23/06/23
Dyma'ch diweddariad dydd Gwener, sy'n cynnwys: Cadarnhau'r arlwy ar gyfer Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd; Cynlluniau'n symud yn eu blaen i ddatblygu cartref newydd Ysgol Uwchradd Willows; £1.3 miliwn o gyllid i gefnogi natur yng Nghaerdydd; Ysgol Uwchradd Llanisien yn agor Siop ‘Prom' Gynaliadwy.
Cadarnhau'r arlwy ar gyfer Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd
Mae'r arlwy bwyd, diod a cherddoriaeth ar gyfer Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd ym Mae Caerdydd wedi'i ddatgelu, ac mae'n cynnwys gwledd o ffefrynnau'r ŵyl yn ogystal â'r rheiny fydd yn gweini danteithion blasus yno am y tro cyntaf.
Ymhlith y newydd-ddyfodiaid yn yr ŵyl, a gynhelir o ddydd Gwener y 7fedtan ddydd Sul y 9fedo Orffennaf, mae 'Let Them See Cake' o Gaerdydd, gyda'u hamrywiaeth o gacennau bach, macarŵns, cwcis a brechdanau cwci. Yn Ffair y Cynhyrchwyr hefyd bydd 'The Garlic Farm', sydd yn dod â'u hamrywiaeth o sawsiau a siytnis o Ynys Wyth yma'n rheolaidd.
Gall y rheiny sydd wrth eu bodd gyda Phice Bach ymweld â newydd-ddyfodiad arall yr ŵyl, sef 'Fat Bottom Welsh Cakes' ym Marchnad y Ffermwyr, ac mae eu harlwy hefyd yn cynnwys fersiynau unigryw ac anarferol o'r pice bach traddodiadol. Yn ymddangosiad am y tro cyntaf eleni hefyd, gyda detholiad o gins hyfryd, fydd 'Cascave Gin.'
Draw yn y Piazza Bwyd Stryd, bydd sêr sîn Bwyd Stryd Caerdydd a phreswylwyr Marchnad Caerdydd, Bao Selecta, yn dod â'u byns bao yn llawn bola mochyn brwysiedig, llysiau mwstard wedi'u piclo, powdr cnau daear a pherlysiau ffres i'r ŵyl am y tro cyntaf. Yn ymuno â nhw am y tro cyntaf hefyd fydd 'Smokin Griddle' fydd yn gweini amrywiaeth o fyrgyrs blasus, gyda sglodion tatws trwy'u crwyn, a 'MacDaddies Gourmet Mac and Cheese' gyda'u marinadau cartref, a'u topins anhygoel fel cig wedi'i dynnu'n boeth gyda thryffl ac aur, yn rhoi gogwydd newydd i bryd bwyd clasurol.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke: "Mae Gŵyl Bwyd a Diod Caerdydd yn gyfle gwych i gefnogi busnesau annibynnol, a chael diwrnod allan gwych. Gyda stondinau newydd cyffrous ynghyd â holl ffefrynnau'r ŵyl, mae'r arlwy eleni'n argoeli'n dda."
Cynlluniau'n symud yn eu blaen i ddatblygu cartref newydd Ysgol Uwchradd Willows
Gall Cyngor Caerdydd gyhoeddi bod y contract i gyflawni'r gwaith galluogi sy'n gysylltiedig â datblygu llety newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Willows wedi'i ddyfarnu i Morgan Sindall Construction.
Mae'r gwaith galluogi yn fuddsoddiad o £3.4 miliwn tuag at y cynllun diweddaraf i'w gyflawni o dan raglen Band B Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru a fydd yn gweld yr ysgol bresennol yn cael ei hadleoli a'i hailadeiladu ar dir oddi ar Heol Lewis, Y Sblot.
Bydd yr ysgol uwchradd newydd yn cynnig cyfleusterau chwaraeon cynhwysfawr, gan gynnwys neuadd chwaraeon, campfa, stiwdio ddrama a chaeau glaswellt a fydd ar gael i'r cyhoedd eu defnyddio y tu allan i oriau ysgol.
Yn amodol ar gynllunio a chaffael, disgwylir i waith adeiladu'r campws newydd ddechrau yn 2023.
Dewiswyd Morgan Sindall Construction i ymgymryd â'r gwaith galluogi sy'n gysylltiedig â'r cynllun, sy'n cynnwys:
Dwedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae'r gwaith galluogi sy'n gysylltiedig â'r prosiect hwn yn rhan annatod o'r datblygiad ac mae dyfarnu'r contract hwn yn garreg filltir gyffrous wrth sefydlu cartref newydd sbon i Ysgol Uwchradd Willows.
"Pan fydd wedi'i chwblhau, bydd yr ysgol newydd yn darparu cyfleusterau, arbenigedd a chyfleoedd addysgu eithriadol i fyfyrwyr, staff a'r gymuned, gan gynrychioli buddsoddiad sylweddol yn yr ardal leol."
£1.3 miliwn o gyllid i gefnogi natur yng Nghaerdydd
Mae Partneriaeth Natur Leol sydd wedi plannu miloedd o fylbiau da i wenyn, wedi gosod ‘waliau byw' gwyrdd mewn ysgolion a chanolfannau cymunedol, ac sy'n helpu cymunedau Caerdydd i gymryd camau ymarferol i gefnogi bioamrywiaeth, wedi sicrhau £1.3 miliwn o gyllid.
Bydd y cyllid, o gynllun 'Lleoedd Lleol ar gyfer Natur' Llywodraeth Cymru, yn galluogi Partneriaeth Natur Leol Caerdydd i wneud y canlynol:
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke: "Ers ei sefydlu yn 2020, mae Partneriaeth Natur Leol Caerdydd wedi gweithio'n agos gyda chymunedau ledled y ddinas, gan ddarparu grantiau prosiect, offer garddio, gwestai pryfed, waliau byw, hadau brodorol, a mwy, i'w helpu i gymryd camau cadarnhaol i gefnogi natur ym mharciau a mannau gwyrdd y ddinas.
"Gan fod natur yn dirywio'n fyd-eang, mae'r cyllid dwy flynedd hwn yn bwysig iawn ac yn golygu dwy flynedd arall lle gallwn barhau â'n gwaith i gefnogi'r byd natur ar garreg ein drws, yma yng Nghaerdydd."
Ysgol Uwchradd Llanisien yn agor Siop ‘Prom' Gynaliadwy
Mae Ysgol Uwchradd Llanisien yn cymryd agwedd ysgol gyfan tuag at gynaliadwyedd a lleihau gwastraff, drwy agor siop prom mewn ymgais i fynd i'r afael â diwylliant taflu.
Gall disgyblion fenthyca unrhyw wisg ar gyfer eu prom diwedd ysgol, yn rhad ac am ddim a'i ddychwelyd ar ôl y digwyddiad, diolch i roddion hael o siwtiau a ffrogiau.
Mae'r fenter hefyd yn mynd i'r afael â'r pwysau ariannol y mae llawer o deuluoedd yn eu profi ar hyn o bryd, oherwydd yr argyfwng costau byw.
Eglura'r Pennaeth, Sarah Parry; "O ran gwisg a dillad, rydyn ni eisiau mynd i'r afael â'r diwylliant taflu sy'n bodoli, yn enwedig yn y byd ffasiwn cyflym.
"Gall cost prom ysgol fod yn ormodol i rai teuluoedd sy'n mynd yn groes i'n hegwyddorion ysgol o degwch a chynhwysiant.
"Mae aelodau staff, llywodraethwyr ysgol a rhieni wedi dod ag eitemau hardd i mewn, gan gynnwys ffrogiau a siwtiau, ac ar ôl estyn allan i Zara yng nghanol y ddinas, rydym wedi derbyn cyfraniadau gan gynnwys esgidiau, bagiau llaw ac ategolion."
Ychwanegodd, "Mae'r cynllun wedi bod yn hynod o ysgogol i lawer o'n myfyrwyr a oedd wir wedi mwynhau pori drwy'r siop prom a rhoi cynnig ar wisgo detholiad eang o ffrogiau/siwtiau nes dod o hyd i'r un roedden nhw'n ei hoffi."
Canmolwyd yr ysgol gan yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau Sarah Merry: "Mae hwn yn syniad gwych a bydd o fudd i lawer iawn o deuluoedd yr ysgol.
"Mae prom diwedd blwyddyn yr ysgol yn ddefod ar daith bywyd i lawer o bobl ifanc ond nid yw'n dod heb ei bris. Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn ysbrydoli ysgolion eraill i ddatblygu eu mentrau dillad cynaliadwy eu hunain, gan helpu i sicrhau nad oes unrhyw ddisgybl yn teimlo ei fod wedi'i eithrio."