Back
Aelod o'r tîm o Wasanaethau Ieuenctid Caerdydd yn ennill Cystadleuaeth Gohebydd Ifanc y BBC

04/07/23


Mae
Nevaeh Nash, Gweithiwr Ieuenctid dan Hyfforddiant Corfforaethol o Wasanaethau Ieuenctid Caerdydd, wedi ennill Cystadleuaeth fawreddog Gohebydd Ifanc y BBC 2023 am ei chofnod 'Fy Nhaith i ddod yn weithiwr ieuenctid'.

Wedi'i choroni'n un o enillwyr rhanbarthol Cymru, gwnaeth Nevaeh raglen ddogfen am ei phrofiad personol o fynychu darpariaeth Gwasanaeth Ieuenctid y ddinas yn dilyn marwolaeth sydyn ei brawd pan oedd yn 13 oed. Roedd Nevaeh wedi ei chael yn anodd mynd i'r ysgol a delio â'r galar a'r pryder, nes iddi ymgysylltu â Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd a dod o hyd i weithwyr ieuenctid a phobl ifanc eraill y gallai uniaethu â nhw, a oedd hefyd yn wynebu trafferthion tebyg.

Gyda chymorth Mentor Ieuenctid, dechreuodd yn araf gael ei bywyd yn ôl ar y trywydd iawn, dychwelyd i'r ysgol, a chysylltu â phobl ifanc eraill. Roedd hi'n teimlo o'r diwedd ei bod hi'n cael ei deall a chwympodd mewn cariad â gwaith ieuenctid, felly penderfynodd ddod yn wirfoddolwr yng Nghanolfan Ieuenctid Gabalfa.

Gwnaeth Nevaeh ei rhaglen ddogfen gyda chymorth a chefnogaeth ei Mentor Ieuenctid a'r Tîm Digidol i wneud pobl yn ymwybodol o'r trafferthion o fod yn eu harddegau, delio â galar, pryder ac iselder.

Unwaith eto, gyda chefnogaeth ac anogaeth gan weithwyr ieuenctid, gwnaeth ail ffilm a hefyd ymunodd â Chystadleuaeth Gohebydd Ifanc y BBC 2023, lle mae hi wedi cael ei dewis fel enillydd.  Mae'r cyfle blynyddol yn rhoi cyfle i bobl ifanc 11 i 18 oed ledled y DU gyflwyno eu straeon eu hunain am faterion sy'n berthnasol iddynt hwy a'u bywydau gyda gwneuthurwyr rhaglenni, cynhyrchwyr a newyddiadurwyr y BBC. Bydd Nevaeh yn gweithio gyda BBC Cymru dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf i ddatblygu a recordio ei stori, i'w darlledu ar y BBC.

Dwedodd Nevaeh: "Doeddwn i ddim yn meddwl y byddai fy ffilm yn mynd mor bell ag y gwnaeth hi.  Os ydw i'n gallu helpu un person, dwi wedi llwyddo! Rwyf wrth fy modd yn gallu uniaethu â phobl ifanc, i'w helpu a rhoi hyder iddyn nhw nad oedd gen i, ond trwy Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd tyfodd fy hyder."

Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Drechu Tlodi a Chefnogi Pobl Ifanc: "Mae hwn yn gyflawniad gwych ac yn enghraifft gadarnhaol o sut y gall gwaith ieuenctid newid bywyd pobl ifanc."

Da iawnNevaeh!  Edrychwn ymlaen at weld eich stori bwerus yn cael ei darlledu ar y BBC!

Gallwch wylio eirhaglen ddogfen wreiddiol yma

Gwyliwch yrail raglen ddogfen yma

Dysgwch fwy amWasanaeth Ieuenctid Caerdyddymaneu dilynwch nhw ar y cyfryngau cymdeithasol: @CardiffYouthService a @YouthCardiff