Dyma ein diweddariad, sy'n cynnwys: dedfryd wedi'i gohirio ar gyfer perchennog canolfan chwarae Supajump; première ysgol i ffilm Wythnos Ffoaduriaid; Gwasanaeth Cofio Babanod; buddsoddi yng nghyrtiau tennis Caerdydd.
Derbyniodd unig gyfarwyddwr Supatramp Ltd ddedfryd carchar ohiriedig o 10 mis yn Llys y Goron Caerdydd
Mae perchennog canolfan chwarae dan do Caerdydd, Supajump, wedi cael dedfryd carchar ohiriedig o 10 mis, 200 awr o waith di-dâl a gorchymyn i dalu £10,000 mewn costau am gyfres o droseddau iechyd a diogelwch, ac am fethu ag adrodd i'r awdurdodau cywir am anafiadau i blant a chwaraeodd ar offer diffygiol.
Mae Supajump, sydd wedi'i leoli ym Mharc Trident ar Ffordd y Cefnfor, yn cynnig amrywiaeth o atyniadau i blant gan gynnwys wal ddringo; trampolinau; cyfarpar wedi'i lenwi ag aer; arena pêl-fasged ac osgoi'r bêl; pwll ewyn a bag aer mawr.
Ond rhwng Awst 2017 ac Awst 2019, bu chwe digwyddiad ar wahân ar y safle gyda phlant yn cael eu hanafu. Roedd y rhain yn cynnwys y canlynol:
Plediodd Philip Booth, 61 oed, a ddedfrydwyd heddiw yn Llys y Goron Caerdydd, yn euog i'r chwe throsedd yn ôl ym mis Medi'r llynedd. Mr Booth yw unig gyfarwyddwr Supatramp Ltd, sy'n gweithredu'r cyfleuster hamdden Supajump ar Ffordd y Cefnfor. Cafodd Supatramp Ltd hefyd ddirwy o £10,000.
Clywodd y llys fod y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir wedi ymweld â Supajump cyn i'r lleoliad agor adeg y Pasg yn 2017 i ymchwilio i adroddiadau nad oedd safon yr offer sy'n cael ei osod yn y cyfleuster hamdden yn cydymffurfio â deddfwriaeth.
Dywedodd arolygydd iechyd a diogelwch wrth Mr Booth fod angen cynnal asesiadau risg 'addas a digonol' er mwyn diogelu ei gwsmeriaid. Cynghorwyd Mr Booth hefyd y dylid asesu'r offer yn annibynnol cyn i'r cyfleuster gael ei agor i'r cyhoedd.
Er gwaethaf trafodaethau parhaus a nifer o ymweliadau gan Iechyd a Diogelwch fe fethodd Mr Booth â chydymffurfio ag argymhellion iechyd a diogelwch ac fe fethodd ag adrodd am anafiadau i blant a ddigwyddodd ar ei safle i'r awdurdodau priodol.
Ysgol i ddangos ffilm am y tro cyntaf i ddathlu Wythnos Ffoaduriaid 19 - 25
Bydd Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru'r Santes Fair yn cynnal perfformiad cyntaf ffilm o gerdd a ysgrifennwyd ac a berfformir gan ddisgyblion o Bwyllgor Llywio'r Ysgol Noddfa.
Mae 'A Sanctuary Alphabet - Zig Zag Journey' yn adrodd hanes cymuned ryfeddol Butetown - gan ddechrau wrth gerflun Betty Campbell ac yn gorffen wrth gerflun Ghandi.
Mae'r première yn rhan o raglen arbennig o ddigwyddiadau i ddathlu Wythnos Ffoaduriaid 19 - 25 Mehefin gydag uchafbwyntiau eraill gan yr ysgol a'r gymuned leol i gynnwys; Sgwrs gyda Hamed Amiri, awdur 'The Boy with Two Hearts', helfeydd trysor, Gwneud barcud, cinio cawl a sgwrs, gweithgareddau pontio'r cenedlaethau, sesiynau picnic rhyngwladol, yr offeren a gweddïo, taith gerdded Faithful Butetown a barbeciw Dewch at ei Gilydd.
Gallwch weld y rhaglen lawn o ddigwyddiadau yma:
Cafodd Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru'r Santes Fair y Forwyn statws Ysgol Noddfa ym mis Mehefin y llynedd, sy'n golygu ei fod yn lle sy'n meithrin diwylliant o groeso a diogelwch i bobl sy'n ceisio noddfa, gan gynnwys teuluoedd sy'n ceisio lloches a ffoaduriaid ac yn addysgu cymuned gyfan yr ysgol am yr hawl ddynol i noddfa.
Gan fyfyrio ar fwriadau'r ysgol sef Ansawdd, Amrywiaeth, Ffydd a Llewyrch, mae staff a'r gymuned wedi ymrwymo i feithrin empathi ac ymwybyddiaeth ryngddiwylliannol trwy hyrwyddo lleisiau a chyfraniadau pobl sy'n ceisio noddfa, annog dealltwriaeth o brofiadau pobl sydd wedi'u dadleoli a helpu i frwydro yn erbyn ystrydebau.
Gwasanaeth Coffa Babanod
Bydd Gwasanaeth Coffa i Fabanod am 11.30am ddydd Sul 25 Mehefin yng Nghapel y Wenallt ym Mynwent Draenen Pen-y-graig.
Cefnogir y gwasanaeth coffa gan y Gymdeithas Marw-enedigaethau a Marwolaethau Newyddenedigol (sef sefydliad Sands) a bydd yn cael ei arwain gan aelodau o dîm Caplaniaeth Ysbyty Athrofaol Cymru.
Yn ystod y gwasanaeth bydd cyfle i deuluoedd osod carreg goffa yn y bowlen atgofion.
Mae croeso i bawb fynychu, a bydd aelodau o gangen Caerdydd o Sands ar gael yn y gwasanaeth ym Mynwent Draenen Pen-y-Graig, CF14 9UA.
I deuluoedd yng Nghaerdydd sydd wedi colli babi, mae hefyd ardd 'Annwyl Mam' unigryw ym Mynwent y Gorllewin. Yn seiliedig ar stori llygoden ifanc o'r enw Dora sy'n dymuno y gallai ddweud wrth ei mam faint mae hi'n ei cholli hi, mae'r ardd gerflun 'Annwyl Fam' wedi'i chynllunio i helpu plant ifanc i ymdopi â cholli anwyliaid ac i fod yn fan coffa i rieni sydd wedi colli baban.
I gael rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth neu'r ardd Annwyl Fam, cysylltwch ag aelod o staff y Gwasanaethau Profedigaeth yn Amlosgfa Draenen Pen-y-graig ar 029 2054 4820.
Cyfle mawr i fuddsoddi yng nghyrtiau tennis lleol yng Nghaerdydd
Gallai cynllun tennis poblogaidd sydd wedi rhoi hwb i nifer y bobl sy'n cymryd rhan yn y gamp ym maestref Mynydd Bychan Caerdydd, ac a fyddai'n arwain at fuddsoddi cryn dipyn o arian mewn cyrtiau tennis lleol, gael ei gyflwyno mewn chwe pharc arall ar draws y ddinas.
Mae Tennis Cymru, corff llywodraethu Tennis yng Nghymru, wedi cysylltu â Chyngor Caerdydd gyda chynllun allai arwain at £750,000 yn cael ei fuddsoddi mewn 29 o gyrtiau tennis y ddinas.
Os cytunir arnynt, byddai preswylwyr hefyd yn elwa ar gyfleoedd i gymryd rhan mewn tennis trwy raglenni tennis fforddiadwy ac am ddim, a gweithgareddau a gynhelir gan hyfforddwyr lleol.
Bydd y cynnig i fuddsoddi a rheoli'r gwaith o redeg cyrtiau tennis y cyngor mewn 6 pharc, gan ddechrau gyda Gerddi Bryn Rhymni, Parc Fictoria a Chaeau Llandaf, yn cael ei ystyried gan Gabinet Cyngor Caerdydd ddydd Iau, 22 Mehefin. Os cytunir, byddai Tennis Cymru yn rheoli, gweithredu a chynnal y cyrtiau am o leiaf deng mlynedd.
Byddai hyn yn gweld y sefydliad: