Back
Ysgol Uwchradd Llanisien yn agor Siop ‘Prom' Gynaliadwy

22/6/2023

Mae Ysgol Uwchradd Llanisien yn cymryd agwedd ysgol gyfan tuag at gynaliadwyedd a lleihau gwastraff, drwy agor siop prom mewn ymgais i fynd i'r afael â diwylliant taflu.

Gall disgyblion fenthyca unrhyw wisg ar gyfer eu prom diwedd ysgol, yn rhad ac am ddim a'i ddychwelyd ar ôl y digwyddiad, diolch i roddion hael o siwtiau a ffrogiau. 

Mae'r fenter hefyd yn mynd i'r afael â'r pwysau ariannol y mae llawer o deuluoedd yn eu profi ar hyn o bryd, oherwydd yr argyfwng costau byw. 

Eglura'r Pennaeth, Sarah Parry; "O ran gwisg a dillad, rydyn ni eisiau mynd i'r afael â'r diwylliant taflu sy'n bodoli, yn enwedig yn y byd ffasiwn cyflym.

"Gall cost prom ysgol fod yn ormodol i rai teuluoedd sy'n mynd yn groes i'n hegwyddorion ysgol o degwch a chynhwysiant.

"Mae aelodau staff, llywodraethwyr ysgol a rhieni wedi dod ag eitemau hardd i mewn, gan gynnwys ffrogiau a siwtiau, ac ar ôl estyn allan i Zara yng nghanol y ddinas, rydym wedi derbyn cyfraniadau gan gynnwys esgidiau, bagiau llaw ac ategolion."

Ychwanegodd, "Mae'r cynllun wedi bod yn hynod o ysgogol i lawer o'n myfyrwyr a oedd wir wedi mwynhau pori drwy'r siop prom a rhoi cynnig ar wisgo detholiad eang o ffrogiau/siwtiau nes dod o hyd i'r un roedden nhw'n ei hoffi."

Canmolwyd yr ysgol gan yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau Sarah Merry: "Mae hwn yn syniad gwych a bydd o fudd i lawer iawn o deuluoedd yr ysgol.

"Mae prom diwedd blwyddyn yr ysgol yn ddefod ar daith bywyd i lawer o bobl ifanc ond nid yw'n dod heb ei bris. Rwy'n gobeithio y bydd hyn yn ysbrydoli ysgolion eraill i ddatblygu eu mentrau dillad cynaliadwy eu hunain, gan helpu i sicrhau nad oes unrhyw ddisgybl yn teimlo ei fod wedi'i eithrio."