Back
Camau olaf at ddyfodol cynaliadwy i Neuadd Dewi Sant

6.7.23

Mae dyfodol cynaliadwy Neuadd Dewi Sant gam yn nes wrth gyhoeddi adroddiad yn argymell bod Cyngor Caerdydd yn diogelu'r lleoliad eiconig drwy brydles 45 mlynedd gyda Grŵp Cerddoriaeth Academi (AMG).

Os yw'r argymhelliad yn cael ei dderbyn gan Gabinet Cyngor Caerdydd mewn cyfarfod i'w gynnal ddydd Iau, 13 Gorffennaf, byddai AMG yn derbyn cyfrifoldeb llawn am yr adeilad, gan ei weithredu fel menter fasnachol annibynnol a dileu'r angen am unrhyw gyfraniad ariannol gan y Cyngor tuag at ei chynnal a'i gweithredu.

Yn rhan o'r cytundeb hefyd byddai AMG yn ymrwymo i ddyfodol hirdymor i'r Neuadd, gan neilltuo o leiaf 60 diwrnod yn y calendr prif ddigwyddiadau ar gyfer digwyddiadau clasurol allweddol ac 20 diwrnod ychwanegol y tu allan i'r dyddiadau brig, gydag ymrwymiad pellach o 10 diwrnod ychwanegol bob yn ail flwyddyn ar gyfer digwyddiad BBC Canwr y Byd Caerdydd.  Ochr yn ochr â hyn, bydd AMG hefyd yn ymrwymo i Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth gyda rhanddeiliaid clasurol allweddol i ddatblygu rhaglen glasurol a chymunedol gorau posibl, yn ogystal ag ymrwymo i gynnal offerynnau cerddorol allweddol y lleoliad, gan gynnwys pianos Steinway ac organ Neuadd Dewi Sant.  Bydd gweithwyr Cyngor sy'n gweithio yn Neuadd Dewi Sant ar hyn o bryd yn trosglwyddo i AMG ar delerau presennol.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke:   "Byddai ymrwymo i gytundeb prydles gydag AMG yn sicrhau dyfodol cynaliadwy i Neuadd Gyngerdd Genedlaethol Cymru, yn amddiffyn ei darpariaeth gerddoriaeth glasurol annwyl ac yn sicrhau ei bod yn parhau i chwarae rhan flaenllaw yn nhirwedd ddiwylliannol Cymru."

Wedi'i sefydlu ym 1982, mae Neuadd Dewi Sant á chapasiti o 2,000 wedi cynnal ystod amrywiol o ddigwyddiadau a pherfformiadau dros y blynyddoedd, o berfformiadau cerddorfaol symffonig i gyngherddau roc a phop, sioeau comedi a pherfformiadau dawns, gan fod yn llwyfan ar gyfer profiadau artistig o'r radd flaenaf. Ar ben hynny, mae ei safon acwstig yn sgil dylunio ar y cyd â'r acwstegwr enwog Sandy Brown, wedi ennill enw da iddo fel un o ddeg neuadd gyngerdd orau'r byd ac un o brif leoliadau cerddoriaeth glasurol y DU.

Fodd bynnag, mae Neuadd Dewi Sant wedi bod yn wynebu heriau sylweddol.  Mae diffyg cyllid cenedlaethol wedi gadael y Cyngor gyda'r cyfrifoldeb o gynnal yr adeilad a chefnogi'r rhaglen glasurol. 

Dywedodd y Cynghorydd Burke:   "Nid yw'n gyfrinach, yn dilyn degawd o gyni, bod cyllidebau'r sector cyhoeddus dan bwysau sylweddol ac er gwaethaf cyfraniadau ariannol parhaus a sylweddol y Cyngor i Neuadd Dewi Sant dros y 40 mlynedd diwethaf, mae'r cyllid sydd ei angen i fynd i'r afael â'r gwaith atgyweirio byrdymor, yr ôl-groniad cynnal a chadw tymor hwy, ac ariannu'r moderneiddio cyffredinol sydd ei angen wrth i'r adeilad heneiddio,  yn ogystal â darparu'r £1 miliwn o gymorth ariannol sydd ei angen ar y lleoliad bob blwyddyn, nid yw ar gael o fewn adnoddau presennol y Cyngor."

Yn 2016 y cychwynnodd Cyngor Caerdydd ar broses i nodi ffyrdd o leihau'r baich ar bwrs y cyhoedd, yng ngoleuni'r heriau hyn.  Er i'r broses ennyn diddordeb y farchnad, roedd yn amlwg bod y diddordeb yn amodol ar y Cyngor yn cadw cyfrifoldeb llawn am gynnal Neuadd Dewi Sant.

Yn fwy diweddar, ym mis Mai 2023, cynhaliodd y Cyngor ymarfer marchnad pellach a hwyluswyd gan gynghorwyr annibynnol a wahoddodd bartïon â diddordeb i gyflwyno cynigion am y cyfle i gaffael Neuadd Dewi Sant.  Ni dderbyniwyd unrhyw gynigion ffurfiol.

Cyn cyfarfod y Cabinet, bydd Pwyllgor Craffu'r Economi a Diwylliant yn craffu ar yr adroddiad ar Neuadd Dewi Sant, am 5pm ddydd Mawrth 11 Gorffennaf.. Mae papurau i'r cyfarfod, a ffrwd byw ar y diwrnod, ar gael yma: https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=149&MId=7931

Yna bydd y Cabinet yn trafod yr adroddiad mewn cyfarfod ddydd Iau 13 Gorffennaf am 2pm. Bydd papurau sy'n ymwneud â'r cyfarfod yn cael eu cyhoeddi yma, https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=151&MId = 8208&LLL = 0 lle bydd gwe-ddarllediad byw o'r cyfarfod hefyd ar gael.