Back
Mwy o Ysgolion Caerdydd yn derbyn Gwobrau Parchu Hawliau

11/7/2023

Oeddech chi'n gwybod bod 111 o ysgolion Caerdydd ar eu taith i fod yn ysgolion sy'n Parchu Hawliau? Mae Gwobr Ysgolion sy'n Parchu Hawliau (GYPH) UNICEF yn cydnabod ysgolion sy'n arfer hawliau plant - yn creu man dysgu diogel sy'n ysbrydoli lle caiff plant eu parchu, lle caiff eu talentau eu meithrin a lle gallant ffynnu.

Ysgol Gynradd Gatholig Sant Philip Evans


Mae'r prif ystadegau'n cynnwys:

87% (111) o ysgolion Awdurdod Lleol Caerdydd wedi cofrestru ar gyfer y rhaglen GYPH.

73% (93) o'r ysgolion hyn â chynllun gweithredu GYPH ar waith ar ôl derbyn eu gwobr efydd, arian neu aur.

64% o'r holl ddisgyblion o ysgol feithrin i ysgol uwchradd yn mynychu ysgol gydag Efydd neu'n uwch.

Yr ysgolion diweddaraf i ennill y wobr aur yn y 12 mis diwethaf yw:

  • Ysgol Gynradd Gatholig Sant Philip Evans
  • Ysgol Gynradd Mount Stuart
  • Ysgol Gynradd Gladstone
  • Ysgol Gynradd Gatholig St Alban
  • Ysgol Gynradd Danescourt

Canmolwyd Ysgol Gynradd Gatholig St Phillip Evans am y canlynol:

  • Mae plant yn deall sut mae eu hawliau'n gysylltiedig ym mywyd yr ysgol, â gwerthoedd Catholig, ac â'u cymuned leol a byd-eang
  • Amgylchedd dysgu hapus a chadarnhaol lle mae ymrwymiad hirsefydlog yr ysgol i hawliau plant wedi'i wreiddio'n ddwfn yn ethos a chwricwlwm yr ysgol
  • Mae parch yr ysgol at y plant yn gwbl amlwg ac yn effeithiol iawn.

Dywedodd Pennaeth Ysgol Gynradd Gatholig Sant Philip Evans, Miss Catherine Power: "Rydym yn hynod falch ein bod wedi ennill Gwobr Aur Ysgolion sy'n Parchu Hawliau UNICEF y DU.  Mae hyn yn dangos ein hymrwymiad i hyrwyddo a gwireddu hawliau plant ac annog oedolion, plant a phobl ifanc i barchu hawliau pobl eraill yn yr ysgol, ein cymuned leol a'r byd ehangach.

Cydnabuwyd Ysgol Gynradd Mount Stuart

Cydnabuwyd Ysgol Gynradd Mount Stuart yn Butetown am y cryfderau canlynol:

  • Ysgol gyda chynhwysiant yn ganolog iddi, lle mae disgyblion yn teimlo'n ddiogel a lle mae gwybod am hawliau plant yn bwysig.
  • Mae amrywiaeth yn amlwg ar draws y cwricwlwm cyfan. Gall disgyblion weld eu treftadaeth eu hunain yn cael ei hadlewyrchu drwy'r cwricwlwm mewn amrywiaeth o ffyrdd.
  • Awydd cryf i ddatblygu dealltwriaeth myfyrwyr o anghydraddoldebau ledled y byd a'r camau y gallant eu cymryd i fynd i'r afael â hyn drwy eu gwaith ymgyrchu ac eiriolaeth.

Dywedodd Dirprwy Bennaeth Dros Dro Ysgol Gynradd Mount Stuart, Shubnam Aziz:  "Rydym yn falch iawn bod y disgyblion a'r staff wedi cael eu cydnabod am y gwaith rhagorol y maent yn ei wneud o ran hawliau ac eiriolaeth ar lefel leol a chenedlaethol. Rydyn ni eisiau i'n plant adael Mount Stuart yn gallu sefyll dros eu hawliau a hawliau pobl eraill yn lleol ac yn fyd-eang. Mae ein disgyblion yn dysgu i fod yn gyfrwng newid ac yn ddinasyddion Cymru a'r byd ehangach."

Lansiodd Caerdydd ei Strategaeth Dinas sy'n Dda i Blant yn 2018, gan roi hawliau a llais plant a phobl ifanc wrth wraidd polisïau, strategaethau a gwasanaethau'r ddinas.

Nod y cynllun gweithredu amlasiantaethol manwl yw cynnwys plant a phobl ifanc wrth wneud penderfyniadau a mynd i'r afael â'r rhwystrau sy'n cyfyngu ar eu cyfleoedd mewn bywyd.  Mae hefyd yn cefnogi'r Cyngor wrth wneud cam sylweddol tuag at nod Caerdydd o gael ei chydnabod yn rhyngwladol fel un o'r dinasoedd sy'n Dda i Blant cyntaf yn y DU, rhaglen uchelgeisiol sy'n gweld cynghorwyr, staff y Cyngor a sefydliadau lleol yn gweithio i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn helpu i lunio ac arwain penderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw.

Mae'r rhaglen yn rhoi cymorth i Awdurdodau Lleol a phartneriaid i ddarparu dull sy'n seiliedig ar hawliau plant wrth ddylunio, darparu, monitro a gwerthuso gwasanaethau a strategaethau lleol ar gyfer plant.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae'n wych gweld yr ysgolion diweddaraf hyn yn cael eu gwobrwyo.  Maen nhw wedi bod yn gweithio gyda'r rhaglen GYPH dros y pedair neu bum mlynedd diwethaf ac maen nhw bellach wedi symud ymlaen yr holl ffordd i'r wobr aur.

"Mae 94 o ysgolion Caerdydd bellach wedi ennill gwobr Efydd neu uwch sy'n cydnabod ymdrechion cynnwys hawliau plant ym mywyd beunyddiol ysgol y rhan fwyaf o blant y ddinas."

Mae ymrwymiad parhaus Cyngor Caerdydd i GYPH gyda phwyllgor y DU ar gyfer UNICEF yn ymgorffori'r egwyddorion cydraddoldeb, urddas, parch, dim gwahaniaethu a chyfranogiad ar draws ysgolion y Ddinas, gan alinio eu gwaith yn ddi-dor â chanllawiau newydd ynghylch Hawliau Dynol yng Nghwricwlwm i Gymru 2022.

UNICEF yw prif sefydliad y byd sy'n gweithio dros blant a'u hawliau.

Mae menterYsgolion sy'n Parchu Hawliau UNICEF y DUyn un sydd wedi'i hanelu at ysgolion ledled y DU, gan gynnwys y rhai mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar.

 

#Caerdyddsynddaiblant #AddCaerdydd