Back
Mae’r chwilio am Hyfforddeion nesaf Parciau Caerdydd wedi dechrau

10.7.23

Mae'r chwilio wedi dechrau am yr ymgeiswyr nesaf i ymuno â'r nifer gynyddol o arddwyr sy'n gweithio yn rhai o barciau mwyaf mawreddog a phoblogaidd Caerdydd sydd wedi graddio o hyfforddeiaethau.

Bydd pum ymgeisydd llwyddiannus yn cael eu recriwtio i'r cynlluniau hyfforddeiaethau sy'n cael eu hysbysebu ar hyn o bryd ar wefan Cyngor Caerdydd, a byddant yn treulio'r pedair blynedd nesaf gyda Pharc Bute, Parc y Rhath a Pharc Fictoria yn ogystal â chant o barciau a mannau gwyrdd eraill ledled Caerdydd fel eu swyddfa.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke:  "Gall ymuno â chynllun penigamp Hyfforddeiaeth Parciau Caerdydd newid bywydau. Mae ein hyfforddeion nid yn unig yn cael y cyfle i ennill cymwysterau ffurfiol, gallant hefyd ddysgu 'yn y gwaith' gan y tîm profiadol a chyfeillgar, llawer ohonynt wedi dod drwy'r cynllun eu hunain - tra'n ennill cyflog cystadleuol."

Ers ailgyflwyno hyfforddeiaethau llwyddiannus Parciau Cyngor Caerdydd, mae mwy na 25 o hyfforddeion wedi sicrhau swyddi parhaol ar ôl graddio o'r cynllun, gan gynnwys yr hyfforddai diweddar Teaka Scriven, a enwyd yn 'Brentis y Flwyddyn' yn 2022 yngngwobrau Prentis y Flwyddyn Gwasanaethau Amgylcheddol CRhGC ledled y DU.

Mae Teaka yn cyfaddef ei hun y byddai bywyd yn "wahanol iawn nawr oni bai am yr hyfforddeiaeth parciau," a'r cyfle i weithio a dysgu mewn"mannau mor anhygoel, maent yn barciau Baner Werdd, dyma'r llefydd gorau i weithio mewn garddwriaeth."

Os oes gennych angerdd am weithio yn yr awyr agored, diddordeb gwirioneddol mewn garddwriaeth, ynghyd â digonedd o frwdfrydedd, yna efallai mai chi fydd yr hyfforddai parciau nesaf. Gallwch ganfod mwy yma: https://www.jobscardiffcouncil.co.uk/