Back
Mae cynlluniau i gynyddu'r ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol ledled y ddinas wedi eu datgelu.

7/7/2023

Gallai cynigion cynhwysfawr i wella a chynyddu'r ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol yng Nghaerdydd olygu y bydd mwy na 200 o leoedd newydd yn cael eu darparu ledled y ddinas.

Mae adroddiad sy'n amlinellu cynlluniau ar gyfer ysgolion cynradd, uwchradd ac arbennig, yn cydnabod y boblogaeth gynyddol o ddysgwyr ag anghenion dysgu cymhleth, cyflyrau'r sbectrwm awtistiaeth ac anghenion iechyd emosiynol a lles a'i nod yw mynd i'r afael â'r galw cynyddol am leoliadau arbenigol ledled Caerdydd.

Mae'r adroddiad yn gwneud argymhellion allweddol i'w hystyried gan Gabinet y Cyngor, gan gynnwys cynnal ymgynghoriadau cyhoeddus ar ystod o gynlluniau a fyddai'n caniatáu cynyddu'r lleoliadau dynodedig drwy greu;

-         60 o leoedd i ddysgwyr oed cynradd ag anghenion dysgu cymhleth a/neu gyflyrau'r sbectrwm awtistiaeth. 

-         64 o leoliadau ar gyfer dysgwyr oed cynradd sydd ag anghenion iechyd emosiynol a lles. 

-         142 o leoliadau ar gyfer dysgwyr oed uwchradd ac ôl-16 sydd ag anghenion iechyd emosiynol a lles.   

Dwedodd y Cynghorydd Sarah Merry, Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau Cyngor Caerdydd: "Rydym yn falch o'r cynnydd sylweddol a wnaed yn y blynyddoedd diwethaf i gynyddu'r cymorth, y sgiliau a'r cyfleusterau cynhwysol sydd ar gael mewn ysgolion, ond wrth i gymhlethdod anghenion dysgwyr gynyddu mae angen dybryd am fwy o ddarpariaeth arbenigol.

Nod y cynigion yw meithrin dull cynhwysol sy'n mynd i'r afael â gofynion unigryw dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, gan ganolbwyntio ar wella capasiti a chyflwyno cwricwlwm arloesol trwy ddarpariaeth addas.

Rhoddir pwysigrwydd ar adnabod yn gynnar, ymyrraeth ar sail ymchwil, adeiladau ysgol hygyrch a phartneriaethau amlasiantaethol cryf, a all gyda'i gilydd sicrhau nad oes unrhyw ddysgwr yn cael ei adael ar ôl ac yn derbyn cyfle cyfartal i ffynnu."

Mae'r cynigion ar gyfer cynnydd graddol yn nifer y lleoedd Anghenion Dysgu Ychwanegol i ddysgwyr ag anghenion iechyd emosiynol a lles yn cynnwys sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol (CAA) yn yr ysgolion canlynol o fis Medi 2024, yn yr adeiladau ysgol presennol:

-         8 lle yn Ysgol Gynradd Baden Powell 

-         8 lle yn Ysgol Gynradd y Tyllgoed i ddisodli'r Dosbarth Lles presennol.

-         16 lle yn Ysgol Gynradd Herbert Thompson, 

-         16 lle yn Ysgol Gynradd Lakeside i ddisodli'r Dosbarth Lles presennol.

-         8 lle yn Ysgol Gynradd Springwood i ddisodli'r Dosbarth Lles presennol.

-         8 lle yn Ysgol Gymraeg Pwll Coch i ddisodli'r Dosbarth Lles presennol.

-         20 lle yn Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr 

-         Byddai Ysgol Greenhill yn cynyddu o 64 i 96 lle gan weithredu fel ysgol sengl i ddysgwyr 11-18 oed ar draws dwy safle gan gynnwys y safle presennol yn Heol Brynglas, Rhiwbeina, a safle newydd yn Rhodfa Tŷ Glas, Llanisien o fis Medi 2026.

Mae'r Cyngor hefyd yn cynnig ehangu Uned Cyfeirio Disgyblion (UCD) Caerdydd, gan gefnogi dysgwyr ag ystod o anghenion iechyd emosiynol a lles, gan gynyddu ei gapasiti i 180 o leoedd, o fis Medi 2023. Am gyfnod dros dro caiff yr Uned Cyfeirio Disgyblion estynedig ei lleoli ar ran o safle yr Ysgol Uwchradd Fitzalan presennol, o fis Medi 2023, yn ogystal â'r safle ar Heol Cefn ym Mynachdy.

Cynigir y dylid gweithredu'r UCD mwy ei faint fel un sefydliad ar gyfer dysgwyr 11-18 oed ar draws tri safle, gan gynnwys y safle presennol ar gyfer hyd at 90 o ddysgwyr yn cynnwys safle Heol Cefn, ynghyd â 48 o ddysgwyr mewn adeilad newydd ar ran o'r safle sy'n cael ei feddiannu ar hyn o bryd gan Ysgol Uwchradd Willows o fis Medi 2027, a 42 o ddysgwyr mewn darpariaeth newydd yn Nhŷ Derw,  Llaneirwg.

Bydd y Cyngor hefyd yn cynnal ymarfer ymgysylltu yn nhymor yr hydref ar gynlluniau ar gyfer Ysgol Gynradd Lansdowne i feddiannu rhan ar wahân o safle presennol ysgol Fitzalan, dros dro, tra bod gwaith atgyweirio hanfodol yn mynd rhagddo ar adeiladau presennol ysgol gynradd Lansdowne. Mae cynlluniau'n cael eu datblygu ar hyn o bryd i ystyried lefel y gwaith sydd ei angen ar safle presennol Ysgol Uwchradd Fitzalan i gynnig amgylchedd dysgu addas i ysgol gynradd a'r UCD, a'r amserlenni posibl ar gyfer y gwaith, a logisteg cysylltiedig.

Pe bai cynlluniau'n mynd rhagddynt yn dilyn penderfyniad pellach gan y Cabinet, bydd y Cyngor yn gweithio'n agos gyda Chorff Llywodraethu Ysgol Gynradd Lansdowne i leihau unrhyw effaith bosibl ar addysgu a dysgu gan gynnwys cymorth i ddisgyblion a theuluoedd sy'n trosglwyddo draw i'r ysgol dros dro.

Mae'r cynigion ar gyfer cynnydd graddol yn nifer y lleoedd Anghenion Dysgu Ychwanegol ar gyfer dysgwyr ag Anghenion Dysgu Cymhleth yn cynnwys sefydlu CAA ar gyfer Anghenion Dysgu Cymhleth yn yr ysgolion canlynol o fis Medi 2024 yn yr adeiladau ysgol presennol:

-         20 lle yn Ysgol Gynradd Coed Glas

-         20 lle yn Ysgol Gynradd Greenway 

-         20 lle yn Ysgol Gynradd Severn

Mae'r adroddiad hefyd yn cynnig lleoli'r Tîm Addysgu Cymunedol yn hen Ganolfan Addysg Oedolion Severn.

Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn ystyried yr argymhellion sydd yn yr adroddiad ar 14 Gorffennaf 2023