14/7/2023
Mae'r cynnydd a wnaed gan Ysgol Rithwir (YR) Caerdydd a Phennaeth yr Ysgol Rithwir (PYR) wedi'i gyflwyno mewn adroddiad i Bwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc y Cyngor.
Wedi'i sefydlu ym mis Ebrill 2023, nod y cynllun peilot a ariennir gan Lywodraeth Cymru yw gwella cynnydd addysgol a chyflawniad yr holl blant sy'n derbyn gofal gan eu hawdurdod, gan gynnwys y rhai sydd wedi'u lleoli mewn ysgolion mewn awdurdodau eraill.
Gan fod plant mewn gofal yn cael eu haddysgu ar draws nifer o ysgolion, mae Pennaeth yr Ysgol Rithwir yn ymgymryd â'r cyfrifoldeb hanfodol o fonitro eu cynnydd fel pe baent yn mynychu un sefydliad.
Mae'r cynllun yn meithrin cydweithio rhwng addysg, gwasanaethau cymdeithasol a rhanddeiliaid eraill a thrwy weithio mewn partneriaeth ag awdurdodau eraill, mae'n cefnogi cynnydd addysgol y plant hyn.
Mae prif gyfrifoldebau'r Ysgol Rithwir a Phennaeth yr Ysgol Rithwir yn cynnwys:
Nid yw'r Ysgol Rithwir yn adeilad corfforol y mae'r plant mewn gofal yn ei fynychu, gan eu bod yn parhau i fynychu'r ysgolion lle maent wedi'u cofrestru.
Dywedodd Deborah Williams, Pennaeth Ysgol Rithwir Caerdydd: "Rôl tîm yr Ysgol Rithwir yw cydweithio'n weithredol ag athrawon ym mhob ysgol i sefydlu perthnasoedd cryf ac effeithiol, gwella cyfathrebu a chynnig cymorth yn unol â'r cynlluniau y cytunwyd arnynt gyda dysgwyr ac asiantaethau eraill.
"Hyd yma, mae llawer iawn o waith wedi'i wneud i ddod i adnabod ein plant a'n pobl ifanc, datblygu perthnasoedd ac ehangu'r weledigaeth a'r cynllun strategol yn y tymor byr a'r tymor hir.
"Mae'r adroddiad yn pwysleisio'r angen am ymdrechion cydweithredol i sicrhau gwell canlyniadau i blant a phobl ifanc mewn gofal, gan gydnabod na ellir ystyried eu hanghenion addysgol ar wahân, ond rhaid mynd i'r afael â nhw ar y cyd â materion ehangach fel eu lles, iechyd a sefydlogrwydd lleoliad."
Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, a'r Aelod Cabinet dros Addysg, y Cynghorydd Sarah Merry: "Yn dilyn cais llwyddiannus Caerdydd am gyllid, bydd y prosiect peilot arloesol hwn yn helpu i sicrhau y gallwn gyflawni ein cyfrifoldeb i wella safon addysg ysgol a hyrwyddo cyflawniad addysgol plant dan ofal yr Awdurdod Lleol, waeth ble maent wedi'u lleoli.
"Mae'r adroddiad a gyflwynwyd ym Mhwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc y Cyngor yn cyd-fynd ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pob plentyn yng Nghymru, gan gynnwys y rhai mewn gofal, yn cael addysg ragorol waeth beth fo'u hamgylchiadau."
Dywedodd y Cynghorydd Ash Lister, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol Plant: "Mae'r prosiect, a fydd yn rhedeg tan fis Mawrth 2024, eisoes wedi arddangos canlyniadau addawol ac yn gosod Pennaeth yr Ysgol Rithwir mewn sefyllfa i lunio polisïau ac arferion ar gyfer y dyfodol, gan sicrhau cyfranogiad llawn yr holl blant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal mewn penderfyniadau ynghylch eu bywydau a'u cynlluniau ar gyfer y dyfodol, gan eu cynnwys yn weithredol wrth lunio eu dyfodol eu hunain a sicrhau bod eu safbwyntiau'n cael eu cynrychioli'n gywir."
"Mae'r fenter yn cefnogi ein hymrwymiad i wella canlyniadau addysgol a chyfleoedd bywyd plant mewn gofal a thrwy ddull cyfannol, mae'n cefnogi Erthygl 39 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn, sy'n pwysleisio pwysigrwydd cymorth ychwanegol i blant sydd wedi profi trawma i gynorthwyo gyda'u hadferiad, integreiddiad a datblygiad cyffredinol.
"Wrth edrych ymlaen, bydd Pennaeth yr Ysgol Rithwir yn parhau i chwarae rhan hanfodol wrth lunio polisi ac arfer gyda'r nod o rymuso pob plentyn a pherson ifanc sy'n derbyn gofal fel y gallant gyflawni."
Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma:Agenda ar gyfer Pwyllgor Craffu Plant a Phobl Ifanc ar ddydd Mawrth, 4 Gorffennaf, 2023, 4.30 pm : Cyngor Caerdydd (moderngov.co.uk)