29.6.23
Mae cynllun tennis poblogaidd sydd wedi rhoi hwb i nifer y bobl sy'n cymryd rhan yn y gamp ym maestref y Mynydd Bychan yng Nghaerdydd, ac a fyddai'n arwain at fuddsoddi cryn dipyn o arian mewn cyrtiau tennis lleol, ar fin cael ei gyflwyno mewn chwe pharc arall ar draws y ddinas.
Gwelodd y cynllun, a gymeradwywyd gan Gyngor Caerdydd yr wythnos diwethaf, gyllid 'mewn egwyddor' yn cael ei gytuno, a allai weld yr LTA yn buddsoddi oddeutu £750,000 yn 29 o gyrtiau tennis y ddinas drwy eu Park Project, a ariennir gan Lywodraeth y DU a Sefydliad Tennis LTA.
Fel rhan o'r cytundeb, bydd y cyrtiau wedi'u hadnewyddu, gan ddechrau gyda'r rhai yng Ngerddi Bryn Rhymni, Parc Fictoria a Chaeau Llandaf, yn cael eu rheoli, eu gweithredu a'u cynnal gan Tennis Cymru, sydd ar hyn o bryd yn gweithredu cyrtiau tennis Parc y Mynydd Bychan.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke: "Mae buddsoddiad yr LTA a Tennis Cymru ym Mharc y Mynydd Bychan wedi trawsnewid safle a oedd mewn cyflwr gwael, heb lawer o weithgareddau tennis, yn ganolbwynt tennis bywiog lle mae'r gêm yn cael ei mwynhau bob dydd. Bu cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy'n cymryd rhan yn y gamp yno, gyda hyfforddiant, gweithgaredd ysgolion, a chystadlaethau i gyd ar gael ochr yn ochr â gemau rheolaidd. Erbyn hyn mae 900 o aelodau yn chwarae ar gyrtiau'r Mynydd Bychan, gan gynnwys y clwb LHDTC cyntaf yng Nghymru. Mae wedi mynd y tu hwnt i'n disgwyliadau ac mae'n gyffrous iawn meddwl y bydd buddsoddiad yr LTA yn galluogi'r cynllun i gael ei gyflwyno ar draws y ddinas, gan ddod â'r gamp i hyd yn oed mwy o bobl."
Mae buddsoddiad yr LTA yn rhan o raglen £30 miliwn ledled y DU a fydd yn gweld miloedd o gyrtiau tennis sydd mewn cyflwr gwael neu rai nad oes modd eu defnyddio yn cael eu hadfer er budd cymunedau, trwy waith adnewyddu a thrwy wneud y cyrtiau'n fwy hygyrch gyda thechnoleg mynediad gât a systemau archebu newydd.
Ychwanegodd y Cyng Burke: "Yr uchelgais yw gwella profiad y cwsmer, cynyddu nifer y bobl sy'n chwarae'r gêm, a chreu lleoedd diogel i chwarae trwy leihau'r fandaliaeth, yr ymddygiad gwrthgymdeithasol a'r camddefnydd yr ydym wedi'u gweld yn ein cyrtiau eraill. Yn bwysig iawn, bydd Tennis Cymru yn ailfuddsoddi unrhyw arian a godir trwy ffioedd chwarae yn y cyrtiau er mwyn eu cynnal a'u cadw i lefel uchel ac fel bod gan bobl le gwych i ddysgu a mwynhau'r gêm."
Fel rhan o'r cytundeb bydd Tennis Cymru yn cyflwyno ac yn gweithredu eu cynllun aelodaeth a rheoli Clwb Spark. Mae'r cynllun yn galluogi Tennis Cymru i greu incwm trwy bolisi talu-i-chwarae cost isel, gyda'r enillion yn cael eu defnyddio i ailfuddsoddi yn y cyrtiau.
Mae cyrtiau tennis parc hygyrch yn hanfodol i gael plant ac oedolion i fod yn egnïol, yn enwedig menywod a'r rhai o gefndiroedd llai cefnog, gan ddarparu manteision lles corfforol a meddyliol sylweddol. Bydd preswylwyr yn elwa ar gyfleoedd i gymryd rhan mewn tennis trwy ystod o raglenni tennis fforddiadwy ac am ddim, gan gynnwys sesiynau tennis teulu wythnosol am ddim, cynlluniau gwyliau, gweithgareddau a gynhelir gan hyfforddwyr lleol, a chystadlaethau tennis lleol cyfeillgar trwy gynghreiriau tennis lleol.
Ar hyn o bryd, mae gan Barc y Mynydd Bychan dri opsiwn talu wedi'u cynllunio ar gyfer teuluoedd, myfyrwyr a defnyddwyr achlysurol, yn ogystal â chynnig am ddim:
Ychwanegodd y Cynghorydd Burke: "Mae hwn yn gyfle gwych i sicrhau a diogelu dyfodol cyrtiau tennis ar draws y ddinas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Nid yw'n gyfrinach bod y Cyngor yn gorfod gwneud toriadau i'r gyllideb o un flwyddyn i'r llall, felly mae'n rhaid i ni ddod o hyd i bartneriaid all ein helpu i gynnal gwasanaethau mewn ffordd sydd o fudd i breswylwyr Caerdydd. Mae'r peilot Tennis yn y Mynydd Bychan yn rhoi tystiolaeth glir y gallai hyn gael ei gyflwyno'n llwyddiannus ar draws y ddinas er budd pawb. Ar hyn o bryd, mae ein cyrtiau tennis mewn cyflwr gwael, ac mae hyn yn gyfle i ni wneud rhywbeth am hynny."
Bu'r Cabinet yn trafod y cynlluniau mewn cyfarfod brynhawn Iau, 22 Mehefin. Mae recordiad o'r cyfarfod, a'r holl bapurau sy'n ymwneud â'r cyfarfod, ar gael yma: https://cardiff.moderngov.co.uk/ieListDocuments.aspx?CId=151&MId=8207&LLL=0