Back
Gallai gwaith ar arena dan do newydd Caerdydd ddechrau erbyn diwedd eleni

05/07/23


Disgwylir i waith ar safle arena dan do newydd Caerdydd, â lle i 15,000 o bobl, ddechrau erbyn diwedd eleni.

Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn trafod cynnydd y prosiect gydag argymhellion i gymeradwyo ystod o gytundebau cyfreithiol yn ei gyfarfod ar 13 Gorffennaf, fel y gall yr arena dan do ac adfywio safle Glanfa'r Iwerydd gymryd cam pellach ymlaen.

Mae adroddiad y Cabinet yn argymell bod safle adfywio Glanfa'r Iwerydd wedi'i rannu'n ddau ardal penodol, gydag un ardal yn cael ei rhoi allan i dendro i ddarparu datblygiad penodol a'r llall i fynd drwy brofi'r farchnad pellach i ddenu diddordeb buddsoddi'r prosiect. Dyma'r ardaloedd hynny:

  • Safle A: Safle Neuadd y Sir. Mae hyn yn cynnwys Neuadd y Sir ac ardaloedd o'r maes parcio ad ydynt yn rhan o lasbrint yr Arena. Y cynnig yw tendro'r tir hwn i gyflawni datblygiad penodol, a allai gynnwys gofod cynhyrchu creadigol newydd ar gyfer y sector creadigol ynghyd â swyddfeydd newydd a chan y cyfan gyntedd a rennir.
  • Safle B: Bwriedir i safle Glanfa'r Iwerydd - sy'n cynnwys Canolfan y Ddraig Goch, y maes parcio a Hemmingway Road fynd drwy brofi'r farchnad pellach, i ddenu rhagor o ddiddordeb buddsoddi gan y sector preifat. 

Bydd canlyniadau'r ymarfer tendro a'r ymarfer profi'r farchnad yn cael eu hadrodd yn ôl i Gabinet Cyngor Caerdydd yn ddiweddarach, am benderfyniad i fwrw ymlaen.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Fuddsoddi a Datblygu, y Cynghorydd Russell Goodway: "Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i drawsnewid y rhan hanesyddol hon o Gaerdydd yn gyrchfan flaenllaw yn y DU ar gyfer hamdden, diwylliant a thwristiaeth, gan greu swyddi a chyfleoedd i bobl leol. Bydd yr Arena Dan Do yn cynyddu'n sylweddol nifer yr ymwelwyr ym Mae Caerdydd, a fydd o fudd i'r holl leoliadau lletygarwch presennol yn ogystal â'r datblygiadau newydd a fydd yn cael eu hadeiladu fel rhan o'r cynllun adfywio hwn.

"Does dim dwywaith amdani bod yr hinsawdd ariannol wedi newid ers i'r pandemig ddod i ben ac wedi dod yn fwy heriol gyda chynnydd yng nghost deunyddiau adeiladu a chyfraddau llog cynyddol. O ystyried hyn, bu rhaid i'r prosiect addasu i sicrhau y gellir ei gyflawni a'i fod yn fforddiadwy, felly mae rhaid cymeradwyo cytundebau cyfreithiol nawr fel y gall y prosiect fynd rhagddo'n gyflym, gan ddisgwyl i'r gwaith ddechrau ar y safle ddiwedd eleni.

Argymhellir bod Cabinet Cyngor Caerdydd yn cymeradwyo'r canlynol:

  • Cwblhau a chytuno ar Gytundeb y Gronfa Ddatblygu (CGD) rhwng y Cyngor a Live Nation
  • Cytuno i ymestyn y Cytundeb Gwasanaeth Cyn Contract (CGCC) rhwng y Cyngor a Live Nation
  • Ceisio cymeradwyaeth i lunio achos busnes terfynol ar gyfer Stiwdio Cynhyrchu Capella, mewn partneriaeth â Chanolfan Mileniwm Cymru
  • Cytuno i'r broses dendro fynd ymlaen ar gyfer Safle A ac ar gyfer ymarfer profi'r farchnad ar gyfer Safle B.

Bydd Pwyllgor Craffu'r Economi a Diwylliant y cyngor yn craffu ar y cynigion ar 11 Gorffennaf. Bydd ffrwd fyw o'r cyfarfod, sy'n dechrau am 5.00pm, ar gael i'w gweld yma:Pwyllgor Craffu'r Economi a Diwylliant - Dydd Mawrth 11 Gorffennaf 2023, 5:00pm - Gwe-ddarlledu Cyngor Caerdydd (public-i.tv)