Back
Dyddiau Da o Haf! Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn lansio rhaglen ddigwyddiadau 2023

13/7/2023

 

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd wedi lansioDyddiau Da o Haf, rhaglen weithgareddau a digwyddiadau ledled y ddinas wedi'i hanelu at bobl ifanc 11-25 oed.

Wedi'i chyflwyno trwy glybiau ieuenctid, darpariaeth ieuenctid stryd, prosiectau ar-lein ac wedi'u targedu ledled Caerdydd, mae'r rhestr yn cynnwys ystod o weithgareddau fel teithiau dydd, sesiynau blasu mewn crochenwaith, adeiladu, cerddoriaeth a harddwch, cynnal cyfnewidfeydd ieuenctid, rhaglen Esports a  Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd yn meddiannu'r Parc Aqua a Chanolfan Dŵr Gwyn Ryngwladol Caerdydd.

Yn ogystal ag amrywiaeth o chwaraeon, grwpiau lles a gweithgarwch creadigol, mae Creawdwyr Cynnwys Caerdyddyn cynnig cyfle unigryw i bobl ifanc 11-17 oed gymryd rhan mewn gwersyll haf digidol ac mae Canolfan Addysg Awyr Agored Storey Arms yn darparu cyfres o brofiadau awyr agored.

Bydd clybiau ieuenctid hefyd ar agor ar draws y gwasanaeth gan gynnig lle diogel a chefnogaeth i bobl ifanc gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau fel coginio, celf a chrefft, gemau a chwaraeon. 

Bydd llu o ddigwyddiadau i helpu pobl ifanc i benderfynu ar eu camau nesaf yn dilyn arholiadau hefyd yn cael eu cynnal, yn ogystal â sesiynau mentora sy'n rhoi cymorth i gyflogaeth, addysg, hyfforddiant a gwirfoddoli.

Bydd rhaglenDyddiau Da o Hafyn cael ei diweddaru'n rheolaidd ar-lein. I ddarganfod mwy, gallwch ymweld âhttps://www.cardiffyouthservices.wales/index.php/cy/digwyddiadau

neu ymuno â'r sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol #HafGic

I gael y wybodaeth ddiweddaraf am Wasanaethau Ieuenctid Caerdydd, dilynwch eu sianeli cyfryngau cymdeithasol Instagram a Facebook @cardifffyouthservice

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Drechu Tlodi a Chefnogi Pobl Ifanc, y Cynghorydd Peter Bradbury; "Ar hyn o bryd mae gan Gaerdydd 3500 o aelodau o'r Gwasanaeth Ieuenctid ac mae'n gwneud dros 40,000 o gysylltiadau â phobl ifanc bob blwyddyn.  Mae'r ffigurau arwyddocaol hyn yn dangos pa mor bwysig yw'r ddarpariaeth a pha mor helaeth mae'n cael ei defnyddio, gan gynnig achubiaeth i lawer o bobl ifanc, a rhoi lle iddynt fynd a rhywun i siarad â nhw.

"Bydd rhaglen digwyddiadau'r haf eleni yn cynnig ystod eang o ddarpariaeth a chyfle i bobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau anffurfiol yn seiliedig ar eu hanghenion. Yn ogystal â hyn, rwy'n croesawu cyllid ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio gyda thrigolion lleol a phartneriaid eraill i ddatblygu cynllun cymunedol ar lawr gwlad ar gyfer Caerau a Threlái, gan helpu i ddiwallu anghenion a dyheadau pobl leol gyda ffocws cryf ar gefnogi plant a phobl ifanc.  Bydd y gwaith hwn yn helpu i lywio rhaglenni ymgysylltu ehangach ledled Caerdydd a gweddill Cymru."