Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 07 Gorffennaf 2023

07/07/23


Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys: Sialens Ddarllen yr Haf Caerdydd, Estyn yn cymeradwyo Ysgl Arbennig Greenhill; Diweddariad ar arena dan do Caerdydd a'r cyngor yn datgelu diffyg yn y rhagolwg diweddaraf o'r gyllideb.

‘Ar Eich Marciau, Darllenwch!' Sialens Ddarllen yr Haf Caerdydd yn dechrau ym mis Gorffennaf

Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn ôl. Y thema eleni yw grym chwarae, chwaraeon, gemau a gweithgarwch corfforol gyda llawer o weithgareddau am ddim i deuluoedd.

Yn ystod gwyliau'r haf eleni, mae plant rhwng pedair ac 11 oed yn cael eu hannog i ymuno â thîm o sêr anhygoel a'u masgotiaid gwych, cymeriadau a grëwyd  gan yr awdur plant a'r darlunydd Loretta Schauer.

Mae Sialens Ddarllen yr Haf 2023: ‘Ar Eich Marciau, Darllenwch!' yn rhan o gyfres o weithgareddau a digwyddiadau llawn hwyl drwy'r haf yn llyfrgelloedd a hybiau Caerdydd, Bydd darllenwyr ifanc yn llywio cwrs rhwystrau ffuglennol drwy'r tymor ac yn olrhain eu darllen wrth iddynt fynd. Cânt eu cymell gan wobrwyon am ddim fel sticeri ar hyd y ffordd.

Trwy gyfrwng cardiau her gweithgareddau gan yr Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid, a chasgliad cyffrous o lyfrau ar thema, nod Sialens Ddarllen yr Haf yw cadw'r dychymyg yn fyw dros wyliau'r ysgol.  Drwy gymryd rhan yn yr her, bydd cyfle i bobl ifanc archwilio deunydd darllen newydd, datblygu sgiliau, a darganfod diddordebau newydd.

Bydd hybiau a llyfrgelloedd ar draws y ddinas yn lansio Sialens Ddarllen yr Haf eleni ar ddydd Sadwrn 8 Gorffennaf, gyda llawer o weithgareddau llawn hwyl. Cyflwynir y Sialens gan yr Asiantaeth Ddarllen ac mae'n cael ei darparu gan lyfrgelloedd cyhoeddus a hybiau ledled y wlad bob blwyddyn.  Ewch ihttps://hybiaucaerdydd.co.uk/  i weld be sy' mlaen.

Mwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/31712.html

Ysgol Arbennig Greenhill yn dathlu adroddiad Estyn rhagorol

Mae Ysgol Arbennig Greenhill yn Rhiwbeina, wedi cael ei chydnabod gan Estyn am ei hymrwymiad diwyro i feithrin awyrgylch gefnogol sy'n cyfrannu'n sylweddol at les, datblygiad personol a chyflawniadau pob dysgwr. 

Yn ystod eu hymweliad diweddar, canfu arolygwyr Arolygiaeth Addysg Cymru fod yr ysgol yn ymfalchïo mewn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau dysgu, gyda ffocws cryf ar addysg awyr agored. Mae'r cwricwlwm a gynlluniwyd yn feddylgar yn cyd-fynd â diddordebau a galluoedd myfyrwyr, gan sicrhau profiad addysgol diddorol a phersonol.

Mae'r adroddiad hefyd yn nodi'r perthnasoedd cadarnhaol a ffurfiwyd a'r ymddiriedaeth rhwng y staff, y disgyblion a'u teuluoedd ac mae ymroddiad yr ysgol i gynnig ystod o ymyriadau buddiol sy'n darparu ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol myfyrwyr hefyd yn cael ei gymeradwyo.

Mynegodd Shane Mock, Pennaeth yr ysgol, ei werthfawrogiad dwfn o'r tîm cyfan yn Ysgol Arbennig Greenhill, gan gydnabod eu hymdrechion eithriadol cyn, yn ystod, ac wedi'r arolygiad. "Mae eu hymroddiad diflino wedi rhoi cyfleoedd rhagorol i bob myfyriwr ac mae'r staff yn rhannu fy malchder aruthrol yng nghanfyddiadau'r adroddiad. Hoffwn ddiolch yn bersonol i'r Tîm Arolygu am eu proffesiynoldeb a'u cwrteisi trwy gydol y broses arolygu.

Mwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/31720.html

Gallai gwaith ar arena dan do newydd Caerdydd ddechrau erbyn diwedd eleni

Disgwylir i waith ar safle arena dan do newydd Caerdydd, â lle i 15,000 o bobl, ddechrau erbyn diwedd eleni.

Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn trafod cynnydd y prosiect gydag argymhellion i gymeradwyo ystod o gytundebau cyfreithiol yn ei gyfarfod ar 13 Gorffennaf, fel y gall yr arena dan do ac adfywio safle Glanfa'r Iwerydd gymryd cam pellach ymlaen.

Mae adroddiad y Cabinet yn argymell bod safle adfywio Glanfa'r Iwerydd wedi'i rannu'n ddau ardal penodol, gydag un ardal yn cael ei rhoi allan i dendro i ddarparu datblygiad penodol a'r llall i fynd drwy brofi'r farchnad pellach i ddenu diddordeb buddsoddi'r prosiect. Dyma'r ardaloedd hynny:

  • Safle A: Safle Neuadd y Sir. Mae hyn yn cynnwys Neuadd y Sir ac ardaloedd o'r maes parcio ad ydynt yn rhan o lasbrint yr Arena. Y cynnig yw tendro'r tir hwn i gyflawni datblygiad penodol, a allai gynnwys gofod cynhyrchu creadigol newydd ar gyfer y sector creadigol ynghyd â swyddfeydd newydd a chan y cyfan gyntedd a rennir.
  • Safle B: Bwriedir i safle Glanfa'r Iwerydd - sy'n cynnwys Canolfan y Ddraig Goch, y maes parcio a Hemmingway Road fynd drwy brofi'r farchnad pellach, i ddenu rhagor o ddiddordeb buddsoddi gan y sector preifat. 

Bydd canlyniadau'r ymarfer tendro a'r ymarfer profi'r farchnad yn cael eu hadrodd yn ôl i Gabinet Cyngor Caerdydd yn ddiweddarach, am benderfyniad i fwrw ymlaen.

Mwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/31726.html

Y Cyngor yn datgelu diffyg ariannol yn y rhagolwg cyllideb diweddaraf

Mae pwysau gan gynnwys chwyddiant cynyddol, galw cynyddol am wasanaethau a dyfarniadau cyflog staff disgwyliedig wedi arwain Cyngor Caerdydd i ragweld bwlch o £36.8m yn ei gyllideb ar gyfer 2024-25, yn ôl adroddiad newydd.

Mae Cynllun Ariannol Tymor Canolig (CATC) diweddaraf y Cyngor, a fydd yn cael ei adolygu gan y Cabinet yn ei gyfarfod ar 13 Gorffennaf, yn amlinellu'n fanwl y gost a ragwelir o ddarparu ei wasanaethau'r flwyddyn nesaf, gan gynnwys cynnal ysgolion, gofalu am bobl agored i niwed a gweithredu llyfrgelloedd a lleoliadau.

Mae hefyd yn amcangyfrif faint o gyllid y bydd yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru.

Ar gyfer 2024-25, mae'r cyngor yn amcangyfrif costau ychwanegol o £53.6m. Wedi'i osod yn erbyn cyllid ychwanegol o £16.8m, mae'r bwlch yn y gyllideb nawr yn £36.8m.

Mae'r adroddiad yn esbonio sut mae'r costau ychwanegol wedi codi:

  • Amcangyfrif o chwyddiant prisiau (£9.7m)

Mae hyn yn cynnwys cynnydd yn y pris y mae'r Cyngor yn ei dalu am sicrhau gofal i blant ac oedolion agored i niwed yn ogystal ag ardollau y mae'n eu talu i sefydliadau fel y gwasanaeth tân;

  • Cynnydd yn y Galw am Wasanaethau (£7.6m)

Mae hyn yn adlewyrchu cynnydd yn nifer y bobl sydd angen cymorth y Cyngor, yn enwedig ar gyfer gofal, yn ogystal â chostau addysg, gan gynnwys trafnidiaeth o'r cartref i'r ysgol;

  • Dyfarniadau cyflog amcangyfrifedig (£21.5m)

Mae chwyddiant hefyd yn effeithio ar gostau'r gweithlu drwy ddyfarniadau cyflog i athrawon a staff eraill y cyngor, gan gynnwys gweithwyr cymdeithasol, casglwyr sbwriel a staff swyddfa. Nid yw dyfarniadau cyflog ar gyfer y flwyddyn ariannol bresennol wedi'u cwblhau eto ac maent yn ychwanegu ansicrwydd i'r broses gynllunio;

  • Pwysau eraill (£14.8m)

Mae hyn yn cynnwys symiau sy'n adlewyrchu pwysau sy'n dod i'r amlwg mewn meysydd fel gofal cymdeithasol, digartrefedd, arlwyo ysgolion a chasglu gwastraff. Mae hefyd yn cynnwys costau sy'n gysylltiedig ag ariannu rhaglen gyfalaf y Cyngor (adeiladu ysgolion newydd ac ati), a chynnal asedau presennol.

Mwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/31728.html