Back
Diweddariad Cyngor Caerdydd: 04 Gorffennaf 2023

04/07/23


Dyma eich diweddariad ar gyfer dydd Mawrth, sy'n cynnwys; Fflyd ailgylchu newydd i gynyddu cyfradd ailgylchu'r ddinas; Gweithiwr ieuenctid sy'n hyfforddai corfforaethol yn ennill gwobr fawreddog, a'r gwaith glanhau yn Cathays yn parhau wrth i fyfyrwyr adael y ddinas.

Cynnig fflyd o gerbydau ailgylchu newydd i helpu i gynyddu cyfradd ailgylchu'r ddinas

Mae treial ailgylchu - sydd wedi arwain at 10,000 o gartrefi ledled Caerdydd yn gwahanu eu gwastraff ailgylchadwy wrth ymyl y ffordd - wedi bod mor effeithiol nes bod y Cyngor yn bwriadu prynu 9 o dryciau sydd wedi'u cynllunio'n arbennig i gasglu gwydr ar wahân fel y gellir cyflwyno'r cynllun ar draws y ddinas. 

Bydd y Cyngor hefyd yn cyflwyno CCGau dwy adran er mwyn gallu casglu ffrydiau ailgylchu ar wahân, gan ddisodli'r cerbydau un adran presennol.

Cafodd preswylwyr a gymerodd ran yn y cynllun treialu ailgylchu sachau coch a glas amldro i wahanu eu hailgylchu, gyda phapur a chardfwrdd yn mynd i mewn i sachau coch, a phlastig, tun a metelau i sachau glas. Roedd preswylwyr yn ardaloedd y treial eisoes yn defnyddio cynhwysydd ar wahân ar gyfer jariau a photeli gwydr.

Roedd y canlyniadau, o'u cymharu â gweddill y ddinas lle rhoddodd trigolion yr holl ddeunyddiau ailgylchu mewn bagiau plastig gwyrdd, yn syfrdanol. Gostyngodd y gyfradd halogi - eitemau sy'n cael eu rhoi allan i'w hailgylchu ond na ellir eu hailgylchu - o 30% i oddeutu 6%.

 Mwy yma:https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/31692.html

Aelod o'r tîm o Wasanaethau Ieuenctid Caerdydd yn ennill Cystadleuaeth Gohebydd Ifanc y BBC

 

MaeNevaeh Nash, Gweithiwr Ieuenctid dan Hyfforddiant Corfforaethol o Wasanaethau Ieuenctid Caerdydd, wedi ennill Cystadleuaeth fawreddog Gohebydd Ifanc y BBC 2023 am ei chofnod 'Fy Nhaith i ddod yn weithiwr ieuenctid'.

Wedi'i choroni'n un o enillwyr rhanbarthol Cymru, gwnaeth Nevaeh raglen ddogfen am ei phrofiad personol o fynychu darpariaeth Gwasanaeth Ieuenctid y ddinas yn dilyn marwolaeth sydyn ei brawd pan oedd yn 13 oed. Roedd Nevaeh wedi ei chael yn anodd mynd i'r ysgol a delio â'r galar a'r pryder, nes iddi ymgysylltu â Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd a dod o hyd i weithwyr ieuenctid a phobl ifanc eraill y gallai uniaethu â nhw, a oedd hefyd yn wynebu trafferthion tebyg.

Gyda chymorth Mentor Ieuenctid, dechreuodd yn araf gael ei bywyd yn ôl ar y trywydd iawn, dychwelyd i'r ysgol, a chysylltu â phobl ifanc eraill. Roedd hi'n teimlo o'r diwedd ei bod hi'n cael ei deall a chwympodd mewn cariad â gwaith ieuenctid, felly penderfynodd ddod yn wirfoddolwr yng Nghanolfan Ieuenctid Gabalfa.

Mwy yma: 

https://www.newyddioncaerdydd.co.uk/releases/w66/31705.html

Timau rheoli gwastraff a glanhau strydoedd Caerdydd yn parhau i lanhau a chlirio'r strydoedd yn Cathays

Mae timau rheoli gwastraff a glanhau strydoedd Caerdydd yn gweithio yn Cathays a Phlasnewydd i lanhau a chlirio'r strydoedd wrth i fyfyrwyr adael y ddinas ar gyfer eu gwyliau haf.

Mae tryc ailgylchu symudol wedi bod allan ar y strydoedd yn Cathays ers 12 Mehefin gyda staff yn curo ar ddrysau i roi'r cyfle i fyfyrwyr ailgylchu eitemau trydanol bach a fyddai fel arall yn cael eu taflu. Casglwyd dwy dunnell o ailgylchu ychwanegol.

Gan fod y rhan fwyaf o fyfyrwyr yn gadael eu tenantiaeth ar ddiwedd mis Mehefin, mae hyn wedi arwain at wastraff yn cael ei roi allan yn anghywir ar strydoedd Cathays, ond mae timau'r cyngor allan ar y strydoedd o hyd yn glanhau a chlirio nes bod yr holl wastraff wedi'i symud.

Fel gyda phob dinas arall yn y DU sydd â phoblogaeth fawr o fyfyrwyr, bydd elfen o darfu tra bod myfyrwyr yn symud allan a thenantiaid newydd yn symud i mewn.

Mae landlordiaid yn cael eu hatgoffa heddiw mai nhw sy'n gyfrifol am unrhyw wastraff sy'n cael ei adael mewn eiddo rhent na ellir ei gasglu fel rhan o'r gwasanaeth casglu gwastraff wrth ymyl y ffordd. Mae landlordiaid yn gyfrifol am waredu'r gwastraff hwn yn ddiogel, felly ni ddylid ei adael ar y stryd.