05/07/23
Mae pwysau gan gynnwys chwyddiant cynyddol, galw
cynyddol am wasanaethau a dyfarniadau cyflog staff disgwyliedig wedi arwain
Cyngor Caerdydd i ragweld bwlch o £36.8m yn ei gyllideb ar gyfer 2024-25, yn ôl
adroddiad newydd.
Mae Cynllun Ariannol Tymor Canolig (CATC) diweddaraf y Cyngor, a fydd yn cael ei adolygu gan y Cabinet yn ei gyfarfod ar 13 Gorffennaf, yn amlinellu'n fanwl y gost a ragwelir o ddarparu ei wasanaethau’r flwyddyn nesaf, gan gynnwys cynnal ysgolion, gofalu am bobl agored i niwed a gweithredu llyfrgelloedd a lleoliadau.
Mae hefyd yn amcangyfrif faint o gyllid y bydd yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru.
Ar gyfer 2024-25, mae'r cyngor yn amcangyfrif costau ychwanegol o £53.6m. Wedi'i osod yn erbyn cyllid ychwanegol o £16.8m, mae'r bwlch yn y gyllideb nawr yn £36.8m.
Mae'r adroddiad yn esbonio sut mae'r costau
ychwanegol wedi codi:
Mae hyn yn cynnwys symiau sy'n adlewyrchu pwysau
sy'n dod i'r amlwg mewn meysydd fel gofal cymdeithasol, digartrefedd, arlwyo
ysgolion a chasglu gwastraff. Mae hefyd yn cynnwys costau sy'n gysylltiedig ag
ariannu rhaglen gyfalaf y Cyngor (adeiladu ysgolion newydd ac ati), a chynnal
asedau presennol.
Mae gan y Cyngor rwymedigaeth statudol i gyflawni cyllideb gytbwys ac mae'r adroddiad yn nodi y bydd y cyngor yn cyflawni hyn yn bennaf drwy raglen fydd yn:
Lle bo'n bosibl, mae'r cyngor yn bwriadu cyfyngu ar yr effaith ar breswylwyr a chwsmeriaid, ond bydd yn ymgynghori'n llawn â grwpiau yr effeithir arnynt a'r cyhoedd os bydd unrhyw newidiadau a gynigir yn effeithio ar ddarparu gwasanaethau a safonau.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, yr aelod Cabinet sy'n gyfrifol am gyllid, y byddai'r bwlch yn y gyllideb yn cael ei adolygu'n agos. "Byddwn yn parhau i weithio ar wneud arbedion a chynhyrchu incwm dros yr haf," ychwanegodd. "Yn achos arbedion effeithlonrwydd, byddwn yn gweithredu'r rhain cyn gynted â phosibl a byddwn yn cychwyn ar raglen o ymgynghori ag undebau, cyflogeion, grwpiau trydydd sector a'r cyhoedd i asesu beth yw'r blaenoriaethau ar gyfer eu cymunedau."
Caiff y Cynllun Ariannol Tymor Canolig ei drafod ym Mhwyllgor Chraffu
Adolygu Polisi a Pherfformiad y Cyngor ddydd Mercher nesaf am 4:30pm. I weld yr
adroddiad llawn, agenda’r cyfarfod a gweddarllediad byw o’r cyfarfod, dilynwch
y ddolen hon Agenda
Pwyllgor Craffu Adolygu Polisi a Chraffu Perfformiad ar Dydd Mercher, 12fed
Gorffennaf, 2023, 4.30 pm : Cyngor Caerdydd (moderngov.co.uk). Yna, bydd
yr adroddiad yn mynd am gymeradwyaeth i’r Cabinet o 2pm ddydd Iau, 13
Gorffennaf. Bydd ffrwd fyw o’r cyfarfod hwnnw ar gael i’w gwylio yma Agenda
Cabinet ar Dydd Iau, 13eg Gorffennaf, 2023, 2.00 pm : Cyngor Caerdydd
(moderngov.co.uk).