Back
Y cyngor y n bwriadu creu ‘Eglwys Newyrdd Werddach’

27/06/23


Mae Cyngor Caerdydd yn datblygu cynlluniau i leihau'r perygl o lifogydd o Nant yr Eglwys Newydd.  Bydd prosiect Yr Eglwys Newydd Werddach yn archwilio amrywiaeth o atebion gan gynnwys seilwaith gwyrdd, rhwydwaith o fannau gwyrdd amlbwrpas, i leihau dŵr wyneb ffo a rheoli problemau capasiti'r rhwydwaith draenio lleol, wrth wella rhannau o fannau cyhoeddus yr Eglwys Newydd.  Mae'r prosiect yn rhan o strategaeth gyffredinol Cyngor Caerdydd i sicrhau bod y ddinas yn 'gryfach, tecach a gwyrddach'.

Mae ardal yr astudiaeth yn cynnwys y rhan o Nant yr Eglwys Newydd sy'n llifo o Barc Caedelyn yn Rhiwbeina trwy'r Eglwys Newydd i'w chwymp yn Afon Taf ym Mharc Lydstep, Gabalfa. Mae llifogydd wedi effeithio ar drigolion a busnesau yn yr ardal hon, gyda mwy na deg o achosion o lifogydd wedi'u cofnodi ers 1990.

Gyda chyllid wedi'i sicrhau gan Lywodraeth Cymru, mae Cyngor Caerdydd wedi penodi Arup, ymgynghoriaeth datblygu cynaliadwy blaenllaw i gwblhau'r opsiynau, datblygu'r dyluniad manwl a sicrhau caniatâd cynllunio.

Dywedodd y Cynghorydd Caro Wild, Yr Aelod Cabinet dros y Newid yn yr Hinsawdd:

"Mae llifogydd wedi effeithio ar drigolion yr Eglwys Newydd ac maen nhw'n debygol o waethygu o ganlyniad i newid yn yr hinsawdd. Mae arnom angen system draenio trefol cynaliadwy sydd wedi'i dylunio'n dda i wella gwydnwch y gymuned hon i'r digwyddiadau tywydd eithafol hyn.

"Gan adeiladu ar lwyddiant Grangetown Werddach, nod Yr Eglwys Newydd Werddach yw cynnig ystod o atebion dylunio trefol sy'n sensitif i ddŵr i leihau dŵr wyneb ffo a rheoli faint o ddŵr sydd yn y rhwydwaith draenio lleol.

"Rydym hefyd yn archwilio'r manteision cymunedol ehangach gan gynnwys trafnidiaeth gynaliadwy, gwelliannau i'r ardal gyhoeddus a gwella bioamrywiaeth.

"Rydym yn awyddus i gydweithio â rhanddeiliaid allweddol a'r gymuned leol i helpu i lunio'r dyluniad manwl."

Gofynnir i drigolion a busnesau lleol gysylltu â'r tîm prosiect argreenerwhitchurch@grasshopper-comms.co.ukneu 02920 024924 i rannu eu profiadau a'u lluniau o lifogydd o Nant yr Eglwys Newydd erbynDydd Mawrth 25 Gorffennaf.Bydd y wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i sicrhau bod y tîm prosiect yn deall y problemau llifogydd lleol i lywio'r gwaith o ddatblygu opsiynau o ran atebion.

Mae mwy o wybodaeth am y prosiect ar gael ymahttps://greenerwhitchurch.virtual-engage.com

Mae'r tîm prosiect yn cynllunio sawl cyfle i'r gymuned leol wneud sylwadau wrth i'r cynigion gael eu datblygu drwy gydol y flwyddyn.   Unwaith y bydd y cynigion wedi'u cwblhau, bydd y prosiect yn ceisio caniatâd cynllunio.

Ynghylch Yr Eglwys Newydd Werddach: 

Mae'r Eglwys Newydd yn faestref breswyl dair milltir i'r gogledd o ganol dinas Caerdydd gydag economi a chymuned lewyrchus, gyda busnesau annibynnol, ysgolion, mannau agored cyhoeddus a gwasanaethau cymunedol. 

Mae Nant yr Eglwys Newydd yn llifo i'r de trwy Riwbeina, yr Eglwys Newydd a Gabalfa am tua 2.5km, gyda'i hyd 0.85km is o Heol Gabriel wedi'i sianeli hyd ei chwymp wrth Afon Taf. Mae'r prosiect hwn yn canolbwyntio ar yr ardal o Barc Caedelyn / A470 i'w chwymp wrth Afon Taf ym Mharc Lydstep.

Mae'r ardal yn boblog gyda llawer o'r cwrs dŵr wedi'i addasu.  Dros y blynyddoedd mae datblygiadau preswyl a masnachol ar y gorlifdir hanesyddol wedi tresmasu fwyfwy ar y cwrs dŵr, gan gynyddu'r perygl o lifogydd yn yr ardal hon.

Mae llifogydd wedi effeithio ar ardaloedd ar hyd y Nant gyfan, gyda mwy na deg o ddigwyddiadau llifogydd wedi'u cofnodi ers 1990.

Penododd Cyngor Caerdydd Arup ym mis Medi 2019 i ymchwilio i'r achos dros reoli'r perygl o lifogydd yn Nant yr Eglwys Newydd a pharatoi Achos Busnes Amlinellol (ABA) gyda chyfres o opsiynau.   Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau cyllid i ddatblygu'r dyluniad, ceisio caniatâd cynllunio, a chwblhau'r Achos Busnes Llawn (Abl). 

Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar leihau'r perygl o lifogydd i'r eiddo presennol.  Nid yw'n gysylltiedig â chynigion datblygu sydd ar y gweill, fel gorsaf bwmpio carthffosydd Dŵr Cymru ym Mharc Hailey neu brosiect Ysbyty Felindre.

Cyngor Caerdydd

Mae Cyngor Caerdydd yn arwain y gwaith o ddatblygu prosiect Yr Eglwys Newydd Werddach.  Ei arweinydd yw Huw Thomas (Llafur Cymru) a Caro Wild (Llafur Cymru)yw'r Aelod Cabinet dros Newid yn yr Hinsawdd.

Arup

Mae Arup yn gasgliad byd-eang o ddylunwyr, ymgynghorwyr peirianneg a chynaliadwyedd, cynghorwyr ac arbenigwyr sy'n ymroddedig i ddatblygu cynaliadwy, ac i ddefnyddio dychymyg, technoleg a thrylwyredd i lunio byd gwell.  Mae busnes Arup yng Nghaerdydd ers 1970 wedi gwneud cyfraniad mawr at lunio Cymru gyfoes, gan gynnwys cynlluniau draenio cynaliadwy fel Grangetown Werddach.

Grasshopper

Mae Grasshopper yn ymgynghoriaeth cyfathrebu arbenigol yng Nghaerdydd, sy'n rhoi cymorth strategol i sefydliadau sy'n gweithredu yn y sectorau adfywio, cynllunio, eiddo a seilwaith.

Mae Grasshopper yn cefnogi Arup yn y gymuned ac ymgysylltu â rhanddeiliaid ar y prosiect.