Back
Rhaglenni i leihau'r risg y bydd pobl ifanc yn dioddef trosedd a thrais

26/06/23 

Mae Cyngor Caerdydd yn cyflwyno dwy fenter arloesol gyda'r nod o fuddsoddi ym mhobl ifanc y ddinas a'u helpu i osgoi diwylliant gangiau, troseddau a thrais. 

A group of people in clothingDescription automatically generated with low confidence

Wedi'u cynllunio i ymgysylltu ac addysgu unigolion ifanc, mae'r prosiectau wedi'u sefydlu drwy weithio mewn partneriaeth amlasiantaethol ac yn cael eu cyflwyno gan ddefnyddio technoleg arloesol a phrofiadau theatrig rhyngweithiol i hyrwyddo gwneud penderfyniadau gwybodus a grymuso pobl ifanc.

Mae'r rhaglen "Dewis Oes" yn ddrama theatrig ryngweithiol sy'n wynebu realiti a chanlyniadau troseddau treisgar, troseddau cyllyll, gangiau, a diwylliant cyffuriau. Wedi'i datblygu drwy ymdrech gydweithredol gydag Addewid Caerdydd, Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd a phartneriaid ledled y ddinas, gan gynnwys Heddlu De Cymru, Undeb Rygbi Cymru, a'r NSPCC, mae'r rhaglen yn cynnig profiad ymdrochol sy'n ysgogi'r meddwl i bobl ifanc 11 i 13 oed.

Mae'r ddrama ryngweithiol yn ennyn diddordeb cynulleidfaoedd mewn stori gyfareddol sy'n sbarduno meddwl beirniadol a hwylusir gan Weithwyr Ieuenctid cymwys a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu. Trwy integreiddio themâu a negeseuon y ddrama i ddeunyddiau addysgol, gall ysgolion a chanolfannau ieuenctid barhau i addysgu ac ymgysylltu â phobl ifanc ar y pynciau hollbwysig hyn drwy gydol y flwyddyn academaidd.

Mae menter Realiti Rhithwir arloesol o'r enw "Penderfyniadau Realiti Rhithwir" hefyd yn cael ei chyflwyno, gan roi profiad ymdrochol i bobl ifanc sy'n eu galluogi i lywio cyfres o sefyllfaoedd heriol a gwneud penderfyniadau beirniadol mewn amgylchedd rhithwir diogel a rheoledig. Mae'r dull ymarferol hwn o archwilio pynciau fel gangiau, meithrin perthnasau amhriodol, pwysau cyfoedion, a chamddefnyddio sylweddau, yn arfogi'r cyfranogwyr â'r wybodaeth a'r sgiliau sy'n angenrheidiol i wneud y dewisiadau gorau ar gyfer eu dyfodol, mewn sefyllfaoedd go iawn.

Mae adborth cadarnhaol gan ysgolion uwchradd ar draws y ddinas, wedi amlygu effeithiolrwydd y prosiectau, sydd wedi'u llunio gan ddefnyddio barn pobl ifanc. Mae'r rhai sydd wedi cymryd rhan wedi mwynhau'r rhaglenni, gan ddweud eu bod yn bodloni eu hanghenion o roi mwy o ymwybyddiaeth iddynt o'r arwyddion o feithrin perthnasau amhriodol.

Dywedodd y Cynghorydd Peter Bradbury, yr Aelod Cabinet dros Drechu Tlodi a Chefnogi Pobl Ifanc:  "Nod y mentrau newydd hyn yw meithrin cymuned fwy diogel trwy rymuso unigolion ifanc i wneud dewisiadau cadarnhaol mewn bywyd a herio dylanwadau dinistriol trosedd a thrais.

"Mae Cyngor Caerdydd yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu cefnogaeth ac adnoddau cynhwysfawr i bobl ifanc yn ein cymunedau ac mae'r mentrau arloesol hyn yn cryfhau ein penderfyniad ymhellach i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu ein hieuenctid a chreu dyfodol mwy disglair a mwy diogel i bawb."