol Cynefinddechrau yn hydref 2023.