11.07.23
Mae Cyngor Caerdydd wedi cyhoeddi fersiwn ddrafft o'i
Strategaeth Cyfranogiad newydd, a gobeithir y bydd yn annog mwy o bobl leol i
gymryd rhan yn ei brosesau gwneud penderfyniadau.
Mae'r strategaeth, sydd i'w hystyried gan Gabinet y cyngor yn ei gyfarfod ar 13 Gorffennaf, wedi'i llunio yn sgil cyfraith Llywodraeth Cymru sy'n gorfodi awdurdodau yng Nghymru i fabwysiadu'r dull hwn.
Ers blynyddoedd lawer, mae'r Cyngor wedi cynnal ymgynghoriadau â'r cyhoedd ynghylch y gyllideb a thrwy ei fenter Holi Caerdydd, sydd wedi helpu i lunio polisïau a llywio penderfyniadau allweddol.
Nawr, yn dilyn Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau
(Cymru) 2021, sy'n nodi bod rhaid i strategaeth pob cyngor helpu pobl leol i
ddod yn ymwybodol o faterion, mae bellach yn bwriadu ehangu hyn ar faterion gan
gynnwys:
Mae'r cyngor eisoes wedi ymgorffori cyfranogiad yn ei ddatganiad polisi 'Cryfach, Tecach, Gwyrddach', gan ymrwymo i ymhelaethu ar leisiau pobl sy'n llai tebygol o gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau a gwella ymgysylltiad â 'lleisiau a glywir yn anaml'.
Nawr, mae'r Strategaeth Cyfranogiad newydd yn nodi ffyrdd
i'r nodau hyn gael eu cyflawni. Ymhlith y mentrau a gynigiwyd mae:
Un o brif ysgogwyr y strategaeth yw'r Cynghorydd Julie Sangani, yr Aelod Cabinet ar y cyd dros Daclo Tlodi, Cydraddoldeb ac Iechyd y Cyhoedd. Dywedodd: "Mae hyrwyddo cyfranogiad dinesig a rhoi llais i bobl Caerdydd wrth lunio'r penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau yn cynrychioli blaenoriaethau allweddol i'r Cyngor. Mae'r rhain hefyd yn werthoedd sy'n agos at fy nghalon.
"Rydym felly wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod pob llais yn cael ei glywed. Mae hyn yn golygu rhoi cyfle i bawb gyfrannu a rhaid i ni fod yn barod i wrando ac ymateb.
"Efallai na fyddwn bob amser yn bwrw ymlaen gyda'r opsiwn a ffefrir gan y cyhoedd ond pan nad ydym yn gwneud hynny, mae angen i ni fod yn glir ac yn dryloyw ac egluro pam lai."
Mae'r cyngor bellach wedi cytuno i gynnal ymgynghoriad
chwe wythnos ar y strategaeth ddrafft, sy'n rhedeg rhwng 24 Gorffennaf a 4
Medi, gan gynnwys grwpiau y nodwyd eu bod yn cael eu tangynrychioli, ynghyd â
grwpiau ffocws yn cynnwys:
Mae gwybodaeth am y strategaeth ar gael yn Gymraeg, Pwyleg, Arabeg a Bengaleg a bydd ar gael fel rhan o'r broses. Pan fydd y broses hon wedi'i chwblhau, gofynnir i'r Cabinet roi ei gymeradwyaeth lawn i'r fersiwn derfynol o'r strategaeth yr hydref hwn.
Dilynwch y ddolen hon i ddarllen y Strategaeth
Cyfranogiad yn llawn - CAB
21 Mehefin 2023 - Eitem 12 - Strategaeth Cyfranogi.pdf