Back
Cynlluniau'n symud yn eu blaen i ddatblygu cartref newydd Ysgol Uwchradd Willows

22/6/2023

Gall Cyngor Caerdydd gyhoeddi bod y contract i gyflawni'r gwaith galluogi sy'n gysylltiedig â datblygu llety newydd ar gyfer Ysgol Uwchradd Willows wedi'i ddyfarnu i Morgan Sindall Construction.

Mae'r gwaith galluogi yn fuddsoddiad o £3.4 miliwn tuag at y cynllun diweddaraf i'w gyflawni o dan raglen Band B Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru a fydd yn gweld yr ysgol bresennol yn cael ei hadleoli a'i hailadeiladu ar dir oddi ar Heol Lewis, Y Sblot.

Bydd yr ysgol uwchradd newydd yn cynnig cyfleusterau chwaraeon cynhwysfawr, gan gynnwys neuadd chwaraeon, campfa, stiwdio ddrama a chaeau glaswellt a fydd ar gael i'r cyhoedd eu defnyddio y tu allan i oriau ysgol. 

Yn amodol ar gynllunio a chaffael, disgwylir i waith adeiladu'r campws newydd ddechrau yn 2023.

Dewiswyd Morgan Sindall Construction i ymgymryd â'r gwaith galluogi sy'n gysylltiedig â'r cynllun, sy'n cynnwys;

  • Gorchymyn cau ar Heol Lewis a gwaith priffyrdd perthnasol, er mwyn caniatáu i'r datblygiad fynd rhagddo
  • Adeiladu llwybrau teithio llesol i berimedr dwyreiniol y safle
  • Gosod cyfleustodau newydd ac adleoli gwasanaethau presennol
  • Cloddio a gwaith tir gan gynnwys tynnu rhai deunyddiau llygrol ar ôl tarfu ar y tir
  • Dymchwel adeiladau presennol ar Heol Portmanmoor ac ar safle Marchnad y Sblot
  • Gosod ffensys diogelwch o amgylch ffin y safle

Bydd y contractwyr hefyd yn symud ymlaen â dyluniad y brif ysgol, o dan gontract cyn-wasanaethau.

 

Dwedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Caerdydd, yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae'r gwaith galluogi sy'n gysylltiedig â'r prosiect hwn yn rhan annatod o'r datblygiad ac mae dyfarnu'r contract hwn yn garreg filltir gyffrous wrth sefydlu cartref newydd sbon i Ysgol Uwchradd Willows.

"Pan fydd wedi'i chwblhau, bydd yr ysgol newydd yn darparu cyfleusterau, arbenigedd a chyfleoedd addysgu eithriadol i fyfyrwyr, staff a'r gymuned, gan gynrychioli buddsoddiad sylweddol yn yr ardal leol."

Mae'r cynigion ar gyfer prif waith adeiladu'r ysgol newydd yn cynnwys;

  • Adleoli ac ailadeiladu'r ysgol ar dri pharsel o dir ym Marchnad Sblot a Heol Portmanmoor; gan gynnwys mynediad i'r caeau 3G yn yr hen ganolfan tenis a darparu digon o le i'r ysgol newydd heb golli unrhyw fan agored presennol.
  • Darparu amgylchedd dysgu o ansawdd uchel i ddisgyblion i gefnogi a gwella dysgu ac addysgu.
  • Ysgol â ffocws cymunedol gyda chyfleusterau ar gael at ddefnydd y gymuned gyfan y tu allan i oriau craidd yr ysgol.
  • Cyfleusterau gwell i gerddwyr i gefnogi trefniadau teithio llesol ar safle Heol Lewis
  • Lle ar gyfer 900 o ddysgwyr 11 i 16 oed, yn unol â'r galw a ragwelir
  • Disgyblion i aros ar safle presennol Ysgol Uwchradd Willows nes y caiff adeiladau newydd yr ysgol eu cwblhau i leihau tarfu posibl.

Dywedodd RobWilliams, cyfarwyddwr ardal Morgan Sindall Construction: "Mae'n fraint wirioneddol ennill y contract am y gwaith galluogi yn Ysgol Uwchradd Willows yn ninas fywiog Caerdydd, a fydd yn paratoi'r ffordd ar gyfer ysgol uwchradd â lle i 900 o ddisgyblion. 

"Rydym yn falch iawn o chwarae rhan ym muddsoddiad y cyngor yn y genhedlaeth nesaf a bydd y cynlluniau datblygu ar gyfer Ysgol Uwchradd Willows yn cael effaith wirioneddol ar addysg a dyfodol pobl ifanc yn Y Sblot a'r ardal gyfagos. 

"Mae'r ysgol hon yn enghraifft arall o'n hymrwymiad i greu lleoedd a gwelliannau ychwanegol mewn ysgolion ledled Cymru, gan sicrhau bod plant yn cael y cyfle gorau i gyrraedd eu potensial llawn drwy'r amgylcheddau y maent yn dysgu ynddynt."