Back
£1.3 miliwn o gyllid i gefnogi natur yng Nghaerdydd

21.6.23


Mae Partneriaeth Natur Leol sydd wedi plannu miloedd o fylbiau da i wenyn, wedi gosod ‘waliau byw' gwyrdd mewn ysgolion a chanolfannau cymunedol, ac sy'n helpu cymunedau Caerdydd i gymryd camau ymarferol i gefnogi bioamrywiaeth, wedi sicrhau £1.3 miliwn o gyllid.

Bydd y cyllid, o gynllun 'Lleoedd Lleol ar gyfer Natur' Llywodraeth Cymru, yn galluogi Partneriaeth Natur Leol Caerdydd i wneud y canlynol:

  • parhau â'i rhaglen blannu sy'n dda i bryfed peillio,
  • helpu i greu ac adfer cynefinoedd bywyd gwyllt,
  • gwella sut mae glaswelltir mewn parciau a mannau agored yn cael ei reoli ar gyfer bioamrywiaeth,
  • helpu grwpiau cymunedol i wneud eu mannau gwyrdd lleol yn well i fyd natur.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant, Parciau a Digwyddiadau, y Cynghorydd Jennifer Burke:  "Ers ei sefydlu yn 2020, mae Partneriaeth Natur Leol Caerdydd wedi gweithio'n agos gyda chymunedau ledled y ddinas, gan ddarparu grantiau prosiect, offer garddio, gwestai pryfed, waliau byw, hadau brodorol, a mwy, i'w helpu i gymryd camau cadarnhaol i gefnogi natur ym mharciau a mannau gwyrdd y ddinas.

"Gan fod natur yn dirywio'n fyd-eang, mae'r cyllid dwy flynedd hwn yn bwysig iawn ac yn golygu dwy flynedd arall lle gallwn barhau â'n gwaith i gefnogi'r byd natur ar garreg ein drws, yma yng Nghaerdydd."

Mae Partneriaeth Natur Leol Caerdydd yn rhan o rwydwaith adfer natur Cymru gyfan.

Os hoffech ymuno â rhestr ohebu Partneriaeth Natur Leol Caerdydd a derbyn newyddion a diweddariadau ar brosiectau, cynlluniau, gweithgareddau a digwyddiadau natur lleol, cysylltwch âbioamrywiaeth@caerdydd.gov.uk

Mae mwy o wybodaeth am y bartneriaeth ar gael yma: https://www.caerdyddawyragored.com/bioamrywiaeth/